Maes chwarae diamddiffyn cefn gwlad

Darllen am ddim

Dydd Sadwrn braf oedd hi, drannoeth y penderfyniad i gau tafarndai a bwytai Cymru. Ond roedd Gwynedd ar agor o hyd, mae’n rhaid, oherwydd mi ges i wybod trwy alwad ffôn fod yna ‘gannoedd o geir wedi bod ar draeth Morfa Bychan heddiw’. Gallwn weld ar y teledu fod cannoedd hefyd wedi parcio wrth droed yr Wyddfa, ac at hynny roedd y siopau’n llawn ymwelwyr.

Erbyn imi fynd am sbin i draeth Morfa i gael golwg fy hun, roedd hi’n hwyrhau brynhawn Sul, ond roedd 62 o foduron yno o hyd. Cyfrifais hwy’n stribedyn ar hyd y traeth: ceir bach efo teuluoedd yn eistedd ar eu pennau, motor homes a phawb yn llowcio hufen iâ, Range Rovers a ffrindiau’n chwerthin ac yn chwarae pêl. Daeth ci a neidio arnaf. Gofynnais i’r teulu gymryd mwy o ofal. Dywedodd y tad wrthyf am siarad Saesneg.

Diwrnod arferol arall felly ar lan y môr yn Eifionydd. ‘Stay at home to stay safe’, meddai Boris Johnson. Ond mae’n amlwg nad yw rheolau felly’n cyfrif yng nghefn gwlad Cymru. Maes chwarae anferth ydym ni, a naw wfft i iechyd pobl leol.

Mi fydd Cymru’n wynebu dyddiau gyda’r anoddaf yn ei hanes gyda’r coronafirws. Mae ein poblogaeth yn hen, yn dlawd ac yn ôl-ddiwydiannol (ac felly â graddfa uchel o salwch hirdymor), ac mae ein gwasanaeth iechyd yn gwegian ers blynyddoedd. Mae poblogaeth yr ardaloedd twristaidd glan môr yn hynod oedrannus. Synnwn i ddim pe bai hanner pobl Morfa Bychan dros eu trigain. Roedd angen gweithredu llym, di-oed er mwyn gwarchod pobl leol.

Ni fydd rhwystro twristiaeth yn ddigon i atal lledaeniad yr aflwydd. Mae Covid-19 yn cylchdroi ymhlith Cymry yng Ngwynedd ers sawl wythnos, a bu o leiaf un farwolaeth yma. Gall synio am yr haint fel firws ymwelwyr ein dallu i’r ffaith ei fod yma eisoes.

Ond pa synnwyr fu mewn gwaethygu pethau drwy ganiatáu i filoedd ddod am sbri o’r dinasoedd gan gario dos newydd o’r haint i bob cwr o’r Gymru wledig? Bu i’r firws ledu i gefn gwlad Tsieina wedi i deithwyr o Wuhan fynd yno i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd. Yn yr Eidal, bu i drigolion y gogledd gario’r haint i’r de.

Hwyrach y bu i drybini cefn gwlad fod yn rhan fechan o benderfyniad hwyrfrydig Boris Johnson i gael lockdown. Ac nid Llundain yn unig oedd yn araf deg. O ran ei hawydd i weld gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban yn mynd yn ei blaen, ac anallu truenus i weithredu mewn da bryd i gau meysydd carafanio a gwersylla, bu Llywodraeth Cymru yn hynod anghyfrifol hefyd. Llym fydd y feirniadaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus anochel.

Simon Brooks
Ebrill 2020