Newid byd – newyddiadura yn ystod argyfwng

Darllen am ddim

Ar ddydd Sadwrn gwyntog ganol Mawrth, mentrais ar daith gerdded gyfarwydd yng ngogledd Swydd Gaint, o dref hynafol Faversham i bentref Seasalter, cyn mwynhau tipyn o ginio yn nhafarn arbennig y Sportsman, ac yna dychwelyd yr un ffordd. Mae’n rhyw ddeng milltir o daith i gyd, ac yn ddigon didrafferth fel arfer.

Serch hynny fe roes y daith yn ôl broblem enfawr i mi. Datblygais boenau enbyd yn y coesau a’r cluniau a’r ysgwyddau. Roedd cerdded – yn araf, hyd yn oed – yn anodd tu hwnt, a bu bron i mi golli’r trên yn ôl i Lundain. A dyna ddechrau profi effeithiau niwmonia, a’r meddyg yn gwbl argyhoeddedig mai Covid-19 oedd wrth wraidd y peth, er na chafwyd unrhyw brawf o hynny yn ffurfiol. Dychwelais i’r gwaith ar ôl tair wythnos o orffwys gan ddeall yn iawn beth oedd natur ffyrnig y tostrwydd.

Fel rheol, mae prif ystafell newyddion y BBC yn Llundain yn ferw o brysurdeb. Proses ddi-dor yw cynnal gwasanaeth newyddion parhaus, 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Ac mae’r broses honno yn dibynnu ar gyfraniad cannoedd o newyddiadurwyr a thechnegwyr. Y gwir yw bod gormod o staff yn gweithio ar y prif lawr fel arfer, ac mae prinder desgiau yn destun cwyno di-ben-draw.

Does neb yn cwyno bellach: mae’r rheolau ymbellhau yn golygu bod pawb yn eistedd ar wahân, mae nifer sylweddol o gyd-weithwyr wedi bod yn absennol oherwydd effeithiau’r firws, ac mae’r BBC yn ceisio cyfyngu nifer y staff sy’n bresennol bob dydd a nos. Daw glanhawyr o gwmpas yn gyson, ac mae system draffig unffordd i’r sawl sy’n cerdded o gwmpas. O ran y rhaglenni, bu’n rhaid trefnu nifer o gyfraniadau a chyfweliadau ar lwyfannau digidol, ac fe welwyd mwy na digon o gefndir cypyrddau llyfrau yng nghartrefi’r gwesteion!

Ond beth am yr her newyddiadurol? Profiad cyfarwydd erbyn hyn, yn anffodus, yw bod yn hoff darged i benboethiaid y chwith a’r dde – ar yr un pryd. Gormod o ‘addoli’ Boris a’i griw, yn ôl rhai, a gormod o ymosod ‘sinigaidd’ ar weinidogion sy’n ‘gwneud eu gorau’ dan ‘amgylchiadau anodd’, yn ôl eraill. Y gwir yw bod gweinidogion yn wynebu cwestiynau di-lol bob dydd. Pam y bu gwledydd Prydain mor araf i ddechrau profion? Pam y mae offer a dillad diogelwch wedi bod mor brin? Pam y mae’r sefyllfa yng nghartrefi’r henoed wedi dod i sylw’r llywodraeth yn gymharol hwyr yn y dydd? Do, fe ofynnwyd y cwestiynau yma droeon. Mater i’r gwylwyr yw nodi’r atebion a ffurfio barn. Ein gwaith ni yw gosod y ffeithiau yn glir – cymharu ein sefyllfa ni gyda gwledydd eraill, ystyried y cyngor arbenigol yn y gwledydd hynny sy’n gwneud yn well na ni – a chynnig dadansoddiad sy’n bwyllog ac yn gytbwys.

Un peth arall sy’n haeddu trafodaeth yw cyflwr a dyfodol y BBC ei hun. Mae’r argyfwng wedi dangos bod y mwyafrif llethol o’r boblogaeth yn dibynnu ar y BBC am eu newyddion, a bod cyfraniad a chyrhaeddiad y BBC yn ddiymwad. Ond mae dyfodol ariannol y BBC yn gwbl fregus ac anniogel ar hyn o bryd. Tybed a fydd yr elyniaeth amlwg – ar y dde a’r chwith – yn newid yn sgil yr argyfwng? Go annhebyg. Gwas chwipio cyfleus i wleidyddion o bob lliw fu’r BBC erioed. Ein gwaith ni yw gwneud ein gorau – dan amgylchiadau digon heriol – i ddarparu gwasanaeth sy’n addas ac yn eang.

Huw Edwards
Mai 2020