Ddechrau Chwefror eleni, roeddwn i gydag eraill o’m hen ffrindie a chydnabod, yn cael fy anrhydeddu gan Gymdeithas yr Iaith am fy rhan yn y brotest gynta honno ar Bont Trefechan 60 mlynedd yn ôl.
Roedd hi’n fraint anhygoel i gael derbyn eu gwerthfawrogiad. Ond teimlwn yn annheilwng iawn. Oni fu degau ar streiciau llwgu ac mewn carchar wedi hynny i sicrhau bod ein hiaith yn cael statws ar ohebiaeth swyddogol, ar arwyddion ffyrdd, a bod inni Sianel Gymraeg? Ei bod hi’n hyfyw yn ein bywydau? Pethau y mae ein plant a’n hwyrion yn eu cymryd yn ganiataol?
Roedden nhw i gyd yn ddewrach na fi. Wnes i ddim ond dilyn fy newydd-ddyweddi gwalltgoch a’i fflam o gariad at ei wlad a’i iaith, gydag eraill o’r un anian, i herio olwynion traffig prysur yr unig fynedfa i Aberystwyth ar bnawn rhewllyd o Chwefror.