Nid glaw yw’r broblem ond diffyg synnwyr

Darllen am ddim

Dwi ddim yn wyddonydd o fath yn y byd. Ond fe wn i’n iawn nad lol botes maip yw’r holl sôn sydd am newid hinsawdd ac am y blaned yn cynhesu. Fel pawb sy’n berchen gardd a lawnt gallaf hawlio fod gen i brawf o hynny. Ugain mlynedd yn ôl, pan symudais yma gyntaf, roeddwn i’n gallu rhoi’r gorau i dorri’r glaswellt yn gynnar ym mis Hydref. Bellach mae’r borfa’n dal i dyfu tan ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr. Ond er bod hynny’n berffaith wir, ydi hi’n iawn imi ddefnyddio twf y glaswellt yn fy ngardd fel prawf digamsyniol o newid hinsawdd? Pwy sydd i ddweud na ddigwyddodd yr un peth yn union gan mlynedd, dyweder, yn ôl? Ar y llaw arall, mae bron y cyfan o wyddonwyr difrif y byd yn cydnabod bod yr Arctig o bobman yn cynhesu erbyn hyn yn sobr o gyflym.

Dan amgylchiadau o’r fath roedd yn anochel y byddai cynhesu byd-eang yn cael y bai gan lawer am y cyhoeddiad fod Prifwyl Llanrwst eleni wedi gwneud colled ariannol o £158,982. Wrth reswm, mae hi’n ffaith anwadadwy mai’r tywydd fu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r golled wrth i awdurdodau’r Eisteddfod orfod cau Maes B ddeuddydd yn gynnar. Ond nid ffenomenon newydd yw tywydd mawr yn ystod wythnos y Steddfod. Fe ddaru hi fwrw a chwythu’n ddi-baid, bron, yn Abergwaun yn 1986. Ysgogwyd Machraeth gan y ddrycin a’r dilyw i weithio englyn sy’n dal i gael ei ddyfynnu hyd y dydd heddiw:

O dan draed mae’r mwd yn drwch, – yn sicli
          Fel siocled neu bibwch.
     I hwn ni cherddai’r un hwch
     Ella, ond mewn tywyllwch.

Ni ellir beio neb am y tywydd. Ond da yw deall gan y Prif Weithredwr, Betsan Moses, fod camau synhwyrol yn mynd i gael eu cymryd – nid cyn pryd – i sicrhau nad yw’r Steddfod byth eto’n dewis safleoedd sydd â hanes o fynd dan ddŵr neu ddewis tir corsiog, gwlyb. Mae cwestiynau sylfaenol y bydd yn rhaid i’r archwilwyr annibynnol a benodir gan yr Eisteddfod eu gofyn. Sut y penderfynwyd ar leoliad y safle a ddewiswyd yn wreiddiol yn Llanrwst? Paham yr anwybyddwyd rhybuddion am beryglon llifogydd? Paham yr arhoswyd tan Ionawr 2019 cyn ymgynghori am y tro cyntaf â Chyfoeth Naturiol Cymru. A pham yr oedd yn fis Mawrth cyn y deallwyd na ellid yswirio’r Eisteddfod dan yr amodau arfaethedig? (Nid bod angen athrylith i ddod i’r casgliad hwnnw.) Erbyn hynny roedd y tir y bwriadwyd cynnal y Brifwyl arno wedi bod dan ddŵr. Teimlais reidrwydd ar y pryd i ofyn yn y golofn hon pam y bu i’r Eisteddfod fod mor hwyrfrydig i weithredu. Wedi’r cyfan roedd problemau difrifol wedi bod ym Modedern yn 2017 pan anwybyddwyd rhybuddion taer pobol leol fod y safle a ddewiswyd yn ddiarhebol wlyb. Pan fo brwyn yn tyfu ymhobman mae hynny’n gliw pur dda.

O ran tegwch ni ellir gorbwysleisio’r ffaith nad oedd Betsan Moses wedi ei phenodi pan gafodd eisteddfodau Llanrwst, heb sôn am Fodedern, eu trefnu. Dylem barchu a chefnogi ei hymdrechion i wneud yn sicr y bydd lleoliadau’r dyfodol yn cael eu hystyried yn llawer trylwyrach. A doethach.

Ar yr un pryd, roedd yn hollol resymol ei bod hi wedi mynd ati i ddatgan yn glir mai 12% yn unig o gost cynnal y Brifwyl (£5.6 miliwn) sy’n dod o’r pwrs cyhoeddus. Mae mynediad i amgueddfeydd yn rhad ac am ddim ers blynyddoedd. Gwyddom sut mae hynny wedi ychwanegu’n rhyfeddol at y niferoedd sy’n eu mynychu. Os ydi Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg, meddai Ms Moses, yna dylai roi rhagor o gymorth i’r sefydliad pwysicaf sydd gennym i hyrwyddo’r Gymraeg, un sy’n mynd â’r iaith i lefydd fel y Fenni gan ei bywiocáu yno mewn modd na fyddai neb wedi gallu ei ddychmygu.

Vaughan Hughes
Rhagfyr 2019 i Ionawr 2020