‘No more devolve and forget’ – slogan i gladdu gwladwriaeth?

Adeilad Senedd Cymru hefo Jac yr Undeb wedi ei osod drosto
Darllen am ddim

Wrth i’r Ceidwadwyr fynd ati i danseilio neu hyd yn oed ddymchwel datganoli, mae’r awdur yn rhesymu mai canlyniad anochel hynny fydd hybu cenedlaetholdeb yn yr Alban a Chymru.

Mae gwleidyddiaeth Brydeinig yn dyfod yn fwyfwy trwyadl Seisnig. Gyda Michael Gove wedi ei esgymuno o rengoedd blaen y Torïaid nid oes bellach nac Albanwr na Chymro – na neb sy’n deall gwleidyddiaeth y ddwy wlad – yn chwarae rôl ddylanwadol ym mywyd y blaid honno. Mae’r ffaith fod Keir Starmer yn pwyso mor drwm ar Gordon Brown, gŵr a gollodd etholiad cyffredinol dros ddegawd yn ôl ac a ildiodd ei le yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2015, yn dweud llawer am wendid Llafur yn yr Alban. Er bod dominyddiaeth etholiadol Llafur yng Nghymru yn parhau, ymddengys mai prin yw dylanwad unrhyw aelod seneddol Cymreig yn y cylch cyfrin o gwmpas Starmer. Ydi, mae o’n llawiau hefo aelod Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris. Eto, go brin ei bod hithau’n ddylanwad strategol o bwys ar ei phlaid a’i harweinydd. Ymddengys fod barn a syniadau Mark Drakeford yn cyfrif llai fyth.

Canlyniad anorfod sefyllfa o’r fath yw bod bwlch amlwg yn agor rhwng calon Seisnig y wladwriaeth a’i chyrion.

Y gwir amdani, wrth gwrs, yw na fu na erioed lawer o ddiddordeb ymysg gwleidyddion a gweision sifil hŷn Llundain yn sefydliadau datganoledig yr Alban a Chymru, a’r wleidyddiaeth newydd a ddatblygodd yn eu sgil. Yn y pen draw, rydym yn rhy fach ac yn rhy ddistadl i gyfrif am lawer ym meddyliau’r rheini sy’n llywodraethu’r rhan fwyaf o ddigon o’r wladwriaeth. Serch hynny, tan yn ddiweddar yr oedd ambell i ddolen gyswllt yn parhau – yn unigolion ac yn waddol hen berthnasau – a’r rheini’n ddigon i sicrhau nad oedd anwybodaeth a diffyg diddordeb San Steffan a Whitehall yn ormod o faen tramgwydd.

Dechreuodd pethau newid yn sgil canlyniad refferendwm Brexit yn 2016. Dwn i ddim oedd Theresa May yn ddiffuant ai peidio pan addawodd y byddai lleisiau llywodraethau Caeredin a Chaerdydd yn cael eu clywed yn y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Bid a fo am hynny, nid felly y bu. Yn hytrach, fel y gŵyr pawb a gymerodd ddiddordeb yn y mater, fe’u hanwybyddwyd fwy neu lai’n gyfan gwbl.

Eto i gyd, mae hefyd yn wir dweud bod y modd y cafodd y ddwy lywodraeth eu hallgáu yn destun embaras yn Rhif 10 ar y pryd. Roedd sylweddoliad nid yn unig fod y driniaeth yn anfoesgar ac yn groes i’r hyn a addawyd, ond ei bod yn annoeth o safbwynt dyfodol y wladwriaeth ei hun. O’r herwydd, gwelwyd ymdrech i ailadeiladu pontydd, er enghraifft trwy gyfrwng diplomyddiaeth lednais y Dirprwy Brif Weinidog de facto, David Lidington.

Bu agwedd llywodraeth Boris Johnson yn wahanol o’r cychwyn cyntaf. Yn ystod ei deyrnasiad trychinebus, daeth diffyg diddordeb yn y llais datganoledig yn fater o bolisi yn hytrach nag amryfusedd – yn destun balchder, hyd yn oed. Do, fe fu Gove yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad, ond i bob pwrpas yr oedd ar ei ben ei hun. Yn ystod y pandemig yn arbennig, gwelwyd Llundain yn troi tu min ar bob ymdrech i sicrhau hyd yn oed y radd fwyaf elfennol o gyfathrebu a chydlynu. Haws o lawer oedd ymollwng i felltithio hyfdra Caeredin a Chaerdydd yn arddel eu pwerau a’u mandad eu hunain a meiddio gwneud pethau’n wahanol.

Ni waeth pwy fydd yn ei olynu, Liz Truss neu Rishi Sunak, mae’n amlwg mai’r bwriad yw parhau i ddilyn yn ôl traed ein Prif Weinidog annigonol. Yn hytrach na pharchu’r mandadau democrataidd swmpus a estynnwyd i’w llywodraethau gan etholwyr Cymru a’r Alban, bydd y llywodraeth nesaf yn Llundain yn parhau i’w colbio a’u tanseilio. A hynny nid yn unig yn ffigurol ond yn llythrennol hefyd, wrth iddynt ddal ati i ailganoli pwerau.

I’r graddau y cyflwynwyd unrhyw rationale deallusol ar gyfer y ffordd y mae’r Torïaid bellach yn ymagweddu tuag atom ni boblach y cyrion, caiff ei grisialu mewn slogan a glywir yn gyson o enau gwleidyddion Ceidwadol a’u hystlyswyr yn y wasg megis yr Athro Vernon Bogdanor: ‘No more devolve and forget.’

Mae dwy ragdybiaeth yn sail i’r slogan, y naill yn deillio o refferendwm annibyniaeth 2014 a’r llall yn gynnyrch refferendwm Brexit 2016. Mae’n werth ystyried y ddwy yn eu tro.

Soniwyd am y rhagdybiaeth gyntaf eisoes yn y golofn hon, sef y ‘wers’ a ddysgodd y llywodraeth Brydeinig am yr angen i wneud mwy i gyhoeddi rhinweddau a chyfraniad Yr Undeb bondigrybwyll yn yr Alban a thrwy estyniad yma yng Nghymru hefyd. Dyma’r meddylfryd a esgorodd ar y cynllun gwallgof i godi baner Jac yr Undeb Gogledd-Coreaidd o fawr ar adeilad newydd y llywodraeth Brydeinig yng nghanol Caerdydd. Cyfrannodd hefyd at gynllun yr un llywodraeth i ddosrannu symiau cymharol fychan i amryfal gynlluniau lleol ar hyd a lled y wlad. Naw wfft i’r ffaith fod hyn yn ffordd aneffeithiol a chwbl anstrategol o weithredu. Y peth pwysig – yr unig beth pwysig – yw gallu creu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yn amlygu a dathlu haelioni ein meistri ger Tafwys.

Cyfraniad canolog Brexit fu gorseddu dealltwriaeth hynod amrwd o ‘sofraniaeth seneddol’ fel prif os nad unig egwyddor gyfansoddiadol y wladwriaeth. Ym meddyliau lladmeryddion Brexit, fe ddylai’r llywodraeth (sic) Brydeinig allu gwneud unrhyw beth mewn unrhyw le a hynny’n gwbl ddidramgwydd. Wrth reswm mae’n anodd cysoni hyn â realiti datganoli fel y datblygodd dros y ddau ddegawd diwethaf. O ganlyniad rhaid symud tuag at fodel newydd o ddatganoli sy’n gyson â dogma ‘sofraniaeth seneddol’. Mae hwnnw’n fodel o ddatganoli sy’n caniatáu i’r llywodraeth Brydeinig ymyrryd mewn meysydd polisi hyd yn oed os ydynt wedi eu datganoli a hynny’n gwbl ddidramgwydd: ‘no more devolve and forget’.

Yn eu trahauster a’u hanwybodaeth, mae’r Ceidwadwyr yn anwybyddu dwy broblem sylfaenol sydd ymhlyg yn y slogan, y naill yn broblem ddemocrataidd a’r llall yn deillio o’r ansefydlogrwydd parhaus sy’n rhwym o ddilyn o geisio ei gweithredu.

Crëwyd seneddau a llywodraethau Cymru a’r Alban fel sefydliadau cenedlaethol ar gyfer dwy wlad sy’n eu hystyried eu hunain yn genhedloedd, a hynny yn sgil pleidleisiau democrataidd. Lleiafrif bychan yn y ddwy wlad sy’n cefnogi’r Ceidwadwyr ac mae cefnogaeth y blaid honno wannaf ymysg y rheini sy’n eu hystyried eu hunain yn Albanwyr neu’n Gymry. Mewn cyd-destun o’r fath, canlyniad cwbl ragweladwy unrhyw ymdrech gan lywodraeth Dorïaidd yn Llundain i ymyrryd mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, a hynny’n groes i ewyllys y llywodraethau datganoledig, fydd hybu’r gefnogaeth i genedlaetholdeb.

Mae Brexitwyr Ceidwadol yn barod iawn i’n hatgoffa o’r mandad democrataidd a sicrhawyd ar 23 Mehefin 2016. Digon teg. Ar yr un pryd, maent fel petaent yn ddall i’r ffaith fod datganoli ei hun wedi ei seilio ar fandad democrataidd. Byddai plaid ddoeth yn oedi cyn ceisio gorfodi’r naill fandad i ryw fath o gystadleuaeth â’r llall. Ond fel y gwyddom, nid yw doethineb yn un o rinweddau Ceidwadaeth filwriaethus y dwthwn hwn.

Mae polisi o ‘no more devolve and forget’ hefyd yn sicr o esgor ar ansefydlogrwydd mawr.

Yn syml iawn, os bydd llywodraeth Llundain yn gallu bwrw ati i ymyrryd mewn ffordd gwbl fympwyol mewn unrhyw faes polisi sy’n digwydd denu ei sylw, yna bydd llunio a gweithredu polisïau hirdymor ar y lefel ddatganoledig fwy neu lai’n amhosibl. Heb wybod pwy sy’n gyfrifol am beth, mae’n amhosibl i lywodraethau gynllunio’n effeithiol ac i ni fel dinasyddion eu dal yn gyfrifol am eu gweithredoedd. Dyna’n union pam yr ydym wedi treulio cymaint o’r ugain mlynedd diwethaf yng Nghymru yn ceisio symud y ‘setliad’ datganoli i gyfeiriad sy’n fwy sad a sefydlog. Ond yn awr, mae’r Torïaid am droi’r cloc yn ôl gan weld mympwyaeth ac ansicrwydd fel rhinweddau yn hytrach na gwendidau.

Ond unwaith yn rhagor, canlyniad cwbl ragweladwy symud i’r cyfeiriad hwn fydd cynyddu’r galw am ddatganoli mwy pellgyrhaeddol fyth, a hynny er mwyn ein galluogi i amddiffyn ein breiniau cenedlaethol. Un ai hynny neu gyrchu tuag at yr annibyniaeth a fyddai’n ein galluogi i dorri ein cwys ein hunain heb boeni am beth y mae plaid a llywodraeth estron yn ei feddwl.

Petai’r Blaid Geidwadol yn deall gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban, fe fyddent yn deall hefyd pa mor beryglus i ddyfodol y wladwriaeth y maent yn honni ei hanwylo yw ‘no more devolve and forget’. Ond nid felly y mae. Unwaith yn rhagor, gwelwn mai’r rhai sy’n eu hystyried eu hunain yn geidwaid yr Undeb yw’r bygythiad mwyaf i’w pharhad.

Richard Wyn Jones
Medi 2022