Pan gyll y call...

Darllen am ddim

Meddyliau wedi’r etholiad

Pan ddaeth y diwedd, fe ddaeth yn arswydus o sydyn. Am rai misoedd dros yr haf a dechrau’r hydref y llynedd roedd hi’n ymddangos yn bosib na fyddai’r Brecsitwyr yn llwyddo i gael y maen i’r wal wedi’r cyfan. Wrth iddynt gael eu gorfodi i symud o haniaeth ac ystrydeb sloganau megis ‘take back control’ i drafod manylion y math o berthynas y mae’r Deyrnas Gyfunol yn ei deisyfu â’i chymdogion, fe ddechreuodd y tensiynau mewnol a’r gwrthddywediadau sylfaenol sy’n nodweddu’r glymblaid ‘Gadael’ frigo i’r wyneb. Ac am gyfnod roedd y parlys seneddol a grëwyd gan hyn yn bygwth esgor ar y cyfle i gynnal ail refferendwm er mwyn cadarnhau penderfyniad 2016 a rhoi sêl bendith ar delerau unrhyw Gytundeb Ymadael. Pe byddai hynny wedi digwydd, dim ond rhywun dewr iawn fyddai wedi proffwydo’r canlyniad. Ond o leiaf roedd posibilrwydd y gallasai fod wedi profi’n wahanol i’r tro diwethaf.

Ond na, nid felly y bu. Am resymau sydd ar hyn o bryd yn parhau braidd yn aneglur – a gobeithio’n wir y bydd rhywun yn llwyddo i ddwyn perswâd ar Guto Bebb i roi pin ar bapur i gofnodi’r holl hanes o’i fangre unigryw ac awdurdodol yntau (Amdani Guto!) – y glymblaid a oedd am gynnig ail gyfle i ddwys-ystyried y penderfyniad pwysicaf yn hanes diweddar y wladwriaeth a brofodd yn fwyaf brau.

Mae’n gwbl amlwg pam yr oedd y Ceidwadwyr mor awyddus i alw etholiad cyffredinol. Roedd Brexit mewn perygl o golli pob momentwm. O gynnal etholiad fe ellid dychwelyd at sloganau bas – ‘Get Brexit done’ – heb orfod poeni am drafod y math o fanylion tyngedfennol a oedd wedi profi’n ffasiwn faen tramgwydd. Bu’r Brecsitwyr yn well o lawer am ymgyrchu nag am lywodraethu neu negodi, felly pa well ffordd o ailgynnau’r tân na galw etholiad cyffredinol ac ymgyrchu yn erbyn Marcsiaeth, mewnfudwyr a – Duw a’n gwaredo – y ‘sefydliad gwleidyddol’?

Anghofiwch y rhagrith noeth a’r ffuantrwydd am ennyd; edmygwch y Maciafeliaeth. Nid oedd dim i sefyll yn ffordd gwireddu’r strategaeth. Diarddelwyd Ceidwadwyr o Aelodau Seneddol a roddodd oes o wasanaeth i’w plaid i sicrhau bod y Torïaid yn ufudd-unffurf yn eu cefnogaeth i’r arweinyddiaeth. Dyma blaid sy’n honni eu bod yn cefnogi unigolyddiaeth ond sydd bellach yn gwbl Leninaidd o ran ei disgyblaeth fewnol. Yn fwy trawiadol fyth, yr eiliad y daeth y berthynas â hwy yn rhwystr, yna fe aberthodd y Brecsitwyr eu cyfeillion mynwesol ym mhlaid Democratiaid Unoliaethol Ulster yn y modd mwyaf ciaidd a didostur. Gan brofi gwirionedd yr hyn y mae fy nghyd-weithwyr ym Mhrifysgol Caeredin a minnau wedi bod yn ei ddadlau ers tair blynedd, sef bod Brecsitwyr yn ystyried gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysicach na pharhad Undeb y Deyrnas Gyfunol, cytunodd Boris Johnson i greu ffin economaidd rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y wladwriaeth. A hynny nid yn unig heb unrhyw wrthwynebiad gan aelodau’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (sic), ond gan gael ei ganmol i’r entrychion am ei sgiliau negodi honedig gan newyddiadurwyr a gollodd eu gallu i feddwl yn annibynnol ac yn wrthrychol.

Nid oedd dim i sefyll yn ffordd etholiad a sefydlu mwyafrif braf er mwyn i Johnson gael gwneud fel y mynnai (beth bynnag yn y byd ydi hynny – mae’r maniffesto’n uffernol o denau).

Tra mae rhesymeg a strategaeth y Ceidwadwyr yn eglur, mae’n anos o lawer deall pam y bu i’r gwrthbleidiau – gydag eithriad anrhydeddus grŵp seneddol Plaid Cymru – benderfynu rhoi rhwydd hynt iddynt trwy ganiatáu’r union etholiad a fyddai’n cynnig cyfle i Johnson a’i blaid eu llusgo’u hunain o’r gors yr oeddynt wedi ei chreu ar eu cyfer eu hunain. Ond dyna ddigwyddodd wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP ac, yn y pen draw, Llafur syrthio yn eu tro i’r fagl yr oedd Dominic Cummings wedi ei gosod ar eu cyfer.

O gofio eu canlyniad etholiadol gwirioneddol drychinebus, gellid maddau inni am gredu bod y Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi colli eu pennau’n gyfan gwbl. Be ’haru nhw? Sut yn y byd y gallai plaid sy’n gwybod yn well na neb am y problemau a gyfyd i bleidiau llai mewn cyfundrefn bleidleisio ‘gyntaf i’r felin’ gredu y gallai’r achos yr oeddynt yn honni ei gynrychioli elwa o gynnal etholiad yng nghyd-destun pegynnu eithafol Brexit? Dyma’r ail dro mewn cwta bedair blynedd y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’u twyllo eu hunain a’u darpar gefnogwyr i gredu bod yr arolygon barn yn anghywir. Ond o leiaf yn 2015 nid oedd dewis ond cynnal etholiad cyffredinol gan fod tymor y senedd yn dirwyn i ben. Yn Rhagfyr 2019 fe ddewisodd y Democratiaid Rhyddfrydol hwyluso ac annog etholiad nad oedd yn rhaid ei gynnal ac y dylai pob synnwyr fod wedi awgrymu na ddylid ei gynnal. Roedd hyn ar sail ego, uchelgais a hunan-dwyll. Go brin y dylai unrhyw un gymryd unrhyw beth a glywir ganddynt o ddifrif am flynyddoedd maith i ddod. Yn wir, o ystyried y canlyniad, onid yw’n bryd i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ystyried eu holl ddyfodol fel plaid? Siawns nad oes gwell ffyrdd o hybu eu gwerthoedd na hyn...

Mae achos yr SNP ychydig yn wahanol, wrth gwrs. Dyma etholiad sydd nid yn unig wedi sicrhau canlyniad rhyfeddol o dda i blaid Nicola Sturgeon ond sydd hefyd wedi cryfhau’r achos dros ail refferendwm ar annibyniaeth. Ar un ystyr, felly, mae’n anodd beio’r blaid honno am gymryd llwybr gwahanol i’r un a gymerodd Plaid Cymru a galw am etholiad cynnar. Eto fyth, mae hefyd yn anodd osgoi’r casgliad fod yr SNP wedi blaenoriaethu tactegau ar draul strategaeth. Yn un peth, mae nifer yn tybio bod yr SNP wedi bod yn awyddus i gynnal etholiad cyn yr achos llys ymhen ychydig wythnosau lle bydd cyn-eilun a chyn-arweinydd y blaid, Alex Salmond, yn wynebu cyhuddiadau troseddol difrifol. Ar ben hynny, tra mae canlyniad mis Rhagfyr wedi cryfhau’r achos dros ail refferendwm, mae hefyd yn ddiau wedi gwneud y ddadl economaidd dros annibyniaeth yn anos. Po fwyaf y mae gweddill y Deyrnas Gyfunol yn pellhau o’r Undeb Ewropeaidd – hynny yw, po ‘galetaf’ y Brexit – po fwyaf yr her economaidd a fydd yn wynebu Alban annibynnol wrth geisio cydbwyso’r angen i barhau i fasnachu hefo’r hyn sy’n weddill o Brydain Fach a’r rheidrwydd i ddatblygu cysylltiadau masnachol hefo gweddill Ewrop. O bersbectif hirdymor adeiladu gwladwriaeth Albanaidd newydd, oni fyddai wedi bod yn ddoethach i’r SNP ddefnyddio ei dylanwad i geisio cadw’r wladwriaeth y mae am ymadael â hi mor agos â phosib at yr Undeb Ewropeaidd?

Gan droi wedyn at Lafur, er gwaethaf nonsens Jeremy ‘ennill y ddadl’ Corbyn, mae’n gwbl amlwg fod yr etholiad wedi profi’n drychineb llwyr i’r blaid. Fel y gwelwyd mewn gwledydd eraill ar hyd a lled y byd democrataidd, pan gollir pleidleiswyr ‘traddodiadol’ nid oes unrhyw warant y byddant byth yn ‘dychwelyd’. Ac yn wir, os mai hunaniaeth sydd bellach yn gyrru penderfyniadau pleidleisio (fel yr wyf wedi bod yn dadlau ers cantoedd yn y golofn hon), mae pob rheswm i gredu y bydd gogledd Lloegr yn dir cynyddol anodd i Lafur, ac mai dim ond megis dechrau oedd 2019. Felly pam yn y byd y gwnaeth arweinyddiaeth Llafur ildio i’r alwad am etholiad diangen?

Y gwir amdani yw ei bod yn anodd i unrhyw blaid unigol sefyll yn erbyn y llif pan mae’r gweddill yn mynnu ei bod yn amser rhoi cyfle i’r ‘bobl gael lleisio eu barn’ (sydd, gyda llaw, yn fwy fyth o reswm dros longyfarch Aelodau Seneddol Plaid Cymru ar eu gwrhydri). Ond wedi dweud hynny, roedd gan Lafur ddewis. Ac rwy’n tybio bod Ewrosgeptigiaeth waelodol Corbyn a’i ystlyswyr ffyddlonaf yn ffactor hollbwysig. Iddyn nhw, nid rhwystro’r niwed economaidd a chymdeithasol a fydd yn ganlyniad i Brexit – ac unwaith yn rhagor, po galetaf y Brexit, po fwya’r niwed – oedd y flaenoriaeth. Yn hytrach, roeddynt â’u bryd ar ‘symud’ y drafodaeth wleidyddol at faterion mwy cysurus a chyfarwydd megis ‘cyni’ a’r gwasanaeth iechyd. A gan fod llawer ohonynt fel petaent yn credu bod arolygon barn nid yn unig yn anghywir ond yn gyfystyr â rhyw fath o gynllwyn cyfalafol i atal twf ‘sosialaeth’, roedd hi’n hawdd iddynt eu perswadio’u hunain y byddai hyn yn esgor ar ryw fath o fuddugoliaeth wleidyddol. ‘Ennill y ddadl’, wir Dduw.

Canlyniad hyn oll yw bod y Brecsitwyr caletaf un, y cenedlaetholwyr Eingl-Brydeinig mwyaf milwriaethus, wedi ennill buddugoliaeth lwyr. Er inni ddod mor agos at eu hatal, mae’r rheini ohonom a oedd am barhau â chysylltiad clòs hefo’n cymdogion Ewropeaidd wedi colli’r dydd ac wedi colli’r frwydr, a hynny i raddau helaeth iawn oherwydd camgymeriadau ein hochr ni. Pan gyll y call fe gyll ymhell.

Richard Wyn Jones
Chwefror 2020