Pen-blwydd hapus, ond dim mwy o ddathlu

Darllen am ddim

Wel, ie wir, pen-blwydd hapus iawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond, er mwyn y Tad, gawn ni os gwelwch yn dda gytuno i beidio â gwneud hynny eto? Dim mwy o ddathliadau! Yn sicr ddigon, nid dathliadau i nodi cyrraedd oed yr addewid neu’r chwarter canrif. Digon teg os ydych am ailystyried pan ddaw hi’n jiwbilî aur, a byddaf wedi hen fynd erbyn cyrraedd y cant, felly heb fod mewn sefyllfa i ddweud dim. Ond o leiaf am ddegawd neu ddau neu dri, gadewch i ni dderbyn bod tystiolaeth yr wythnosau diwethaf wedi dangos yn eglur nad ydi trafodaeth wleidyddol Gymreig eto’n ddigon aeddfed i allu nodi pen-blwydd deddfwrfa ein hegin-wladwriaeth heb fethu’r pwynt a chymylu’r dyfroedd.

Dagrau pethau ydi’r anllythrennedd cyfansoddiadol sydd wedi bod yn nodwedd mor amlwg ac mor niweidiol o wleidyddiaeth Cymru fyth ers i’r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu ar seiliau mor simsan yn ôl yn 1999. Am flwyddyn neu ddwy gyntaf ei fodolaeth, dichon ei bod yn ddigon teg gofyn sut yr oedd ‘sefydlu’r Cynulliad’ wedi effeithio ar bolisi addysg neu beth yr oedd ‘datganoli’ wedi ei olygu i berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Bryd hynny, roedd y Cynulliad yn pechu yn erbyn rheolau mwyaf sylfaenol pensaernïaeth gyfansoddiadol trwy beidio â gwahaniaethu’n eglur rhwng y ddeddfwrfa, ar y naill law, a’r llywodraeth, ar y llaw arall. Felly, ‘y Cynulliad’ oedd yn ffurfiol gyfrifol am addysg, iechyd, llywodraeth leol a phopeth arall a oedd wedi ei ddatganoli.

Ond fe ddechreuwyd gwahaniaethu rhwng ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ a’r Cynulliad yn 2001. Fel mater o gyfraith, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei rannu’n ffurfiol oddi wrth y Llywodraeth ers 2007. Hynny yw, ers deuddeg mlynedd! Y Llywodraeth honno yn hytrach na’r ‘Cynulliad’ neu ‘ddatganoli’ sydd, yn ei thro, yn gyfrifol am addysg, iechyd, llywodraeth leol ac yn y blaen. Felly mae holi sut mae sefydlu’r Cynulliad wedi effeithio ar ryw faes polisi penodol yn rhoi argraff gwbl gamarweiniol o leoliad grym yn y meysydd hynny sydd wedi eu datganoli. Eto i gyd, dyna’n union a ddigwyddodd drosodd a throsodd wrth i’r cyfryngau geisio ymdopi â’r her o ymateb i ddathliadau ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad. Mae’r fath ailadrodd difeddwl a diddeall yn cyfrannu at sefyllfa lle mae canran fawr o etholwyr Cymru’n parhau i fyw mewn anwybodaeth ynglŷn â’r modd y maent yn cael eu llywodraethu.

Rwy’n dychmygu y bydd sawl gohebydd yn gwgu wrth ddarllen hyn o eiriau. Onid hollti blew cyfansoddiadol sy’n sail i’m beirniadaeth yma? Yn wir, onid dyma enghraifft (arall) o’r math o fogailsyllu puryddol sy’n tanseilio enw da ysgolheigion? Wedi’r cwbl, ‘y Cynulliad’ ydi popeth ar lawr gwlad, felly onid yw’n gwbl naturiol fod gohebwyr yn dilyn yr un trywydd?

Wel, na. Na, nid hollti blew. Ac na, nid bogailsyllu yw hyn chwaith.

Siawns na fyddai pob newyddiadurwr gwerth ei halen yn cydnabod bod cywirdeb ynddo ei hun yn bwysig. Dyna’n union yr ydym ni’r gwylwyr a’r gwrandawyr yn ei ddisgwyl hefyd. A dyna pam mae cymaint ohonom yn gwgu neu’n bytheirio pan fydd gohebwyr Llundeinig yn anghofio – fel y maent yn parhau i’w wneud mor fynych – fod y drefn yn wahanol yng Nghymru. Ond os felly, onid teg hefyd yw disgwyl bod newyddiadurwyr Cymreig hwythau’n ofalus-eglur wrth wahaniaethu rhwng priod rôl a phriod gyfrifoldebau gwahanol sefydliadau oddi mewn i Gymru?

Yn y pen draw, atebolrwydd sydd yn y fantol. Wrth wrando ar lawer o’r gwahanol adroddiadau a phecynnau adeg yr ugainmlwyddiant, byddai wedi bod yn ddigon hawdd anghofio bod pum etholiad datganoledig wedi eu cynnal ers refferendwm 1997. Ers 2001 – ers 2007 yn bendifaddau – buddugwyr yr etholiadau yma, sef yr aelodau etholedig hynny sydd wedi mynd ati i ffurfio’r llywodraeth yng Nghaerdydd, piau’r clod am unrhyw lwyddiannau neu’r bai am unrhyw fethiannau a welwyd mewn meysydd datganoledig. Mewn gair, nhw sy’n gyfrifol. A dyna pam mae sôn am ‘y Cynulliad’ neu ‘ddatganoli’ yn y modd niwlog, cwmpasog hwnnw a glywyd ddechrau Mai mor annigonol ac yn wir mor niweidiol. Trwy synio am bethau yn y modd ac yn y cywair yma, rydym yn sicrhau nad yw’r rheini sydd yn gyfrifol yn cael eu dal yn gyfrifol. Heb hynny, bydd gwir atebolrwydd yn parhau’n rhith.

Wrth reswm, mae’r rhai a luniodd y pecynnau neu a fu’n lleisio’r adroddiadau yn gwybod yn burion am natur y setliad datganoli Cymreig. Nid oes angen unrhyw seminarau i egluro wrthynt y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol; rhwng y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa mewn democratiaeth seneddol. Felly’r cwestiwn sy’n aros yw pam mae cymaint ohonynt wedi syrthio i’r fagl o drafod ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad Cenedlaethol mewn modd sy’n awgrymu nad ydynt yn gwybod.

Mae’n debyg fod sawl rheswm. Un ohonynt ydi cymhlethdod stori gyfansoddiadol yr ugain mlynedd diwethaf. Pwy sydd eisiau clywed sôn am ddeddfwriaeth eilaidd, LCOs, achosion yn y Goruchaf Lys – hynny yw, yr holl rwystrau cyfansoddiadol a wynebodd wleidyddion Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf – pan ellir trafod cyflwr ein hysgolion neu restrau aros mewn ysbytai? A dweud y gwir, rwy’n gwybod yr ateb i hynny gan fod rhai ohonoch chi, annwyl ddarllenwyr, wedi treulio dau ddeg a dau o flynyddoedd yn dilyn hanes datblygiad cyfansoddiadol Cymru trwy gyfrwng y golofn hon! Ond yn gam neu’n gymwys, mae ’na deimlad ar led nad oes gan y cyhoedd ddiddordeb mewn ‘proses’ a bod manion cyfansoddiadol yn destun diflastod. Rhaid, yn hytrach, ganolbwyntio ar faterion sy’n cyfrif ‘ar stepan y drws’. Rhaid symleiddio a dramateiddio.

Problem arall o ran ymateb i ugeinfed pen-blwydd yw teyrngarwch etholwyr Cymru i’r Blaid Lafur Gymreig. Nhw sydd wedi ennill pob un o’r pum etholiad y cyfeiriais atynt, gan arwain pob llywodraeth a sefydlwyd yn eu sgil. Mae hyn yn ei dro yn golygu bod sylwebu ar record yr ugain mlynedd diwethaf yn gyfystyr â thrafod record y Blaid Lafur Gymreig. Ond byddai cydnabod hynny’n blwmp ac yn blaen, a gweithredu ar y sail honno, yn rhoi gohebwyr mewn sefyllfa annifyr a hwythau am gael eu hystyried yn ddiduedd ac yn amhleidiol. Cymaint haws, yn hytrach, yw synio’n amwys am ‘Gynulliad’ neu ‘Welsh Assembly’ gan gadw unrhyw feirniadaeth o Lafur o fewn terfynau’r parchus a’r gwleidyddol dderbyniol.

Rhag fy mod yn ymddangos yn gwbl grintachlyd, does dim dwywaith nad oedd cyfraniadau gwerth chweil i’r dathlu. Roedd rhaglen Bethan Rhys Roberts a Huw Meredydd Roberts ar gyfer BBC Radio Wales yn trafod hanes yr hyn a ddigwyddodd ugain mlynedd yn ôl yn wirioneddol loyw. Yn bersonol, hyd yn oed os nad oeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedwyd, fe wnes i fwynhau areithiau meddylgar y Llywydd a’r Prif Weinidog gerbron sesiwn arbennig o’r Cynulliad. Afraid dweud, hefyd, fod unrhyw gyfle i gael clywed Robin Huw Bowen yn canu’r delyn – fel y gwnaeth yn y derbyniad swyddogol – yn un i’w drysori.

Y tu hwnt i hynny, fodd bynnag, roedd hi’n llwm. Collwyd cyfle i bwyso a mesur y ddeddfwrfa ac yn hytrach darlledwyd llawer gormod a fydd wedi gwneud dim ond parhau’r dryswch cyfansoddiadol sydd wedi nodweddu’r drafodaeth wleidyddol Gymreig ers agor drysau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Os mai fel’na mae hi – os ydym yn anfodlon trafod ‘proses’ rhag gelyniaethu’r gynulleidfa, os ydym yn anfodlon galw pethau wrth eu henw cywir rhag gelyniaethu’r blaid ddominyddol – gadewch inni gytuno mai taw piau hi am sbel. Dim mwy o ddathliadau. Nes ein bod yn barod i wneud yn well.

Richard Wyn Jones
Mehefin 2019