Plaid Cymru a’r Weriniaeth Gymreig

Darllen am ddim

Go brin fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi disgwyl y fath ymateb. Roedd wedi cyhoeddi bwriad y Llywodraeth Brydeinig i ailenwi’r ail bont fawr dros Hafren i ddathlu penderfyniad y Frenhines i draddodi Cymru’n rhodd symbolaidd i’w mab hynaf pan oedd yntau’n fachgen naw mlwydd oed. Does bosib na fu’r adwaith negyddol nid yn unig yn ffyrnicach ond lawer iawn yn ehangach nag yr oedd Swyddfa Cymru wedi ei ddisgwyl? Cyn-gynghorydd y Democrataidd Rhyddfrydol roddodd gychwyn ar y ddeiseb sydd wedi arwain rhai degau o filoedd i ddatgan yn gyhoeddus nad yw Tywysog Cymru wedi cyflawni dim drosom. Ac os yw’r negeseuon yr wyf i wedi eu derbyn yn gynrychioladol, mae rhai o gefnogwyr y Blaid Lafur Gymreig ymysg y rheini sydd fwyaf chwyrn eu gwrthwynebiad. Rwy’n tybio nad oes llawer o genedlaetholwyr Cymreig pybyr yn disgwyl gwell gan Alun Cairns, ond fe ymddengys fod llaweroedd o Gymry gwlatgar nad ydynt yn ystyried eu hunain yn genedlaetholwyr wedi eu synnu a’u siomi’n ddirfawr gan y penderfyniad i ailenwi’r bont. Yng ngeiriau un Llafurwr digon amlwg: ‘It just signals our subjugation.’

Wrth gwrs, mae ’na gwestiwn ehangach yn codi o lembo-eiddiwch taeogaidd ‘Pont Tywysog Cymru’. Sef a yw’r ailenwi − fel y tybia rhai − yn rhan o strategaeth fwriadus gan y wladwriaeth i geisio ail-Brydaineiddio Cymru? Y gwir amdani yw nad wyf yn gallu ateb y cwestiwn penodol hwnnw, a hynny oherwydd nad wyf yn gwybod pwy awgrymodd yr ailfathiad ac o dan ba amgylchiadau. Ac eto, rwy’n gyfan gwbl sicr fod yna strategaeth yn deillio o lefelau uchaf Whitehall sy’n anelu at geisio pwysleisio’r buddiannau a ddaw i ran Cymru a’r Alban yn sgil ‘yr Undeb’. Mae’n strategaeth a ddatblygwyd i raddau helaeth yn sgil canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban. Bryd hynny, fel y dywedodd un gwas sifil hŷn wrthyf, fe sylweddolwyd bod angen gwneud mwy ‘to make sure that all the work that the UK Government does in the devolved territories is better appreciated’.

Mewn gair, nid yw llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn niwtral ar fater yr Undeb. Wedi’r profiad o weld yr Alban yn dod mor agos at ymadael yn 2014, maent am wneud mwy i sicrhau ein bod i gyd yn gwerthfawrogi pa mor ffodus a breintiedig yr ydym i fod yn rhan ohoni. Ond sut yn union mae gwarantu ein bod yn fwy gwerthfawrogol o’r Undeb heb sôn am waith y Llywodraeth Brydeinig? Wrth geisio canfod atebion mae’n hawdd dychmygu bod rhywun yn rhywle wedi penderfynu bod tynnu sylw at symbol o’r Undeb a Phrydeindod, megis y frenhiniaeth, yn cynnig ffordd berffaith o wneud hynny. Ac wele’r bont yn ymrithio i’r golwg...? Mae’n ddigon posib.

Ysywaeth, fel y dengys yr ymateb i gyhoeddiad Alun Cairns, y broblem sy’n wynebu Whitehall yw nad yw symboliaeth Brydeinig yn apelio heddiw fel y gwnâi ers talwm. Bydd, fe fydd yna’n ddiau wylio dyfal ar briodas Harry Wales a Meghan Markle. Serch hynny, peth bas a simsan ydi seléb-addoliaeth. Yn sicr nid yw’n gyfystyr â pharch. A’r tu hwnt i’r Frenhines ei hun, mae’r Frenhiniaeth wedi colli ei rhin. Beth arall sy’n weddill? Mae’r lluoedd arfog yn gysgod o’r hyn a fu (a’r fyddin yn ceisio celu’r ffaith ei bod wedi colli’r ddwy ryfel ddiwethaf iddi eu hymladd yn Affganistan ac Irac). Mae’r sefydliad Prydeinig mawr arall (yr olaf hefyd?), sef y BBC, bellach yn gocyn hitio cyson gan y chwith, y dde a hyd yn oed y canol. Afraid dweud nad yw’r rhain yn cynnig llawer o sail os mai’r bwriad ydi codi’r hen wlad yn ei hôl...

Yn wir, wrth wylio’r adwaith i’r cyhoeddiad am enw’r bont, a chan gofio mai’r ymateb mwyaf cadarnhaol o ddigon a glywais hyd yma yw ‘it’s a bit silly’, mae’n werth holi a yw’n bryd i genedlaetholwyr Cymreig fod yn fwy parod i adweithio i ymdrechion Whitehall i ddyrchafu rhagoriaethau Prydeindod drwy droi eu cefnau’n fwy pendant ar ei phrif symbol, sef y Goron?

Er bod credoau gweriniaethol Leanne Wood yn hysbys, mae ei phlaid yn niwtral ar fater y frenhiniaeth. Os wyf wedi deall y polisi yn gywir, bwriad Plaid Cymru yw cynnal refferendwm i benderfynu a ddylai Cymru annibynnol barhau â’r cysylltiad â’r Goron. Ond petai pleidlais o’r fath yn cael ei chynnal, rŵan fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn ufuddhau i’r chwip Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol, go brin y byddai unrhyw aelod etholedig presennol o Blaid Cymru yn pleidleisio o blaid brenhiniaeth. Mwy neu lai drwy’r trwch, mae Plaid Cymru’n blaid o weriniaethwyr. Mewn sefyllfa o’r fath, ac mewn oes pan fo cymaint pwys ar fod yn driw i chi'ch hun, mae’n anodd gweld pa niwed gwleidyddol a achosid petai Pleidwyr yn agored am eu daliadau. Yn enwedig gan y gellir bod yn weddol sicr fod y rhan fwyaf o etholwyr Cymru eisoes yn credu mai dyna safbwynt y blaid!

Gellir dadlau mai dyma’r adeg berffaith i newid y safbwynt swyddogol. Fel y soniais, mae parch cyffredinol at y Frenhines bresennol. Ond mae pob argoel y bydd ei holynydd yn ceisio teyrnasu mewn ffordd wahanol iawn. Mae Charles wedi ei gwneud yn eglur ei fod yn teimlo ei bod yn briodol i’r Goron fwynhau grym gwirioneddol hyd yn oed oddi mewn i drefn ddemocrataidd. Tra bo’r Frenhines (ag ambell eithriad, megis refferendwm 2014) yn cadw’n glir o wleidyddiaeth, fe wyddom fod ei mab eisoes yn defnyddio ei statws arbennig er mwyn lobïo gwahanol lywodraethau’r wladwriaeth hon (hynny y tu ôl i gochl cyfrinachedd). Mae’r math yma o ymddygiad bron yn sicr o barhau a hyd yn oed ddwysáu wedi iddo gael eistedd ar ei Orsedd. Y tebygrwydd cryf yw y bydd yn Frenin annoeth.

Ar ben hynny, ymddengys yn debygol y bydd y teulu brenhinol a’r llywodraeth yn Llundain am ddyrchafu ei fab hynaf yntau’n Dywysog Cymru. Gweithred y bydd mwyafrif llethol cefnogwyr Plaid Cymru − a llawer iawn o wladgarwyr Cymreig eraill − yn ei hystyried yn sen. Gyda’r sefyllfa wedi newid cymaint ers Arwisgo 1969, a yw’r blaid mewn difrif am aros yn ‘niwtral’ pan ddigwydd hyn? Go brin!

Y peth gorau am gefnu ar niwtraliaeth a choleddu safbwynt gweriniaethol mewn modd tawel, cytbwys ac egwyddorol yw y bydd modd i Blaid Cymru gynnig gwrthbwynt ac arwain gwrthwynebiad i hyn oll. Nid ar sail ddi-ddim megis ‘mae o’n wastraff arian’, ond yn hytrach ar sail egwyddorion democrataidd a chenedlaethol cadarn.

Mewn cyfnod pan fo Whitehall yn ystyried ei bod yn ymladd brwydr syniadaethol gyda’r rheini yng Nghymru a’r Alban sy’n amharod i dderbyn a chydnabod rhagoriaethau’r wladwriaeth Brydeinig, mae’n rhaid ystyried beth yw’r ymateb priodol. Mae’n ddigon posib, wrth gwrs, mai ofer fydd holl ymdrechion llywodraeth Llundain. Yn wir, gyda’r seiliau eisoes yn simsanu, os yw Brexit yn gymaint o lanast ag yr wyf yn ei ddisgwyl, yna tybed nad colli mwy o dir yn hytrach na’i adennill yw canlyniad mwyaf tebygol y frwydr honno? Wedi dweud hynny, onid yw’n werth ystyried y posibilrwydd fod ymddygiad trwsgl, diddeall Alun Cairns a’i debyg yn cynnig agoriad neu gyfle y dylid ceisio manteisio arno?

Pont Tywysog Cymru vs Gweriniaeth Gymreig: pwy bia’r dyfodol?

Richard Wyn Jones
Mai 2018