Plaid Cymru: Pobi’r bara ynteu’r burum yn y dorth?

Darllen am ddim

Wrth ddwyn i gof Phil Williams, un o feddylwyr praffaf a galluocaf y mudiad cenedlaethol, ‘seicedelig o optimistaidd’ yw disgrifiad yr awdur o ragolygon y Blaid o ennill ugain heb sôn am y mwyafrif o seddau yn y Senedd oni ellir darbwyllo Llafur i gofleidio annibyniaeth.

Dros yr wythnosau nesaf bydd aelodau Plaid Cymru yn pwyso a mesur pa un o’r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth eu plaid y dylent ei gefnogi, gyda’r canlyniad terfynol i’w gyhoeddi ddiwedd y mis. Yn naturiol fe fydd gwahaniaethau barn a – siŵr o fod – pegynnu rhwng gwahanol garfanau. Dyna ydi natur gornestau o’r fath. Ond, a cheisio cymryd cam yn ôl, y gwir amdani yw bod Leanne Wood, Adam Price a Rhun ap Iorwerth ill tri yn ymgeiswyr credadwy a chryf. Llwyddodd pob ohonynt i adeiladu pleidlais bersonol fawr yn eu hetholaethau unigol gan eu profi eu hunain hefyd, yn eu gwahanol ffyrdd, yn gyfathrebwyr rhwydd ar lwyfan ehangach.

Mae’n wir hefyd nad oes rhyw fwlch ideolegol mawr yn eu gwahanu chwaith. Efallai fod y pwyslais rhethregol yn amrywio i ryw raddau, ond o ran polisïau go brin fod gwahaniaeth ystyrlon o gwbl. Mae’r tri yn ymddangos i mi fel democratiaid cymdeithasol Llychlynnaidd digon uniongred. Ac mae ’na bethau gwaeth o lawer na hynny!

Gan adlewyrchu’r newid mawr a welwyd ym Mhlaid Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r tri hefyd yn gwbl gytûn o ran yr amcan hir dymor o Gymru annibynnol. Efallai y bydd darllenwyr iau yn ystyried hyn fel pwynt goramlwg neu ddibwys. Onid cyrchu Cymru annibynnol yw priod waith y Blaid? Wel, nid felly y bu yn y gorffennol. Yn wir, pan ddechreuais ysgrifennu’r golofn hon yn nyddiau cynnar datganoli fe lwyddais i ennyn ymateb digon chwyrn gan Bleidwyr amlwg pan awgrymais ar nifer o achlysuron fod safbwynt cyfansoddiadol y Blaid yn ddisynnwyr ac yn wir yn hunan-niweidiol. Ar y pryd roedd y Blaid yn gwrthwynebu defnyddio’r gair ‘annibyniaeth’ i ddisgrifio’r hyn a ddeisyfai ar gyfer Cymru, er bod y disgrifiad mwy manwl o’r hyn a ddymunai yn cyfateb i’r hyn y byddai pob arbenigwr cyfansoddiadol yn ei alw’n... wel, annibyniaeth. Darn ydoedd o ddiwinyddiaeth bleidiol y gellid ei holrhain yn ôl i ddarlith ‘Egwyddorion Cenedlaetholdeb’ Saunders Lewis yng nghanol y 1920au. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r rhod wedi troi. Leanne Wood oedd yr arweinydd cyntaf yn hanes Plaid Cymru i allu dweud yn groyw ac yn ddiamod ei bod yn cefnogi annibyniaeth. Bydd y sefyllfa honno’n parhau wedi 28 Medi, a hynny doed a ddelo.

Felly, pen ar y bloc, pwy fydd yn fuddugol? Y gwir amdani yw nad oes gennym lawer o wybodaeth ynglŷn ag aelodau Plaid Cymru. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o bleidiau eraill ym Mhrydain, ni chafwyd erioed arolwg academaidd ohonynt. Felly, mewn gair, dyfalu yr ydym. Ond heb os, Leanne Wood yw’r ffefryn, a byddai dyn yn synnu os na chaiff hi’r gyfran fwyaf o’r bleidlais ar y cyfrif cyntaf. A dyna pryd y gallai pethau fynd yn ddiddorol.

Pan ddaeth Wood yn arweinydd yn 2012 bu bron iawn iddi ennill hanner y bleidlais ar y cyfrif cyntaf. Wedi ailddosbarthu pleidleisiau’r sawl a gafodd y nifer lleiaf o bleidleisiau yn y rownd honno – sef yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas – roedd hi ymhell dros y trothwy ac wedi ennill yn gymharol rwydd. Y bygythiad mawr i Leanne Wood y tro yma yw na fydd hi mor agos at ennill hanner y pleidleisiau ar y cyfrif cyntaf, ac y bydd llai o bleidleisio’n trosglwyddo iddi hi o’r ymgeisydd a gaiff ei fwrw allan o’r ras, pwy bynnag y bo. Os digwydd hyn – a gadewch imi bwysleisio mai dyfalu yr ydwyf – yna mae’n bosib dychmygu senario lle bydd buddugwr y cyfrif cyntaf yn colli’r ail. Amser a ddengys...

Wedi dweud hynny, wrth ddilyn troeon y ras arweinyddol ni allaf lai na meddwl nad oes yr un o’r ymgeiswyr yn trafod y cwestiwn strategol pwysicaf sy’n wynebu Plaid Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Efallai nad eu bai nhw ydi hynny, cofiwch. Efallai nad yw’r Blaid yn barod i gael y drafodaeth honno eto ac y byddai’r sawl sy’n ceisio cychwyn y drafodaeth yn rhoi’r farwol i’w ymgyrch o neu hi. Serch hynny, cyn bo hir – efallai wedi i’r llwch setlo ar y ras arweinyddol – bydd yn rhaid i Blaid Cymru feddwl o’r newydd am ei pherthynas â’r Blaid Lafur.

I ddeall pam yr wyf am ddychwelyd at y cwestiwn ynghylch priod nod y Blaid, cyfeiriaf at rywbeth a arferai hen gyfaill o Bleidiwr ei ddweud, sef yr Athro athrylithgar Phil Williams, gŵr a goffawyd mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Nid oedd Phil ym amau mai annibyniaeth oedd yr amcan ac, yn wir, roedd yn gwbl ddiamynedd efo amharodrwydd hanesyddol ei blaid i ddefnyddio’r union air hwnnw. Y cwestiwn allweddol iddo ef oedd sut y dylai Plaid Cymru gyfrannu at y broses o godi Cymru’n genedl ac iddi ei gwladwriaeth annibynnol ei hun. I’r rhan fwyaf o’i gyd-Bleidwyr roedd yr ateb yn un syml. Yn yr un modd ag y llwyddodd Llafur i ddisodli’r Blaid Ryddfrydol fel plaid wleidyddol ddominyddol Cymru, byddai’n rhaid i Blaid Cymru hithau ddisodli’r Blaid Lafur. Ar ôl ennill goruchafiaeth yn yr ornest bleidiol, byddai modd i Blaid Cymru arwain y genedl i’w rhyddid.

Dyma, hyd y gwelaf, safbwynt dau o’r tri ymgeisydd presennol ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid. Mae Leanne Wood wedi ei gwneud yn glir ei bod yn amcanu at ennill y mwyafrif o seddau yn yr etholiad Cynulliad nesaf, gan fwriadu llywodraethu heb glymbleidio na dod i unrhyw fath o ddealltwriaeth efo’r Torïaid na Llafur. Gobaith Adam Price yw arwain Llywodraeth Cymru wedi etholiadau 2021 a 2026 gan fraenaru’r tir ar gyfer Cymru annibynnol erbyn diwedd y degawd. Hyd y gwelaf nid yw Price wedi dweud y naill ffordd na’r llall a fyddai angen clymbleidio neu gydweithio er mwyn ffurfio’r llywodraethau yma. Serch hynny, mae’r ergyd yn amlwg: Plaid Cymru fyddai’n arwain.

Megis dechrau y mae’r ras arweinyddol ac nid wyf yn ymwybodol o ddatganiad gan Rhun ap Iorwerth sy’n cyffwrdd â’r materion hyn. Dichon y cawn glywed mwy dros yr wythnosau nesaf ac efallai’n wir y bydd yn dweud rhywbeth cwbl wahanol! Eto i gyd, mae safbwyntiau Wood a Price yn agos iawn, ddyliwn i, at y brif ffrwd o ran y weledigaeth o’r rôl y dylai Plaid Cymru ei chwarae yng ngwleidyddiaeth ein gwlad. Ond prif ffrwd neu beidio, y mae, serch hynny, yn weledigaeth gwbl ffantasïol.

Os ydych yn amau’r hyn a ddywedaf, a gaf eich gwahodd i drïo hyn fel rhyw fath o ymarferiad deallusol: ceisiwch lunio llwybr credadwy o’r fan bresennol i sefyllfa lle mae Plaid Cymru yn dal y mwyafrif o’r seddau yn y Cynulliad. Mewn difrif, pa etholaethau ychwanegol y gellir disgwyl eu cipio? Mae meddwl am ennill dros ugain hyd yn oed yn seicedelig o optimistaidd. A hyd yn oed mewn amgylchiadau o’r fath, ni fyddai modd llunio llywodraeth heb glymblaid neu gytundeb. Gan fod unrhyw fath o ddealltwriaeth efo’r Torïaid yn gwbl amhosib (a hynny am resymau a eglurais yn y rhifyn diwethaf o BARN), mae’n anorfod fod hynny’n golygu dod i ryw fath o ddealltwriaeth â’r Blaid Lafur.

Daw hyn â ni yn ôl at Phil Williams. Roedd Phil yn anghytuno â’r weledigaeth gonfensiynol o briod waith y Blaid. Iddo ef, nid disodli Llafur a sefydlu hegemoni gwleidyddol newydd oedd y nod, ond yn hytrach perswadio Llafur i gefnogi annibyniaeth i Gymru. Yn ei dyb ef, ni fyddai Plaid Cymru yn pobi’r bara ei hun, ond yn hytrach hi fyddai’r burum yn y dorth.

Ar y pryd, roedd gweledigaeth amgen Phil yn ymddangos yr un mor ffantasïol â’r syniad o ddiorseddu Llafur. Ac yn ddi-os, byddai’r mwyafrif llethol o wleidyddion Llafur y dwthwn hwn yn parhau i wgu wrth feddwl am y syniad o gefnogi annibyniaeth. Eto i gyd, yn rhannol oherwydd dylanwad Plaid Cymru, mae Llafur wedi teithio’n bell dros y blynyddoedd diwethaf o ran polisïau, megis trwy gefnogi awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Mae hefyd yn ffaith fod profiad refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 a refferendwm Brexit ddwy flynedd yn ddiweddarach wedi arwain at bob math o sgyrsiau oddi mewn i Lafur ynglŷn â ffawd bosib Cymru mewn gwladwriaeth sydd wedi ei gweddnewid yn llwyr.

Hyd yn oed o wfftio gweledigaeth Phil, mae’n ffaith ddiymwad mai cwestiwn y berthynas â Llafur ydi’r cwestiwn strategol pwysicaf sy’n wynebu Plaid Cymru. Yn hwyr neu’n hwyrach – a phwy bynnag sy’n arwain – bydd yn rhaid mynd i’r afael â fo. Efallai fod ffantasi yn dderbyniol mewn gornest fewnol, ond bydd realiti yn brathu yn y pen draw.

Richard Wyn Jones
Medi 2018