Problemau prifysgolion

Aberystwyth ar ddiwrnod seremoni graddio
Darllen am ddim

Ar ôl blynyddoedd o ddibynnu ar ffioedd dysgu myfyrwyr rhyngwladol i wneud iawn am ddiffygion ariannu, mae prifysgolion Cymru mewn twll a diswyddiadau anochel ar y gorwel.

Do, bu ryw boblach fel fi’n darogan gwae ers rhai blynyddoedd. Ond y gwir amdani yw i uchel weinyddwyr a gwleidyddion fel ei gilydd fod yn gyndyn iawn o dderbyn bod prifysgolion Cymru – fel bron â bod pob prifysgol arall trwy’r wladwriaeth – yn wynebu argyfwng. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r rhod wedi troi. Go brin y byddai unrhyw un am geisio gwadu’r peth.

Yn y diwedd, fe ddaeth y dadfeilio’n frawychus o gyflym. Rwy’n credu mai Hemingway a soniodd am y profiad o fynd yn fethdalwr: ‘slowly, then suddenly all at once’. Dyna’n union brofiad presennol prifysgolion Cymru. Ar ôl blynyddoedd o weld heriau a phroblemau lu’n cronni, yn sydyn reit mae’r argae’n bochio’n fygythiol a chraciau mawr a hyll yn ymestyn i bob cyfeiriad. Mae’r sefydliadau wrthi’n braenaru’r tir ar gyfer toriadau sylweddol iawn er mwyn ceisio sefydlogi pethau. Eto fyth, go brin fod staff a myfyrwyr – heb sôn am y cymunedau sy’n ddibynnol arnynt – wedi dechrau deall hyd a lled chwalfa sydd eisoes yn anochel.

Er bod prifysgolion yn gyrff lled-gyhoeddus, maent yn amharod iawn i drafod eu gwir sefyllfa ariannol. Yn nhyb eu rheolwyr, cam gwag yw dangos ‘gwendid’. Yn hytrach, tueddwyd i geisio claddu problemau dan domennydd o ystrydebau ffuantus ynglŷn â’r ‘potensial am dwf’. Serch hynny, mae ychydig o gyfrifo-cefn-amlen yn ddigon i roi awgrym o’r hyn sydd ar ddyfod.

Dau beth y mae prifysgolion yn gwario arian arnynt mewn gwirionedd. Mae’r gwariant mwyaf o ddigon ar gyflogau staff academaidd a chynorthwyol. Yn ail ar ôl hynny ceir y costau sy’n gysylltiedig â’u stadau gan gynnwys costau gwresogi a chynnal a chadw – er na fu llawer o’r ail ers blynyddoedd lawer.

Yn ôl cyfaill sydd â’i glust yn agosach at y sgyrsiau sy’n cyfrif na mi, y disgwyl yw y bydd pob prifysgol yng Nghymru yn ceisio lleihau ei gwariant o tua 10% dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Yr unig ffordd o wneud hyn fydd trwy gyflogi llai o staff a chael gwared ar ba bynnag rannau o’r stadau y gellir eu hepgor. I’r perwyl hwn, mae sawl prifysgol yng Nghymru eisoes wedi sefydlu cynlluniau diswyddo gwirfoddol gyda’r lleill yn rhwym o’u dilyn yn fuan iawn. Gwn hefyd am ymdrechion sydd ar droed yn barod i adleoli staff a gwerthu adeiladau.

Ond gadewch i ni fod yn glir: a bwrw y bydd prifysgolion am waredu eu hunain o tua 10% o’u staff (rhagdybiaeth resymol), nid oes fodd yn y byd o wneud hynny heb ddiswyddo gorfodol a chau adrannau. Er mwyn i chi gael rhyw syniad o’r effaith debygol, yn 2022/23 roedd Abertawe yn cyflogi 3,860, Aberystwyth 1,860, Bangor 2,090, Caerdydd 7,075, a’r Drindod Dewi Sant 1,635. Bydd yr effaith ddynol yn un sylweddol iawn. Ar ben hynny, o gofio pa mor llwm yw cyflwr ein dinasoedd a’n trefi – gan gynnwys y rheini sy’n gartref i’n prifysgolion – bydd ymdrechion y sefydliadau hyn i werthu adeiladau ar frys gwyllt mewn marchnad eiddo sydd eisoes ar ei thin yn rhwym o arwain at ddirywiad pellach yng nghyflwr y llefydd hyn.

Mae’r cyfan yn frawychus ac yn frawychus o wastraffus. Meddyliwch o ddifrif am y degawdau o fuddsoddi drudfawr sydd ar fin cael ei fwrw o’r neilltu. Yng ngweddill y byd fe ystyrir prifysgolion yn greiddiol ar gyfer hybu ffyniant, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Yn wir, nid dim ond brolio ar ran sector hunanfoddhaus yw dweud bod gan brifysgolion y wladwriaeth hon enw da iawn yn rhyngwladol. Ond yng Nghymru, fel ym Mhrydain drwyddi draw, ymddengys ein bod yn fodlon iddynt syrthio i ddyfroedd dyfnion iawn a heb hidio beth fydd effaith hynny ar y to presennol o staff a myfyrwyr, y cymunedau sy’n dibynnu arnynt, heb sôn am genedlaethau’r dyfodol.

Teg gofyn pam mae argyfwng fu’n cyniwair cyhyd yn brigo i’r wyneb yn awr?

Y caswir amdani yw bod prifysgolion wedi mynd yn gwbl ddibynnol ar fyfyrwyr tramor. Ac nid o’u gwirfodd y gwnaethant hynny, ond oherwydd eu bod, ar gyfartaledd, yn colli arian ar bob myfyriwr ‘domestig’ y maent yn ei ddysgu ynghyd â’r ymchwil a gynhyrchir gan eu staff. Daethpwyd i ddibynnu ar y ffioedd bras a delir gan fyfyrwyr tramor i lenwi’r bwlch.

Bu’n amlwg i bawb ag unrhyw synnwyr nad oedd hyn yn gynaliadwy, a bod gwneud dyfodol sefydliadau allweddol, ynghyd â dinasoedd a threfi trwy Gymru benbaladr, yn ddibynnol ar ddewisiadau astudio myfyrwyr o Tsieina, Nigeria a mannau eraill yn hurt o unllygeidiog. Ond bu’n haws gan wleidyddion o bob plaid anwybyddu’r argoelion gan obeithio – am wn i – nad hwy fyddai’n dal y parsel pan fyddai’n gerddoriaeth yn tewi.

Wel, os nad yw’r gerddoriaeth wedi tewi’n llwyr, fe aeth yn dawelach. Yn benodol, mae newidiadau i drefniadau fisas myfyrwyr gan y llywodraeth Brydeinig – rhan o’u hymdrechion perfformiadol i brofi eu bod yn lleihau mewnfudo – eisoes wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y nifer o fyfyrwyr tramor sy’n ceisio ac yn derbyn llefydd i astudio yn y rhan fwyaf o brifysgolion Prydain ym mis Medi. Rwy’n pwysleisio ‘rhan fwyaf’ gan fod tua dwsin o sefydliadau elît yn Lloegr a’r Alban yn parhau i fod mewn sefyllfa iach. Ond i’r gweddill ohonom, gyda’r esgid eisoes yn gwasgu ar ôl degawd heb gynnydd yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr domestig er bod chwyddiant wedi bod yn rhemp, mae’r sylweddoliad y bydd llai o lawer o’r myfyrwyr rhyngwladol a fu’n cadw’r holl gyfundrefn ar ei thraed yn golygu na ellir osgoi ymateb ar fyrder.

Beth, felly, sydd i’w wneud? Er nad wyf yn un i anobeithio, oherwydd fod rhybuddion y blynyddoedd diwethaf wedi eu hanwybyddu – ac mae bai mawr ar arweinwyr ein prifysgolion am beidio â gwneud llawer iawn i’w hategu – rwy’n ofni ei bod yn rhy hwyr i osgoi y don gyntaf o doriadau.

Y cwestiwn felly yw beth nesaf? Yn ddiau, bydd gweinidogion yn dychwelyd at yr hen syniad o uno sefydliadau fel rhyw fath o ateb. Ond ystum nid polisi difrifol fyddai hynny. Ni fydd uno’n cael unrhyw effaith ystyrlon ar gostau prifysgolion. Heb fwy o arian yn y system, y cwbl y gellir ei ddisgwyl yw mwy o ddiswyddiadau, gwerthu adeiladau, ac yn wir cau safleoedd cyfan.

Yr wyf wedi sôn droeon yn y golofn hon ynglŷn â diffygion prifysgolion Cymru ac am ein hagwedd ddi-hid fel cenedl tuag ar y gyfundrefn addysg uwch Gymreig. Erbyn hyn, siawns na ellir osgoi trafodaeth ddifrifol ynglŷn â pha fath o gyfundrefn sydd ei hangen arnom a sut yr ydym yn bwriadu talu amdani. Yn ddi-os, mae’r system bresennol wedi cyrraedd pen ei thaith.

Richard Wyn Jones
Mehefin 2024