Prydain yn jôc

Darllen am ddim
Donald Tusk

Mae Brwsel yn llawn i’r ymylon rownd y rîl o gynadleddau ar bob pwnc gwleidyddol dan haul. Ar ôl gadael un gynhadledd yn gynnar er mwyn cyrraedd yr un nesaf (yn hwyr) ar bron yr un pwnc â’r un flaenorol, cyrhaeddais mewn pryd i glywed un o’r siaradwyr olaf yn ei chyflwyno’i hun. Fel pob siaradwr gwerth ei halen dechreuodd ei haraith gyda jôc fach i oglais y gynulleidfa: ‘Rwy’n dod o Brydain – does dim rhaid dweud rhagor.’ Chwarddodd y gynulleidfa er ei bod hi’n jôc yr oedd pawb wedi ei chlywed o’r blaen. Ond jôc dda serch hynny. Un hawdd ei deall. Ac un oedd yn ennyn cydymdeimlad yn syth.

Dyna fyddaf innau’n ceisio ei wneud y dyddiau hyn. Pwysleisiaf fy mod yn Gymro. Ond onid yw Cymru’n rhan o’r DU fondigrybwyll, gofynnir imi? Dyna pryd y byddaf mewn peryg o wadu fy nghenedl a phwysleisio mai Belgiad ydw i bellach. Wir, mae Brexit weithiau yn dinoethi ochr waethaf Cymro alltud ar y cyfandir: schadenfreude am fethiant gwleidyddion de-ddwyrain Lloegr. Canfyddaf fy hun yn ffug osgoi fy nghysylltiad â Phrydain. Fel Belgiad swyddogol – neu Fflandryswr – rwy’n ymffrostio yn y ffaith fod Gwlad Belg (yn wahanol i Brydain) yn ‘gweithio’, er nad oes gan ein llywodraeth ffederal fwyafrif ers mis Rhagfyr 2018.

Nid yn unig pobl ‘gyffredin’ prifddinas Ewrop – newyddiadurwyr, swyddogion mawr a mân, arbenigwyr a lobïwyr – sy’n chwerthin am ben sefyllfa anobeithiol Prydain. ‘Mae gennyf amynedd diddiwedd,’ dywedodd prif weinidog Iwerddon, Leo Varadkar. ‘Ond mae rhai o’m cydweithwyr wedi colli pob amynedd â’r DU,’ ychwanegodd. Siarad ydoedd wrth iddo gyrraedd uwch-gynhadledd ddiweddaraf arweinwyr Ewrop. Yn ôl Varadkar, heb etholiad cyffredinol yn y DU neu ail refferendwm, bydd gwrthwynebiad ‘enfawr’ ymysg arweinwyr Ewrop i unrhyw estyniad pellach ar aelodaeth Prydain o’r UE.

A dyma graidd y ‘jôc’ y cyfeiriais ati: mae pawb yn gweld y drychineb sy’n wynebu Prydain, a phawb yn gwybod nad oes modd i wleidyddion Prydain ei hosgoi.

Mae’n ‘ffodus’ mai ychydig o drafod a fu am Brydain a Brexit yn ystod cyfarfodydd arweinwyr Ewrop, yn ôl Mark Rutte, prif weinidog yr Iseldiroedd. Dyma wlad fyddai’n disgwyl colli €10 biliwn y flwyddyn yn sgil Brexit caled. ‘Pam gwastraffu rhagor o amser ar broblem nad oes ateb amlwg iddi yn unig oherwydd bod system wleidyddol Prydain yn fethiant llwyr’, ymresymodd Rutt. ‘Mae angen i’r DU roi’r gorau i’w llinellau cochion a chynnal refferendwm neu etholiad.’ Hawdd deall ei rwystredigaeth wrth i’r Iseldiroedd wynebu colled o 1.2 y cant yng nghrynswth ei chynnyrch domestig oherwydd Brexit caled.

Mae gan Rutte lu o ddywediadau bachog am Brydain: ‘Dan Brexit caled – neu hyd yn oed drwy adael â chytundeb – bydd y DU yn wlad wedi ei darostwng. Mae hynny’n anochel gan na fydd hi wedyn yn rhan o’r UE ac am nad yw hi eisoes yn ddigon mawr na phwysig i fod yn ddylanwadol ar lwyfan y byd.’

‘Efallai y bydd proses Brexit hyd yn oed yn fwy cyffrous nag o’r blaen,’ meddai Donald Tusk, llywydd y Cyngor Ewropeaidd, â’i dafod yn ei foch. Wnaeth e ddim enwi Boris. Ond gyda’i hiwmor sych arferol, Johnson oedd gan Tusk mewn golwg. Wrth gwrs, mae’n gadael ei swydd ar ddiwedd mis Hydref – ar yr un pryd ag y bydd Prydain, yn ôl y disgwyl, yn gadael yr UE. Cyn y refferendwm yn 2016 galwodd Tusk ar bawb i anwybyddu ymgais ‘hurt’ Johnson i gyffelybu’r UE i sefydlwr y Drydedd Reich. Dyma oedd geiriau’r ffefryn cynnar i fod yn Brif Weinidog y DU: ‘Fe wnaeth Napoleon, Hitler, ac amrywiol bobl roi cynnig ar ein concro gan fethu’n drychinebus. Nod yr UE yw gwneud hynny trwy ddulliau gwahanol.’ Yn y Telegraph y cyhoeddodd Boris hynny – papur sy’n talu £275,000 y flwyddyn iddo am ei golofn anghymedrol ac ymfflamychol.

Dafydd Ab Iago
Gorffennaf 2019 i Awst 2019