Rhoi’r gwas newydd yn y glorian

Rhun ap Iorwerth
Darllen am ddim

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ddyrchafu’n arweinydd Plaid Cymru mewn amgylchiadau annisgwyl. Craffu ar y modd y mae wedi ymgodymu â’r her honno a wna ein colofnydd y mis hwn.

Mae’n parhau’n ddirgelwch i mi beth yn union yr oedd y grŵp (bychan, yn ôl a ddeallaf) o Aelodau Seneddol Plaid Cymru a benderfynodd ddiorseddu Adam Price yn ceisio ei gyflawni? Heb os, yr oedd amseru’r coup d’état, mis Mai y llynedd, yn od ar y naw.

Yr oedd yr olynydd mwyaf credadwy – efallai’r unig olynydd credadwy oedd ar gael – sef Rhun ap Iorwerth, wedi hen gyhoeddi ei fod yn bwriadu ceisio diorseddu Aelod Seneddol San Steffan Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ac wedi troi ei olygon a’i egnïon at y dasg honno. Yn ogystal, bryd hynny, dim ond ar ei hanner yr oedd cyfnod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Am gryn amser, felly, go brin y byddai sgôp i unrhyw arweinydd newydd osod ei stamp ei hun ar y blaid. Serch hynny, mynd fu hanes Adam Price a Phlaid Cymru’n gorfod chwilio am arweinydd newydd er gwaetha’r amgylchiadau.

Yn ffodus iawn o ran hygrededd y rhai a oedd am ddiorseddu Price – ac er mawr ryddhad i Crosbie, bid siŵr – fe gytunodd Rhun ap Iorwerth i wneud tro pedol. Fe fyddai’n aros yng Nghaerdydd wedi’r cyfan, ac erbyn canol mis Mehefin roedd wedi ei ddyrchafu’n arweinydd gan ymuno â llinach sy’n estyn yn ôl at Lewis Valentine.

O ystyried amgylchiadau dyrchafiad yr arweinydd newydd, nid ddylem synnu rhyw lawer mai cymharol dawel fu pethau o ran Plaid Cymru (yn gyhoeddus, o leiaf) ers hynny. Gan nad oedd wedi disgwyl gorfod camu i’r adwy, fe fyddai’n afresymol disgwyl fod glasbrint gan Rhun ap Iorwerth ar gyfer yr hyn y byddai’n ceisio ei gyflawni yn y swydd. A phetai hynny ddim yn ddigon i rwystro’r dasg o gyrchu cyfeiriad gwahanol, nid dim ond yr arweinydd oedd yn newydd yn ei swydd. Ychydig o wythnosau ynghynt yr oedd Prif Weithredwr y Blaid, Owen Roberts, wedi ymgymryd â’i ddyletswyddau yntau. Wrth wneud hynny, roedd yn etifeddu rhaglen o ddiwygio mewnol pellgyrhaeddol yn deillio o argymhellion adroddiad ‘Prosiect Pawb’ Nerys Evans. Yr oedd cyfnod o fogail-syllu bron yn anorfod, felly.

Erbyn hyn, fodd bynnag, mae arwyddion go eglur fod Plaid Cymru’n barod i droi ei golygon tuag at allan unwaith yn rhagor. Yn sicr, mae steil arweinyddol Rhun ap Iorwerth yn dechrau ymrithio o’n blaenau. Dyma, felly, fentro pwyso a mesur rhywfaint ar y modd y mae’r arweinydd newydd yn siapio.

Y peth cyntaf i’w ddweud yw bod rhai o’r newidiadau a welwyd y tu ôl i’r llenni eisoes fel petaent yn cael effaith. Boed hynny’n sgil ymdrechion Rhun ap Iorwerth neu Owen Roberts neu ddylanwad pobl neu bethau eraill y tu hwnt i’m dirnadaeth, mae’r awyrgylch yn uchel-rengoedd Plaid Cymru fel petai wedi gwella. Un o’r cwynion a glywyd yn fynych am gyfnodau arweinyddol Adam Price, fel Leanne Wood o’i flaen – clywyd yr un gŵyn am Gwynfor Evans, o ran hynny – oedd mai dim ond carfan gymharol fechan oedd â chlust yr arweinydd oedd yn cyfrif. Ar hyn o bryd, o leiaf, ymddengys fod hynny wedi newid a Phlaid Cymru’n blaid hapusach o’r herwydd.

Ar ben hynny, mae ’na fwy o realaeth yn nodweddu’r hyn a glywir gan Blaid Cymru am ei rhagolygon etholiadol. Mae hyn yn cynrychioli newid go sylfaenol. Ers blynyddoedd mae’r sawl yn ein plith sy’n ymddiddori yn y pethau hyn wedi arfer clywed Pleidwyr yn dweud pethau carlamus o optimistaidd ynglŷn â’i gobeithion mewn gwahanol etholaethau. Roedd hyn i’r fath raddau nes fy mod i, o leiaf, wedi dechrau diystyru unrhyw beth a glywir gan ‘ffynonellau ym Mhlaid Cymru’!

Erbyn hyn – a gwell hwyr na hwyrach – mae’r rhod wedi troi. Mae arweinydd newydd Plaid Cymru’n cydnabod yn gyhoeddus y graddau y mae’r etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf yn cynrychioli talcen caled i’w blaid. Wel, ie wir! O ystyried cyflwr yr arolygon barn, llanastr mewnol etholaeth Caerfyrddin, ynghyd â’r ffaith fod Cymru ar fin colli 20% o’i Haelodau Seneddol, mae’n siŵr gennyf y gellid ystyried cadw dwy sedd fel sgôr par i Blaid Cymru yn 2024.

Wedi dweud hynny, mae’r blaid wedi sicrhau ymgeisydd tan gamp ar gyfer Ynys Môn (ac mae’n anodd credu na fu Rhun ap Iorwerth â llaw uniongyrchol yn hynny). Oes, mae gan Virginia Crosbie le i bryderu unwaith yn rhagor! Os gall Plaid Cymru osgoi ildio i’w hen arfer drwg o or-heipio, ac os y llwydda Llinos Medi ym Môn, yna – o ystyried yr amgylchiadau – fe all etholiad 2024 eto brofi’n un o’r goreuon yn ei hanes. Ac os na ddigwydd hynny, wel efallai na fydd y niwed o ran morale yr aelodaeth mor fawr ag y byddai mewn cyd-destun gwahanol.

Ond er mor glodwiw yw’r hyn a gyflawnwyd hyd yma, rhaid cydnabod hefyd mai dim ond dechrau ar ei waith y mae Rhun ap Iorwerth. Mae heriau gwirioneddol fawr eto i’w goresgyn gyda dwy ohonynt yn amlwg iawn ac yn rhyng-gysylltiedig.

Y gyntaf o’r rhain yw rhaglen bolisi Plaid Cymru. Neu, a bod yn fanwl gywir, y math o gywair y mae’r blaid yn ei osod o gylch ei hagenda bolisi ar gyfer Cymru gan fod, ysywaeth, gyn lleied o ddiddordeb ymysg y cyhoedd a newyddiadurwyr fel ei gilydd mewn manylion polisi cyhoeddus.

Mewn araith ddiddorol a swmpus yn adeilad y Pierhead yn fuan yn y flwyddyn newydd, fe ddechreuodd Rhun ap Iorwerth gyflwyno cynnwys a chywair ei weledigaeth bolisi. Ymddengys mai uchelgais a thegwch fydd y themâu cydlynol a fydd yn cael eu defnyddio i geisio gwau ynghyd y gwahanol gynigion polisi a gaiff eu cyflwyno cyn yr etholiad nesaf ar gyfer Senedd Cymru ym mis Mai 2026.

Mae’r apêl yn amlwg, dybiwn i. Mae sôn am uchelgais yn sicr yn cyferbynnu â’r hyn a glywyd hyd yma yn yr ornest i olynu Mark Drakeford. Eto, mae’n parhau’n ddyddiau cynnar. Bydd Rhun ap Iorwerth yn ddiau am geisio gweld sut y bydd gwahanol gynulleidfaoedd yn ymateb i’w neges, gan fireinio a diwygio fel bo angen. Diau hefyd y bydd posibiliadau newydd yn eu cynnig eu hunain wedi i Syr Keir Starmer ffurfio llywodraeth yn Llundain yn ddiweddarach eleni.

Mae hynny’n ein harwain yn uniongyrchol at yr ail her fawr arall, sef sut i ymagweddu tuag at Lafur? Mae hyn wedi baglu Plaid Cymru yn y gorffennol. Cofiwch y dryswch a welwyd cyn etholiad 2011 – a fyddai Plaid Cymru’n ymosod ar record y blaid y bu’n cyd-lywodraethu â hi yng nghlymblaid Cymru’n Un neu’n ceisio amddiffyn record y llywodraeth honno? Fel y gwyddom, syrthio rhwng dwy stôl fu’r hanes.

Gall 2026 brofi’n anos fyth. Erbyn hyn, ni fydd modd i Blaid Cymru hyd yn oed ystyried cydweithredu â Phlaid Geidwadol sydd wedi symud mor bell i gyfeiriad gwrth-ddatganoli. Eto fyth, mae’n fwy na phosibl y bydd yr etholwyr wedi cael llond bol ar Lafur erbyn hynny ac yn deisyf newid. Y perygl i Blaid Cymru mewn sefyllfa o’r fath fydd cael ei chosbi yn sgil canfyddiad ei bod yn barod i gynnal breichiau Llafur unwaith yn rhagor. Eto, ni fyddai’n gredadwy petai Rhun ap Iorwerth yn ceisio dadlau na fyddai’n fodlon cydweithredu ag unrhyw un. Mae Cymru angen llywodraeth sefydlog, ac wrth i ni symud tuag at gyfundrefn bleidleisio fwy cyfrannol i Gymru fydd dim modd i Lafur lywodraethu ar ei phen ei hun gyda chefnogaeth dim ond lleiafrif cymharol fychan o aelodau’r Senedd …

Nac oes, nid oes atebion rhwydd. A dyna’r pwynt! Mae arwain unrhyw blaid wleidyddol yn orchwyl anodd. O ystyried ei fod wedi etifeddu’r arweinyddiaeth mewn amgylchiadau mor anaddawol, teg yw dyfarnu bod misoedd cyntaf Rhun ap Iorwerth wrth y llyw wedi bod yn rhai llwyddiannus. Ond wrth gydnabod ei gamp, teg hefyd yw nodi mai dim ond megis dechrau y mae’r gwaith.

Richard Wyn Jones
Chwefror 2024