Rhoi trefn ar Blaid Cymru

Darllen am ddim

Etholiad arall, buddugoliaeth arall i’r Blaid Lafur Gymreig.

Mae’n syn meddwl bod rhyw sylwebydd gwleidyddol yn rhywle wedi bod yn ysgrifennu amrywiad ar y geiriau hyn ers bron iawn i ganrif. Yn wir, o ystyried yr ymateb gwerthfawrogol i raglen ganlyniadau’r sianel eleni, tybed oni ddylai S4C drefnu cyfres o raglenni arbennig ar gyfer 15 Tachwedd 2022, sef canfed pen-blwydd tra-arglwyddiaeth etholiadol Llafur yng Nghymru? Wedi’r cwbl, nid oes dim yn cymharu â’r fath hirhoedledd mewn unrhyw wlad ddemocrataidd arall yn y byd. Licio fo neu beidio, mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel cenedl.

Cawn ddychwelyd eto at Lafur Cymru a’i gafael rhyfeddol ar yr etholaeth Gymreig. Y tro hwn, fodd bynnag, yr wyf am droi fy ngolygon at blaid a gafodd etholiad llawer llai llwyddiannus. Wedi’r cwbl, onid yw hefyd yn wir dweud ein bod i gyd bellach yn hen gyfarwydd ag amrywiad ar y geiriau canlynol: etholiad arall, siom arall i Blaid Cymru? Y cwestiynau amlwg yw pam a beth sydd i’w wneud?

          +     +     +

Cyn bwrw iddi, mae’n deg cychwyn trwy nodi bod elfennau digon calonogol i’r etholiad o safbwynt yr achos cenedlaethol yng Nghymru yn ei ystyr ehangaf.

Fyth ers cyhoeddi canlyniadau refferendwm Brexit yn 2016, mae dealltwriaeth llawer iawn o bobl o natur ein gwleidyddiaeth wedi ei hystumio gan y ffaith fod canlyniadau’r refferendwm hwnnw yng Nghymru yn debycach i’r canlyniadau yn Lloegr nag yr oeddynt i’r canlyniadau yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. O’r herwydd, drosodd a thro yn ystod yr un cyfnod clywyd sylwebwyr yn trin ‘EnglandandWales’ fel uned gyfansawdd gan gadarnhau’r hen ragfarnau hynny sydd wedi gwreiddio mor ddwfn yn niwylliant gwleidyddol y wladwriaeth Brydeinig ac sydd wedi eu mewnoli gennym ni’r Cymry. Ar ôl etholiadau mis Mai mae hynny’n anos o lawer. Nid yr Alban mo Cymru, wrth gwrs. Eto fyth, nid Lloegr mo Cymru chwaith. Mae’n bwysig ein bod wedi’n hatgoffa ein hunain (ac eraill) o hynny.

Ar ben hynny, trwy ddangos y drws i’r caridỳms o Blaid Diddymu’r Cynulliad ac UKIP, mae etholwyr Cymru hefyd wedi ailddatgan eu hyder ym modolaeth ein senedd a’n llywodraeth genedlaethol Gymreig. Dichon y bydd yr ymosodiadau yn eu herbyn yn parhau o gyfeiriad Llundain. Serch hynny, mae eu seiliau’n ymddangos yn sicrach nag y buont ers tro.

Fe ellir hyd yn oed ddadlau bod yr etholiad wedi profi’n llwyddiant arwyddocaol i Blaid Cymru ei hun mewn un ystyr benodol. Clywyd mwy am annibyniaeth yn ystod ymgyrch 2021 nag mewn unrhyw etholiad o’i blaen. Hyn oherwydd negeseuon Ceidwadwyr a’r modd y trafodwyd yr ornest yn y wasg, yn ogystal â’r modd y pwysleisiwyd y pwnc gan Blaid Cymru ei hun. Ers dros ddau ddegawd bu’r golofn hon yn dadlau bod coleddu ac yna dysgu trin a thrafod annibyniaeth mewn modd hyderus yn gam strategol hollbwysig o ran dyfodol y Blaid. Wedi dweud hynny, roedd hi hefyd yn eglur fod risg y gallai pwyslais ar annibyniaeth ddieithrio rhai o gefnogwyr traddodiadol mwy ‘gofalus’ Plaid Cymru.

Ond wrth edrych ar ganlyniadau 2021, er ei bod yn bosibl (yn wir, yn debygol) fod nifer o bleidleiswyr wedi eu colli yn sgil pwyslais diamwys Plaid Cymru ar annibyniaeth, o ystyried bod y niferoedd a bleidleisiodd drosti ar draws Cymru wedi aros yn yr unfan, mae’n amlwg na wnaethpwyd unrhyw niwed mawr. O safbwynt y rhai ohonom sy’n cofio’r holl angst a brofodd y Blaid ar fater annibyniaeth, mae’r trosglwyddiad neu’r adleoli yma wedi ei gyflawni’n wyrthiol o rwydd.

          +     +     +

Ond rhaid i ni beidio â llwytho gormod o siwgr ar y bilsen, chwaith. Mae rheidrwydd arnom i gydnabod gwirionedd amlwg arall, sef bod ymgyrch genedlaethol Plaid Cymru yn etholiad 2021 wedi bod yn embaras ac yn siop siafins.

Chwalwyd y Blaid ym mhob un o’i seddau targed honedig (Aberconwy, Blaenau Gwent, Gorllewin Caerdydd a Llanelli). Collodd yn rhacs yn yr unig (gyn-) sedd o’i heiddo a dargedwyd o ddifrif gan blaid arall (Y Rhondda). Edrychwch mewn difrif ar y canrannau ar y map. A dagrau pethau yw hyn: pan welwyd cynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru, roedd hynny’n ddieithriad yn sgil ymdrechion lleol yn hytrach nag yn ganlyniad i ymgyrch ac ymdrech genedlaethol gydlynol.

Gan adlewyrchu’r ffaith mai cyfres o ymgyrchoedd lleol digyswllt a gafwyd gan Blaid Cymru, unwaith yn rhagor fe fethodd â thynnu sylw at yr ‘ail bleidlais’ a’r modd yr oedd yn cynnig cyfle i gefnogwyr Llafur a oedd am rwystro Torïaid rhag cyrraedd y Senedd gyfrannu at hynny trwy bleidleisio dros y Blaid. Petai mwy o ymdrech i’r cyfeiriad yna dichon y byddai Carrie Harper bellach yn Aelod o’r Senedd a Phlaid Cymru ar fin agor pennod newydd gyffrous yn ei hanes yn y gogledd-ddwyrain.

Roedd hwn hefyd yn etholiad arall pan fethodd Plaid Cymru â rheoli disgwyliadau. Am fisoedd lawer clywyd ei bod am arwain Llywodraeth Cymru a sut y byddai’r brifweinidogaeth un ai yn nwylo’r Blaid ei hun neu’n cael ei rhannu â phlaid arall. Hyn er ei bod yn gwbl amlwg mai dim ond ar y rhestrau yr oedd gobaith gan Blaid Cymru o ennill tir, ac nad oedd digon o seddau yno i wneud gwahaniaeth arwyddocaol. Ond dyna fo, y gwir amdani yw bod gorheipio gobeithion etholiadol bellach wedi datblygu’n rhyw fath o salwch oddi mewn i’r Blaid. Os cofiwch, tua dechrau ymgyrch etholiad cyffredinol 2019 yr oedd ar fin ennill y Rhondda. Hyd yn oed ar ddydd Gwener y cyfrif eleni roedd yna Bleidiwr yn briffio gohebydd gwleidyddol ITV, Adrian Masters, fod ei blaid yn hyderus am ei gobeithion yn Aberconwy. Pam gwneud a dweud rhywbeth mor ynfyd o ffôl?

Mae’r gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn hyn o beth yn ddadlennol: roedd Llafur yn gwybod ymhell cyn 6 Mai eu bod am ddiorseddu Leanne Wood yn y Rhondda ac, yn wir, yn meddwl ei bod yn debygol y byddent yn ennill yn hawdd iawn. Serch hynny, dim ond yn nyddiau olaf yr ymgyrch y dechreuodd yr wybodaeth honno gylchredeg yn eang yn y byd gwleidyddol. Fe ŵyr Llafur fod digon o gyfle i glochdar ar ôl selio’r fuddugoliaeth. Mae Plaid Cymru’n brawf o’r ffaith mai unig ganlyniad clochdar am fuddugoliaeth dybiedig ac wedyn colli ydi chwalu unrhyw hygrededd yn deilchion.

Nodwedd arall gyfarwydd o’r etholiad oedd bod maniffesto Plaid Cymru’n llawn dop o syniadau diddorol a nifer ohonynt, rwy’n sicr, yn syniadau poblogaidd. Ond os nad yw ei phrofiadau blaenorol ei hun yn ddigon o dystiolaeth, dylai’r Blaid gofio sut y profodd ymgyrch y Blaid Lafur Brydeinig ar gyfer etholiad cyffredinol 2019 nad yw hyd yn oed llond trol o bolisïau poblogaidd yn gyfystyr â chynnig etholiadol atyniadol. Yr her i’r Blaid ydi deall sut mae dwyn perswâd ar bleidleiswyr Llafur – pleidleiswyr a chanddynt broffil gwerthoedd tebyg iawn, iawn i gefnogwyr Plaid Cymru ei hun ac sy’n aml iawn yn ddigon hoff ohoni – i fwrw eu croes drosti. Hyd y gwelaf, nid yw’r Blaid fymryn yn agosach at ddeall yr ateb i hynny nag yr oedd ddegawd yn ôl. Ymddengys fod dyfeisio a chynllunio polisïau ar gyfer maniffesto etholiadol yn fwy atyniadol na gwneud y gwaith ymchwil, dadansoddi a thargedu angenrheidiol er mwyn gwybod sut y mae ennill y grym sy’n angenrheidiol er mwyn gallu eu rhoi ar waith.

Unwaith yn rhagor mae’r cyferbyniad â Llafur yn ddadlennol. Oedd, roedd maniffesto’r blaid honno ar gyfer yr etholiad yn dila – mae’n ddogfen geidwadol, ddiuchelgais a di-fflach. Mae’r blaid yn haeddu ei chystwyo am hynny. Fodd bynnag, dyma blaid sydd hefyd wedi buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol yn ceisio deall natur y gystadleuaeth etholiadol dri chornel yng Nghymru rhyngddi hi, Plaid Cymru a’r Torïaid. Dyma blaid a aeth ati i drefnu ymgyrch ar sail y ddealltwriaeth honno a oedd yn asio’r cenedlaethol a’r lleol yn hynod effeithiol. Diau fod amgylchiadau unigryw etholiad 2021 wedi bod o gymorth i Mark Drakeford a’r Blaid Lafur Gymreig, ond gwnaethant bopeth yn eu gallu i gymryd mantais lawn ohonynt. Mae’n briodol ein bod yn cydnabod hynny hefyd.

          +     +     +

Yr hyn sy’n rhaid ei danlinellu hefyd yw nad oes dim yn anorfod am ddiffygion Plaid Cymru. Yn wir, bu cyfnodau’n gymharol ddiweddar pan fu trefniadaeth y Blaid y gorau o ddigon o blith holl bleidiau gwleidyddol Cymru ac yn destun eiddigedd i’r lleill. Sut felly mae sicrhau bod Plaid Cymru yn adfer y sefyllfa? Hyd y gwelaf, mae tri cham anhepgorol.

1. Cael gwared â’r rhaniadau
I’m tyb i, un o broblemau canolog y Blaid mewn blynyddoedd diweddar fu’r diffyg cydlynu ac yn wir y diffyg ymddiriedaeth rhwng yr arweinyddiaeth (yn achos y ddau arweinydd diwethaf gwelwyd clique cymharol fach ond dylanwadol yn ffurfio o amgylch yr arweinydd), y grŵp o aelodau etholedig a’u staff yn y Senedd, a’r swyddfa ganolog yn Nhŷ Gwynfor.

Ar y pwynt yma, nid oes diben trafod pam neu bwyntio bys at hwn a’r llall am greu sefyllfa o’r fath. Digon yw dweud na fydd rhagolygon y Blaid fyth yn newid oni bai fod cydweithrediad ac ymddiriedaeth yn cael eu sefydlu ac mai cyfrifoldeb yr arweinydd, yn y pen draw, ydi sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae’n gyfle yn awr, felly, i Adam Price ddangos ei ruddin. Rwy’n tybio mai dyma’r grŵp cryfaf o aelodau etholedig a gafodd Plaid Cymru erioed yng Nghaerdydd a bydd Prif Weithredwr parhaol yn cael ei benodi yn y man hefyd. Mae’r deunydd crai un ai yn ei le neu ar fin cyrraedd; y cwestiwn sy’n aros i’w ateb yw a oes pensaer a chanddo ddigon o weledigaeth, amynedd a – noder – gwyleidd-dra i’w ddwyn ynghyd yn llwyddiannus?

2. Diwygio’r peiriant ymgyrchu
Afraid dweud bod gwleidyddiaeth wedi bod yn newid yn eithriadol o gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Bu graddfa’r newid yn ddigon i roi pendro i bob un ohonom. Mae’r un peth hefyd yn wir am ymgyrchu gwleidyddol. Mae gan y pleidiau mawrion ffyrdd newydd o adnabod darpar bleidleiswyr sy’n adlewyrchu nid yn unig newidiadau yn y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael amdanynt ond yn ogystal newidiadau yn yr hyn sy’n cyflyru etholwyr. Mae yna hefyd ffyrdd newydd o gysylltu â darpar bleidleiswyr heb sôn am aelodau a chefnogwyr.

Yn eironig ddigon, yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i ddyfod yn arweinydd Plaid Cymru fe nododd Adam Price yr angen i ddiweddaru peirianwaith ymgyrchu’r blaid gan gynnig nifer o syniadau ynglŷn â sut i wneud hynny. Hyd y gwelaf, nid oes dim wedi dod ohonynt nac yn wir o’r felin drafod sydd wedi ei lansio ganddo sawl gwaith dros y blynyddoedd. Unwaith eto, nid mater o bwyntio bys ydi hyn (ac wrth reswm bu cyflawni unrhyw beth dros y flwyddyn a mwy diwethaf yn anodd, anodd). Ond wedi etholiad arall siomedig, mae’n hwyr glas fod peiriant ymgyrchu’r blaid yn cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru.

3. Gonestrwydd mewnol
Mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol, mae tuedd naturiol i ymateb i siom trwy fod yn amddiffynnol. Chawsom ni ddim chwarae teg; roedd y reffarî’n unllygeidiog; buom yn eithriadol o anlwcus; ar ddiwrnod neu mewn mis neu flwyddyn arall byddai pethau wedi bod yn wahanol ond y tro hwn doedd y gwynt ddim o’n plaid: bydd pob un wan jac ohonom wedi ceisio egluro cael ein siomi mewn termau o’r fath. A wyddoch chi beth, nid hel esgusodion yn unig mo hyn chwaith! Yn aml mae dogn helaeth o wirionedd yn y peth. Mae cymaint sydd y tu hwnt i’n rheolaeth neu sy’n anrhagweladwy.

Ond mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol, mae hefyd yn bwysig ein bod yn fodlon gofyn cwestiynau caled ynglŷn â’r modd y buom yn delio â’r pethau hynny sydd o fewn ein rheolaeth ac y gellid neu y dylid bod wedi eu rhag-weld. Mae profiad y degawd diwethaf yn awgrymu bod Plaid Cymru’n cael hynny’n anodd.

Felly’r cam cyntaf un o ran adfer trefniadaeth Plaid Cymru – y cam pwysicaf i gyd o bosib – yw cynnal adolygiad mewnol gonest o’r hyn a ddigwyddodd yn etholiad mis Mai: adolygiad sy’n annibynnol ac yn awdurdodol; sy’n eofn ond yn osgoi carfanu; sy’n finiog ond yn adeiladol. Waeth inni heb a bod yn naïf: byddai’n haws gan lawer oddi mewn i’r blaid osgoi proses o’r fath gan y gallai’r canlyniadau fod yn bur anghysurus. Eto i gyd, os nad ydyw’n fodlon rhoi trefn ar ei threfniadaeth fewnol ei hun, yna fydd dim modd osgoi etholiadau eraill a fydd yn cael eu dilyn gan lu o erthyglau’n trafod llwyddiant Llafur a siomedigaeth Plaid Cymru. Wrth reswm, bydd Llafurwyr yn croesawu hynny, ond siawns nad yw aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru bellach wedi cael llond bol?

Richard Wyn Jones
Mehefin 2021