Sensoriaeth amhersain

Darllen am ddim

Gofynnwyd i’r band pres bywiog The Barry Horns ymddangos ar y rhaglen bêl-droed Y Wal Goch, i’w darlledu wedi’r etholiad diweddar. Dyw’r band ddim yn swil o ddangos eu cefnogaeth i’r syniad o annibyniaeth i Gymru. Roeddent yn awyddus i ganu eu cân newydd ‘Cymru Rydd’, cân ddwyieithog yn y dull rap sy’n ei deud hi fel y mae, gan sôn am Dryweryn, Brad y Llyfrau Gleision, ‘Yma o Hyd’ a sawl cyfeiriad gwleidyddol arall, ac mae’r prif gytgan yn cynnwys y geiriau ‘What we want – some self-determination/ Cymru rydd – lead us to liberation…/ Cymru rydd – resist our annexation’. Neges ddigon clir felly.

Dywedwyd wrth y band na allen nhw ganu’r geiriau, ond bod croeso iddyn nhw chwarae’r gân yn offerynnol. Yr hyn a ddywedodd S4C mewn datganiad oedd mai rhaglen am bêl-droed oedd Y Wal Goch, a doedden nhw ddim yn gweld pwrpas dod â gwleidyddiaeth i’r potes! Sy’n codi sawl cwestiwn diddorol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nawr mae Boris Johnson am i bobl beidio â defnyddio’r gair ‘gwlad/country’ wrth gyfeirio at Gymru a’r Alban, gan mai un ‘wlad’ yw’r UK. Ond holl bwrpas Y Wal Goch yw dathlu’r ffaith fod tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi cyrraedd yr Ewros – nid yr Alban, nid Lloegr, ond Cymru. Sylfaen yr holl raglen yw dathlu cenedligrwydd Cymru.

Pa mor bell, tybed, y mae S4C am fynd i gadw gwleidyddiaeth allan ohoni? Un o uchafbwyntiau’r profiad o ddilyn Cymru ers Ewros 2016 yw clywed y dorf yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’, yr anthem sy’n cynnwys y llinellau ‘Ein gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,/ Dros ryddid collasant eu gwaed’. Mae hwnna’n swnio’n ddatganiad peryglus o wleidyddol i mi – ydi S4C am wahardd canu’r anthem tybed? Neu osod llun o Boris Johnson a Jac yr Undeb dros y rhan honno o’r anthem?

Dwi wedi crybwyll hyn o’r blaen yn rhywle, – gallwn droi clust fyddar i eiriau sydd wedi bod o gwmpas ers tro, a chanu am lofruddio merch o’r enw Delilah am yn ail â’r Great Jehova a Chalon Lân. Mae ‘Yma o Hyd’ yn ddigon hen erbyn hyn i gael maddeuant. Ond mae cân newydd sbon sy’n mynegi teimladau cenedlaethol yn ddi-flewyn-ar-dafod yn beryg bywyd. Ac mae’r caneuon hyn, diolch i’r drefn, yn amlhau – glywsoch chi gân bwerus Jacob Elwy a’r Trŵbz am ‘Annibyniaeth’? Glywsoch chi ganeuon Dewi Pws dros Yes Cymru? Ychydig iawn glywn ni ohonyn nhw ar S4C na Radio Cymru, ond fedran nhw ddim eu hanwybyddu am byth. Onid dyletswydd ein darlledwyr yw rhoi llwyfan i ganeuon sy’n mynegi teimladau cryfion yr oes?

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiwethaf, recordiwyd fersiwn newydd o’r gân ‘Ar Noson fel Hon’ o’r sioe ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ gan nifer o gantorion ifanc. Doedd dim sôn ynddi am blaid o gwbl (yn wir gallai fod yn deilwng o ymgyrch ‘wladgarol’ Plaid Lafur Cymru), ond ni chlywyd hi unwaith ar y cyfryngau cyhoeddus, er iddi gael ei chwarae filoedd o weithiau ar y platfformau digidol. Ai sensoriaeth yw hyn, yntau effaith sefyllfa lle mae’r BBC ac S4C yn poeni am y cyllid o law llywodraeth Boris Johnson?

Dafydd Iwan
Gorffennaf 2021