Syr Keir Starmer, Llafur a Lloegr

Darllen am ddim

Dwi’n gwybod!

Debyg iawn eich bod yn darllen hwn ar drothwy’r etholiad ar gyfer Senedd Cymru ac yn naturiol ddigon, bydd y rhan fwyaf ohonoch yn disgwyl imi drafod y rhagolygon, dyfalu ynglŷn â ffurf y llywodraeth nesaf, ac yn y blaen. Ond fe fydd y teitl eisoes wedi eich rhybuddio nad felly y bydd hi.

Ymddiheuriadau i’r rhai ohonoch sydd wedi eich siomi. Eto, mae dau reswm da dros droi ein golygon y tu hwnt i Glawdd Offa ac at arweinydd y Blaid Lafur.

Y cyntaf yw ei bod yn anodd iawn dweud unrhyw beth synhwyrol am yr etholiad y tu hwnt i’r hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud. Yn y rhifyn diwethaf o BARN fe fûm yn ddigon hyf i ddarogan y canlynol am Etholiad Cymru 2021:

Mae’n annhebygol iawn y bydd y canlyniad drwyddo draw yn amrywio rhyw lawer o batrwm sydd bellach yn hen gyfarwydd: Llafur fel y blaid fwyaf, gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cystadlu am yr ail safle, ac o fewn ychydig o seddau i’w gilydd y naill ffordd neu’r llall, siŵr o fod.

Er mor anwadal yw’r arolygon barn a gynhaliwyd yn y cyfamser, dwi’n parhau i gredu mai felly y bydd. Hynny’n rhannol, wrth gwrs, oherwydd ei bod yn broffwydoliaeth sy’n caniatáu amrywiaeth fawr o bosibiliadau o ran yr union ganlyniad. Ac yn y pen draw bydd lliw a siâp y llywodraeth nesaf yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr union fanylion hynny. Felly bydd yn rhaid aros yn amyneddgar tan o leiaf nos Wener 7 Mai, ac o bosibl ychydig o ddyddiau wedi hynny, cyn gweld beth a ddaw.

Ond yn ail, os yw etholwyr Cymru unwaith yn rhagor ar fin ymddiried eu dyfodol gwleidyddol i’r Blaid Lafur, gan estyn cyfnod dominyddiaeth y blaid honno i fwy na chanrif, yna bydd sut hwyl mae Syr Keir Starmer yn ei gael fel arweinydd y blaid yn gwestiwn o’r pwys mwyaf i Gymru drwyddi draw.

*          *          *

Dros yr wythnosau diwethaf bu llawer o drafod yn y wasg am flwyddyn gyntaf Starmer wrth y llyw. Mae beirniaid a chefnogwyr un ai wedi canmol neu gondemnio’r newidiadau a welwyd ers iddo gymryd yr awenau oddi wrth Jeremy Corbyn. Y dybiaeth, fe sylwch, yw bod ’na newidiadau arwyddocaol wedi digwydd – tybiaeth y mae sail iddi, efallai, mewn rhai meysydd. Eto, o safbwynt y rhai ohonom sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth diriogaethol y wladwriaeth, mae’n ymddangos fod llawer iawn mwy o barhad nag o newid. Yn fwyaf trawiadol, mae Llafur yn parhau’n gwbl analluog i gymryd Lloegr o ddifrif.

Go brin ei bod yn gyfrinach fod Lloegr a Seisnigrwydd yn gwneud Llafur yn anghysurus tu hwnt. Erys ymddiswyddiad Emily Thornberry yn sgil ei hymateb ar Trydar i weld tair baner San Siôr yn crogi o dŷ teras adeg isetholiad Rochester a Strood yn Nhachwedd 2014 yn symbol o’r holl angst a grëir ym mynwes y blaid wrth ystyried hunaniaeth cenedl fwyaf y Deyrnas Unedig. Ond efallai fod yr enghraifft orau o ddryswch deallusol Llafur i’w chanfod wrth gymharu maniffestoau’r blaid ar gyfer etholiadau cyffredinol 2017 a 2019.

Roedd y cyntaf yn addo y byddai llywodraeth Lafur yn creu swydd Gweinidog ar gyfer Lloegr yn y llywodraeth honno. Ni fyddai’n swydd gabinet yn ei hawl ei hun. Yn hytrach byddai’r swydd-ddeilydd yn ddirprwy yn yr adran sy’n gyfrifol am dai, cymunedau a llywodraeth leol yn Lloegr. Ond, yn ôl y maniffesto, byddai ef neu hi’n cydweithio’n glos hefo Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid cyfaddef nad oedd hi’n eglur o gwbl beth yn union fyddai’r Gweinidog ar gyfer Lloegr yn ei wneud o ran gwaith go iawn. Ar ben hynny mae’n anodd credu bod creu swydd a oedd yn dynodi statws is i Loegr o’i gymharu â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwbl gydnaws â’r math o argraff yr oedd llunwyr y maniffesto’n ceisio ei greu. Ond o leiaf roedd yn arwydd fod rhywun yn eu plith a oedd yn ceisio meddwl yn greadigol am y pwnc.

Erbyn 2019 roedd yr holl gynllun wedi diflannu. Yn wir, yr unig arwydd fod Llafur yn fodlon estyn unrhyw gydnabyddiaeth gadarnhaol o fodolaeth Lloegr oedd ail ddatganiad o’r ymrwymiad a wnaed yn 2017 i greu Gŵyl Banc i ddathlu Gŵyl San Siôr, a hynny fel rhan o gynllun ehangach i greu pedair Gŵyl Banc newydd, sef un yr un ar gyfer pedwar nawddsant cenhedloedd yr ynysoedd hyn.

Os dim arall, mae’r gymhariaeth yma’n cadarnhau bod cof arweinwyr y Blaid Lafur (am rai pethau, o leiaf) yn syfrdanol o fyr.

Bedair blynedd ynghynt, adeg etholiad cyffredinol 2015, fe chwalwyd gobeithion Llafur gan ymgyrch Geidwadol a ganolbwyntiodd bron yn llwyr ar y bygythiad honedig o ethol llywodraeth leiafrifol dan arweiniad Ed Miliband a fyddai’n ddibynnol ar gefnogaeth yr SNP. Crisialwyd y neges Dorïaidd mewn poster a grëwyd gan gwmni enwog Saatchi a oedd yn portreadu Miliband yn swatio’n dwt ym mhoced siwt Alex Salmond. Mae pob adroddiad a thystiolaeth a welais erioed am yr ymgyrch gan newyddiadurwyr neu ymgeiswyr y gwahanol bleidiau yn unfryd unfarn fod neges y Ceidwadwyr wedi profi’n hynod effeithiol.

Ni ellir amau chwaith nad oedd y Ceidwadwyr yn gwneud mwy na chodi bwganod am yr SNP. Yn hytrach yr oeddynt – a hynny’n gwbl fwriadol – yn chwarae ar amheuon Seisnig mwy cyffredinol ynglŷn â dylanwad Albanwyr. Wrth egluro llwyddiant yr ymgyrch fe ddywedodd y gŵr a oedd ar y pryd yn gadeirydd M&C Saatchi, Jeremy Sinclair, hyn:

We hate being ruled or bossed by foreigners. French, Germans, Scots, anyone – and it looked as though we were going to be run by Alex Salmond… it is a most powerful thing when people are threatened by government by outsiders.

Roedd y Ceidwadwyr mor llwyddiannus yn eu hymdrech i fobileiddio grym gwleidyddol Seisnigrwydd nes sicrhau mwyafrif annisgwyl i David Cameron. Yn y ddau etholiad a gynhaliwyd ers 2015 gwelwyd y Torïaid yn ennill mwy a mwy o dir ymysg y pleidleiswyr hynny sy’n pwysleisio eu hunaniaeth Seisnig. Ac wrth gwrs, yr un rhai a dyrrodd i bleidleisio i Adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i fuddugoliaeth 2015.

Petai unrhyw obaith y gallasai Llafur – dan arweiniad Starmer neu unrhyw olynydd iddo – fod mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth leiafrifol, yna fe fydd y Ceidwadwyr yn siŵr o ailadrodd ymgyrch 2015. Mae unrhyw Lafurwr sy’n tybio’n wahanol yn ei dwyllo’i hun. Yn wir, tra bydd yr SNP yn dal o gwmpas ac o ystyried bod y nifer o Aelodau Seneddol a etholir yng Nghymru ar fin gostwng o 20 y cant, mae’r unig lwybr at fwyafrif i Lafur yn un sy’n mynd trwy Loegr. O leiaf mae’r blaid yn ymwybodol o hynny. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddi yn adolygu etholiad cyffredinol 2019, cydnabu’r awduron fod y sefyllfa yn yr Alban yn golygu na fyddai mwyafrif i’r blaid oni bai ei bod yn llwyddo i gipio etholaeth Jacob Rees-Mogg yng Ngogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf. Talcen go galed.

Serch hynny, y tu hwnt i wamalu ynglŷn â ‘gwladgarwch’ – Prydain, wrth gwrs, yw’r wlad, ni cheir fyth sôn am Loegr – nid yw Plaid Lafur Keir Starmer damaid yn agosach at ganfod ffordd o fynd i’r afael â’r Seisnigrwydd milwriaethus sydd wedi bod yn gweddnewid y wladwriaeth hon ers canol y degawd diwethaf.

Yn wir, wrth gefnogi ‘ffederaliaeth radicalaidd’ er mwyn ceisio adennill tir yn yr Alban a rhyngu bodd y llywodraeth Lafur yng Nghymru, mae’n fwy na phosib fod Starmer ar fin gwneud pethau’n waeth. Mae hyn oherwydd bod unrhyw symudiad i gyfeiriad ffederaleiddio yn golygu rhannu Lloegr yn rhanbarthau. Ac mae’r arolygon barn yn dangos yn eglur iawn fod y farn yn Lloegr wastad yn ffafrio ei thrin fel un wlad yn hytrach na’i rhannu yn y fath fodd.

Os yw Llafur yn dewis ymladd etholiad cyffredinol ar raglen sy’n cynnwys ‘ffederaliaeth radicalaidd’ gan barhau i anwybyddu Lloegr ei hun, fe fydd yn fêl ar fysedd y Torïaid. Bydd hysbysebion Saatchi’n eu hysgrifennu eu hunain!

Hyd yn oed os yw’r Blaid Lafur yn gyndyn iawn, iawn o dderbyn hynny, nid oes osgoi Lloegr a Seisnigrwydd. Yn wir, nid gormodiaith yw dweud na ellir ystyried bod y Blaid Lafur Brydeinig o ddifrif am ennill grym nes ei bod yn fodlon cymryd Lloegr a Seisnigrwydd o ddifrif.

Eto i gyd, dyma ni yng Nghymru ar fin ymddiried ein ffawd unwaith yn rhagor i’r blaid honno. Rhyfedd o fyd.

Richard Wyn Jones
Mai 2021