Ta ta tŷ ha’

Darllen am ddim

Dydw i ddim yn un o’r bobol hynny sy’n bytheirio yn erbyn perchnogion tai haf. Maen nhw’n bobol ddigon clên, yn chwarae ffwtbol ar y traeth efo fi a’r mab, ac am eu bod yn gefnog yn gwrthwynebu Brexit. Tasen nhw’n medru Cymraeg, fe fydden nhw’n darllen BARN.

Ond rydw i yn un o’r bobol hynny sy’n bytheirio yn erbyn tai haf. Mae yna ormod ohonyn nhw, yn enwedig yma ar hyd glannau Gwynedd, ac yn Borth-y-gest lle rydw i’n byw. Ar ôl Brexit, gallwn warantu y bydd mwy. Wedi’r cwbl, pwy yn eu hiawn bwyll fyddai’n prynu tŷ haf yn Sbaen heb fod ganddynt hawl ddidramgwydd i drigo yno?

Mae hon yn broblem fawr mewn polisi cyhoeddus, a’r duedd yng Nghymru fu dod ati o safbwynt ateb trethiannol, ac yn Lloegr o du polisi cynllunio.

Yng Nghymru, mae gan awdurdodau yr hawl i godi premiwm treth cyngor o hyd at 100% ar ail gartrefi, gyda rhai awdurdodau wedi penderfynu codi premiwm o 25% ac eraill yn codi 50%. Mae’n bolisi digon hyblyg serch fod iddo rai anfanteision.

Un anfantais ydi bod rhywrai wedi canfod ffordd o gofrestru’u tai fel busnesau a thrwy hynny osgoi talu treth yn gyfan gwbl. Un arall ydi nad ydi treth yn lleihau dim ar allu prynwr cyfoethog i bwrcasu tŷ haf yn y lle cyntaf.

Felly mae angen craffu ar bosibiliadau o ran y drefn gynllunio. Rydw i’n falch gan hynny o fod wedi derbyn grant bach oddi wrth y Coleg Cymraeg i astudio polisi tai haf Cernyw. Mewn rhai plwyfi yng Nghernyw, maen nhw wedi defnyddio pwerau cynllunio i rwystro tai newydd rhag mynd yn dai haf.

Sail hyn ydi ‘cynlluniau cymdogaeth’ sy’n datganoli sawl penderfyniad cynllunio o’r cyngor sir i gynghorau tref a chymuned. Mae hynny’n fuddiol am fod y broblem tai haf fel arfer yn eithriadol o leol, hyd yn oed mewn siroedd gwledig. Gall fod problem neilltuol mewn rhai pentrefi mynyddig ac arfordirol, a llai o her ar stadau mewn trefi. Mae caniatáu i blwyfi lleol deilwra polisi ar eu cyfer hwy eu hunain yn creu hyblygrwydd sy’n medru ymateb i’r gwahaniaethau hyn.

Gwn nad yw llawer yn treulio dyddiau seibiant ym Mhorthia (St Ives) yn trafod y St Ives Neighbourhood Development Plan 2015–2030, ond dyna wnes i y mis diwethaf. Mae’n ddogfen chwyldroadol yn nhraddodiad gorau radicaliaeth Gernywaidd, ac yn deddfu fel a ganlyn:


Due to the impact upon the local housing market of the continued uncontrolled growth of dwellings used for holiday accommodation (as second or holiday homes) new open market housing, excluding replacement dwellings, will only be supported where there is a restriction to ensure its occupancy as a Principal Residence.

Mae’r cymal hwn wedi trechu her gyfreithiol, ac apêl at Arolygydd. Ers dwy flynedd a hanner, nid breuddwyd gwrach mohono ond polisi gweithredol. Mae’n rhy fuan i gynnal adolygiad statudol ohono eto. Ond dywed y Cynghorydd Rita Lait, pensaer y cynllun, ei fod yn llwyddiannus hyd yma. Da hynny am fod oddeutu wyth neu naw o gymunedau eraill yng Nghernyw am ddilyn trywydd Porthia.

Mae Simon Brooks yn Athro Cyswllt yn Academi Morgan, Prifysgol Abertawe.

Simon Brooks
Mai 2019