‘Ti ar mute’ a chreadigaethau eraill – adolygiad o’r Cyfansoddiadau

Yn anochel, mae’n siŵr gen i na fu cyfrol erioed o’r blaen yn hanes hir y Cyfansoddiadau fu’n adlewyrchiad o’r zeitgeist, neu ysbryd yr oes, i’r un graddau â hon. Efo amrywiad ar eiriau mwyaf cyfarwydd y dwthwn Zoomaidd hwn, ‘Ti ar mute, Llinos’, y mae Menna Machreth yn agor ei stori fer fuddugol. Nid fod Menna’n bodloni’n unig ar gofnodi ein dibyniaeth ar y dechnoleg. Mae tro sobreiddiol a hollol gredadwy (ysywaeth) i’w stori.

Yn yr Adran Theatr enillwyd y gystadleuaeth cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol gan Sian Northey a osododd ei darnau yn y dyfodol, y naill yn 2065 a’r llall yn 2101. Er nad wyf yn siŵr o arwyddocâd y dyddiadau, lluniodd fonologau grymus y byddai actor talentog wrth ei bodd, dwi’n siŵr, yn derbyn yr her o fynd ati i’w perfformio.

Roedd enillydd y Gadair, Gwenallt Llwyd Ifan, wedi cyflawni’r gamp honno am y tro cyntaf yn Llanbedr-goch yn 1999. ’Dwn i ddim faint o ots fydd ganddo ei bod yn well o lawer gen i’r awdl yn y wers rydd gynganeddol a enillodd iddo’r Gadair eleni.

Vaughan Hughes
Medi 2021