Troseddau Neil Foden – risgiau posibl yr adolygiad

Adroddiadau 'Lost in Care' a Clywch
Darllen am ddim

Mae Cymru wedi gweld enghreifftiau difrifol o gam-drin plant yn ei hanes diweddar. Cofiwn am ymchwiliad Waterhouse i achosion o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru rhwng 1974 ac 1990, a hefyd ymchwiliad Clywch gan Gomisiynydd Plant Cymru wedi cwynion am ymddygiad John Owen yn Ysgol Rhydfelen. Mae achos diweddar Neil Foden yn ychwanegiad trist arall at y rhestr o achosion o’r fath.

Yn dilyn yr achos yn erbyn Foden yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cyhoeddodd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru y byddai’n cynnal ‘Adolygiad Ymarfer Plant’ i weld ‘pa wersi y gellir eu dysgu’. Ond mae’n werth pwysleisio bod ymchwiliadau Waterhouse a Clywch yn wahanol eu natur i’r ymchwiliad arfaethedig hwn gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dilyn achos Foden. Yn achosion Waterhouse a Clywch, sefydlwyd ymchwiliadau statudol annibynnol i ganfod yr hyn a ddigwyddodd, ac i wneud argymhellion i sicrhau gwelliannau ar gyfer y dyfodol. Roedd yr ymchwiliadau hyn yn cael eu cadeirio gan unigolion hollol annibynnol a chanddynt bŵer gorfodaeth i fynnu tystiolaeth a sicrhau presenoldeb y tystion o’u blaen, gan gynnwys y rhai a oedd yn cael eu cyhuddo o fethiannau.

Mae’r ymchwiliad arfaethedig dan law Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn sgil troseddu Foden dipyn yn wahanol. Ym maes amddiffyn plant ac oedolion bregus, mae’r Bwrdd yn gorff partneriaethol sy’n gweithredu ar ran holl awdurdodau lleol y gogledd, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Prawf. Er bod gan y Bwrdd Diogelu statws statudol, bwriad yr ymchwiliad yw gwahodd, yn hytrach na gorfodi, tystiolaeth gan y tystion/asiantaethau perthnasol i ganfod eu barn ar sut y byddent yn gallu gweithredu’n wahanol, ac yn well, fel bod unrhyw wersi sydd i’w dysgu yn cael eu cydnabod, ac yn cael eu gweithredu trwy welliannau mewn polisi. Er bod y Bwrdd yn bwriadu penodi Cadeirydd annibynnol i arwain y gwaith ac i bennu sut i fynd ati, mae’r broses yn ddibynnol ar gydweithrediad y tystion/asiantaethau perthnasol sy’n cael eu cyhuddo o fod wedi gweithredu’n ddiffygiol.

Tra mae proses o’r fath yn caniatáu i adroddiad gael ei baratoi yn gynt o lawer nag adroddiad tebyg i’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan Waterhouse a Clywch, tybed a fydd gwaith y Bwrdd yn effeithiol lle bydd y tystion/asiantaethau yn poeni am achosion llys i ddilyn, neu ymchwiliad statudol llawnach? Oherwydd hynny, a fydd y tystion/asiantaethau yn gyndyn o gynnig tystiolaeth i’r bwrdd? A ydynt yn debyg o gynnig syniadau am welliannau i’r dyfodol, gan wybod y gallasai cyfraniadau o’r fath gael eu dehongli fel cydnabyddiaeth o ddiffygion yn y gorffennol? Y gofid yw y bydd unrhyw ymatebion am dystiolaeth yn amddiffynnol, yn hytrach nag adeiladol, a thrwy hynny yn peryglu tasg y Bwrdd o wneud argymhellion effeithiol.

Peter Watkin Jones
Mehefin 2024