Y Blaid Geidwadol Gymreig – neu Blaid ‘mae popeth yn well yn Lloegr’

Darllen am ddim

Ar drothwy’r Nadolig y llynedd roedd y Torïaid yn yr uchelfannau – nid yn Lloegr yn unig ond yng Nghymru hefyd. Buan y newidiodd y sefyllfa fodd bynnag.

Mae’r pla ’ma wedi troi popeth ar ei ben, gan gynnwys y rhagolygon ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiad Senedd Cymru fis Mai nesaf.

Gwta chwe mis yn ôl roedd pethau’n ymddangos yn addawol dros ben i Paul Davies a’i griw. Roedd Boris Johnson fel petai’n gallu ysgubo popeth o’i flaen yn sgil ennill buddugoliaeth a oedd nid yn unig wedi chwalu Corbyn a Corbyniaeth yn deilchion, ond a oedd hefyd wedi llwyddo i dorri crib Llafur Cymru – sef, does bosib, un o’r peiriannau etholiadol mwyaf effeithiol yn y byd democrataidd. Yn wir, mor ddiweddar â mis Ebrill, cyhoeddwyd arolwg barn awdurdodol a oedd yn awgrymu y gallasai’r Ceidwadwyr fod wedi ennill 26 o seddi yn y Senedd petai etholiad datganoledig wedi ei gynnal ar y pryd. Roedd hyn yn cynnwys 15 sedd etholaethol (sef un yn fwy nag y llwyddwyd i’w hennill ym mis Rhagfyr) yn ogystal ag 11 sedd ranbarthol. Byddai canlyniad o’r fath yn golygu mai’r Torïaid fyddai’r blaid fwyaf yn y Bae, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r rhod wedi troi. Mewn arolwg a gyhoeddwyd ddechrau mis Mehefin, gwelwyd bod y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi gostwng yn sylweddol tra mae’r gefnogaeth i Lafur a Phlaid Cymru ar gynnydd. Petai etholiad wedi cael ei gynnal bryd hynny, yna’r amcangyfrif oedd y byddai Paul Davies yn arwain grŵp o 19 Aelod Seneddol. Mae hynny’n parhau’n nifer hynod barchus, wrth gwrs, ac yn gynnydd ar ganlyniad etholiad 2016. Serch hynny, o’i gymharu â’r gobeithion a oedd yn cyniwair ymysg hoelion wyth y Blaid Geidwadol Gymreig yn eu cynhadledd yn Llangollen ddechrau mis Mawrth, byddai’n cyfrif fel siom. Ac rwy’n tybio y bydd y Torïaid Cymreig mwyaf hirben yn sylweddoli’n burion ei bod yn debygol fod gwaeth – ac efallai, llawer gwaeth – i ddyfod. Mae hynny oherwydd y modd y maent wedi llwyddo i’w peintio eu hunain i mewn i gornel o ran eu strategaeth fel plaid.

Dwy elfen – a dwy elfen yn unig – fu i strategaeth y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers i Boris Johnson gael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog ar 24 Gorffennaf y llynedd. Y gyntaf fu ceisio syrffio ar don poblogrwydd personol Johnson a’i statws fel arweinydd answyddogol yr ymgyrch lwyddiannus i lusgo’r Deyrnas Gyfunol allan o’r Undeb Ewropeaidd. Yr ail fu dadlau bod pethau’n well, yn wir, fod popeth yn well, yn Lloegr.

Ar un wedd, roedd elfen gyntaf y strategaeth honno’n ddigon synhwyrol yn yr ystyr fod Johnson wedi profi droeon ei fod yn gallu apelio at bleidleiswyr na fyddent gan amlaf yn eu hystyried eu hunain yn Dorïaid naturiol. Ond yn bwysicach, dyma’r gwleidydd sydd bellach yn ymgorffori ac yn rhoi mynegiant i’r cenedlaetholdeb Eingl-Brydeining hwnnw sydd wedi bwrw gwleidyddiaeth y wladwriaeth oddi ar ei hechel. Cenedlaetholdeb sydd hefyd, fel yr eglurwyd droeon yn y golofn hon, yn apelio at gyfran sylweddol o etholwyr Cymru.

Felly pam peidio â chymryd mantais o hynny? Pam lai? Yn enwedig o gofio bod strwythurau mewnol a rhagfarnau dyfnaf y blaid ei hun yn golygu ei bod yn amhosibl iddi hybu proffil Paul Davies fel gwir arweinydd cenedlaethol.

Mae Davies, wrth gwrs, yn hoff o’i gyflwyno ei hun (ar ei wefan, er enghraifft) fel ‘Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig’, ond mewn gwirionedd nid yw ei awdurdod yn ymestyn y tu hwnt i’r grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru. Os am dystiolaeth o hynny, yna nid oes angen edrych ymhellach na rhaglen cynhadledd Llangollen lle’r oedd proffil Johnson, yr Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart, a hyd yn oed Gadeirydd Cymreig y blaid, yr Arglwydd Byron Davies – gŵr sydd â meddwl eithriadol o uchel o’i alluoedd ei hun – ill tri’n uwch na phroffil Aelod Seneddol Preseli Penfro.

Dylai hanes gwleidyddiaeth ddatganoledig ym Mhrydain – ac yn wir, gwleidyddiaeth ‘ranbarthol’ ledled y byd democrataidd – fod wedi rhybuddio’r Ceidwadwyr mai gêm beryglus oedd eu cyflwyno eu hunain fel plaid ‘Mae popeth yn well yn Lloegr’. Mae ffawd Alun Michael, neu’n wir Blaid Lafur yr Alban drwyddi draw, yn dangos yn eglur ei bod yn well o lawer i bleidiau unoliaethol, hyd yn oed, eu cyflwyno eu hunain fel pleidiau sy’n achub cam y ‘rhanbarth’ yn hytrach na phlaid sy’n cynrychioli’r wladwriaeth ganolog yn y ‘rhanbarth’. ‘Dŵr coch clir’ oedd fersiwn Rhodri Morgan o’r safbwynt hwnnw, tra oedd Carwyn Jones yn ‘Sefyll cornel Cymru’: mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y math yma o wleidyddiaeth yn gweithio.

Eto fyth, mae’n debyg ei bod yn anodd os nad yn amhosibl disgwyl i’r Torïaid Cymreig wneud dim ac eithrio mabwysiadu eu safbwynt presennol o gofio’r ffordd y bu’r gwynt yn chwythu oddi mewn i’r blaid honno ers degawd a mwy. Erbyn hyn, mae’r dyddiau o geisio Cymreigio delwedd ac osgo’r blaid dan arweiniad gwron megis yr Arglwydd Brian Griffiths o Fforestfach a David Melding yn ymddangos fel hen, hen hanes. Yn wir, mae yna rywbeth yn afreal ynglŷn â chofio’n ôl a sylweddoli bod y posibiliad o ‘lywodraeth enfys’ yn cael ei ystyried o ddifrif yn 2007.

Bellach, mae’n amlwg mai 2007 oedd penllanw’r ymdrech i Gymreigio’r Ceidwadwyr Cymreig. Y gwir amdani yw bod absenoldeb unrhyw Aelodau Seneddol Cymreig o gwbl rhwng 1997 a 2005 wedi creu cyfle unigryw i wthio’r agenda honno yn ei blaen. Unwaith y dechreuodd Aelodau Seneddol Cymreig ailymddangos – 3 yn 2005, 8 yn 2010, 11 yn 2015 – fe ddaeth hi’n gynyddol anodd i ddwyn perswâd ar aelodau llawr gwlad y blaid, heb sôn am yr Aelodau Seneddol eu hunain, fod unrhyw werth mewn dilyn trywydd a fu’n groes-graen i’r mwyafrif llethol ohonynt erioed. Yn raddol, felly, dychwelodd y Ceidwadwyr at eu hagwedd lugoer draddodiadol. Efallai na ellir troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli, ond digon yw digon: rhaid gwrthwynebu unrhyw beth sy’n debygol o wneud Cymru’n wahanol i Loegr. Mae hynny’n golygu, wrth gwrs, fod yn rhaid cefnogi unrhyw beth y mae llywodraeth Brydeinig Geidwadol yn ei wneud yn Lloegr doed a ddelo, a dadlau o blaid gwneud yr un fath yng Nghymru hefyd.

Y broblem i’r Ceidwadwyr Cymreig yw ei bod yn ymddangos bod Johnson yn prysur golli ei gyffyrddiad poblogaidd a’i bod yn gynyddol amlwg i bawb sydd â llygaid i weld nad yw popeth mewn gwirionedd yn well yn Lloegr. Yn wir, pwy all wadu nad yw Johnson a’i lywodraeth yn gwneud cawlach llwyr o fynd i’r afael â’r pla? Hyd yn oed os yw record Llywodraeth Cymru’n amherffaith – roeddem ni’n rhy hwyr yn cloi, mae’r hanes ym myd addysg yn symol iawn, ac yn y blaen – mae Mark Drakeford a Vaughan Gething, serch hynny, yn ymddangos fel pe bai ganddynt lawer mwy o sylwedd yn perthyn iddynt na Johnson a Matt Hancock.

Dengys arolwg mis Mehefin fod mwy o bleidleiswyr Ceidwadol yng Nghymru, hyd yn oed, yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud joban dda o ddelio â’r argyfwng presennol (51%) nag sy’n credu’r gwrthwyneb (44%). Ymysg y boblogaeth drwyddi draw, mae mwyafrif llethol yn cefnogi’r rheolau llymach a weithredwyd yng Nghymru yn hytrach na rheolau gwannach Lloegr. Yn sydyn, felly, mae’r gymhariaeth feunyddiol â Lloegr yn gweithio yn erbyn y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae eu strategaeth etholiadol wedi ei thanseilio’n llwyr.

Ond dichon ei bod yn rhy hwyr iddynt newid eu cân rŵan. Hyd yn oed petai awydd newid cyfeiriad, nid yw Paul Davies yn meddu na’r gallu na’r awdurdod cyfansoddiadol mewnol i wneud hynny. Felly byddant yn dal ati, gan obeithio y bydd Boris Johnson yn ailddarganfod ei gyffyrddiad hud ac y bydd y gymhariaeth â Lloegr rywsut neu’i gilydd yn dechrau gweithio o’u plaid. Nid yw hyn oll yn amhosibl, wrth gwrs. Ond ar hyn o bryd mae’n ymddangos yn annhebygol. Y perygl i’r Ceidwadwyr yw eu bod, ar ôl palu twll ar eu cyfer eu hunain, am barhau i dyllu hyd yn oed yn ddyfnach.

Richard Wyn Jones
Gorffennaf 2020