Mae’r wasg Dorïaidd lasaf hyd yn oed yn gallu rhoi’r prif sylw i Gymru weithiau – ar un amod yn unig. Sef ei bod yn credu y bydd hynny o gymorth i gadw’r Ceidwadwyr mewn grym.
Anaml iawn, iawn y bydd papur newydd mwyaf dylanwadol y wladwriaeth hon yn troi ei olygon tuag at Gymru. Felly mae’r ffaith fod y Daily Mail wedi neilltuo tudalen flaen rhifyn diweddar i stori a oedd yn honni trafod cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn arwyddocaol (‘Patients trying to ‘escape’ Labour’s Welsh NHS’, 14 Awst 2023). Yn enwedig felly pan gofiwn am y cysylltiad uniongyrchol a chlos sy’n bodoli rhwng y Torïaid a’r hyn a eilw Tim Bale, y prif arbenigwr academaidd ar y blaid honno, ‘the party in the press’.
Rhag ofn fod unrhyw un yn parhau i’w dwyllo ei hun: mae gan bapurau newyddion, neu a bod yn fanwl gywir, eu perchnogion a’u gweision o olygyddion, eu hagendâu gwleidyddol eu hunain. Yn amlach na pheidio mae’r rhain yn gysylltiedig â hynt plaid ddominyddol Lloegr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, chwaraeodd y Telegraph, yr Express a’r pwysicaf o’r triawd, y Mail, rôl ganolog yn y frwydr fewnol honno sydd wedi gweld y Blaid Geidwadol yn ymdebygu fwyfwy i UKIP wrth i aelodau mwy cymedrol eu hanian gael eu gwthio o’r rhengoedd. Hynny naill ai yn sgil erledigaeth uniongyrchol (meddylier am Guto Bebb) neu oherwydd eu bod wedi anobeithio’n llwyr wrth weld eu plaid yn coleddu safbwyntiau mor eithafol.
Y wasg Geidwadol sydd felly’n gyfrifol i raddau helaeth iawn am gyflwr presennol y Torïaid. Dyma blaid a ddaeth yn gwbl gaeth i un o’r cyffuriau cryfaf a mwyaf dinistriol y gŵyr dynol-ryw amdani, sef nostalgia pur. Un o sgil-effeithiau ei dibyniaeth yw’r modd y mae’r blaid yn ddirmygus neu’n ddi-hid o bawb a phopeth nad yw’n rhannu ei hobsesiwn hefo’i fersiwn wyrdroëdig ei hun o’r ‘gogoniant a fu’. Dyma egluro’r dirmyg a ddangosir tuag ar yr ifanc a’u dyheadau ynghyd â’r ymosodiadau cyson ar wyddonwyr, haneswyr ac arbenigwyr o bob math.
Pa ryfedd felly fod llywodraeth Rishi Sunak fel petai’n analluog i feddwl yn ddifrifol am heriau polisi cyhoeddus? Gyda’r Blaid Geidwadol wedi’i hargyhoeddi ei hun, fel UKIP o’i blaen, fod yna atebion syml i bob problem (Disgyblaeth lymach mewn ysgolion! Dedfrydau carchar hirach i droseddwyr! Torri trethi! Get Brexit done!), nid oes ganddi’r modd deallusol i ddechrau mynd i’r afael â natur gymhleth ac anystywallt bywyd go iawn.
Mae’n anodd rhagweld sut y gall plaid mewn cyflwr o’r fath osgoi crasfa etholiadol yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Ond, gan anwybyddu ei rôl ei hun yn creu’r llanast presennol, ni fydd hynny’n atal ‘the party in the press’ rhag gwneud ei gorau i droi’r dŵr etholiadol i’w chyfeiriad ei hun. Sy’n ein harwain yn ôl yn dwt at y stori ar dudalen flaen y Daily Mail.
Darn o bropaganda noeth wedi ei blannu gan y Blaid Geidwadol oedd hwn, wrth gwrs. Hyn i gyd-fynd â’r ymdrech (seithug, yn y pen draw) i sicrhau wythnos o benawdau ffafriol yn canolbwyntio ar stiwardiaeth y Torïaid dros y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Wythnos a gychwynnodd hefo Gweinidog Iechyd Lloegr, Steve Barclay, yn anfon llythyr agored at lywodraethau Cymru a’r Alban yn cynnig cymorth Lloegr haelfrydig i leihau rhestrau aros, gyda ‘stori’ fawr y Mail yn dilyn yn dynn ar ei ôl.
Dyn a ŵyr, mae yna ddigon o broblemau hefo’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ac nid dim ond problemau sy’n codi o ddiffyg buddsoddiad a galw cynyddol yn sgil yr argyfwng iechyd meddwl, a’r ffaith fod y boblogaeth drwyddi draw yn heneiddio, yw’r rhain. Er enghraifft, mae’n hwyr glas fod problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn destun ymchwiliad annibynnol credadwy. Serch hynny, mae’r un mor amlwg fod ‘diddordeb’ Barclay a’i blaid yn y mater yn gwbl ffuantus. Wedi’r cwbl, dychmygwch y rhefru y byddem yn ei glywed (gan gynnwys yn y Mail ei hun) petai triniaeth y saith miliwn a hanner o bobl sydd ar restrau aros yn Lloegr yn cael ei gohirio er mwyn trin Cymry ac Albanwyr.
Gobaith y Torïaid yw y bydd neges i’r perwyl ‘wyddoch chi beth, byddai Llafur hyd yn oed yn waeth na ni’ rywfodd neu’i gilydd yn ysbrydoli (os yn wir mai dyna’r priod air) etholwyr i ganiatáu pum mlynedd arall o fandad iddynt. Afraid dweud ei bod yn annhebygol iawn y bydd hyn yn tycio.
Mewn system bleidleisio cyntaf-i’r-felin fel a ddefnyddir ar gyfer Tŷ’r Cyffredin – system sy’n tueddu i gywasgu dewisiadau i ddewis rhwng dau – nid oes yn rhaid bod yn boblogaidd i ennill. Yr unig beth sy’n cyfrif yn y pen draw yw bod eich plaid chi’n llai amhoblogaidd na’r giwed arall yna. Bydd, fe fydd amhoblogrwydd y llywodraeth bresennol yn ddigon ynddo’i hun i sicrhau buddugoliaeth ysgubol i’r wrthblaid.
Yr hyn sy’n rhagweladwy, fodd bynnag, yw y bydd ymdrech llywodraeth Llundain i ddefnyddio brychau (gwir neu dybiedig) llywodraeth Caerdydd fel ffon i gystwyo Syr Keir a’i griw yn gwenwyno’r berthynas rynglywodraethol hyd yn oed ymhellach gan brofi’n niweidiol hefyd i ragolygon y Ceidwadwyr eu hunain yng Nghymru. Mae’r pwynt olaf yma’n un y bydd llawer – Ceidwadwyr yn enwedig – yn amheus ohono, felly gadewch i ni ymhelaethu.
Mae tystiolaeth yr arolygon barn yn gyson ac yn gwbl eglur: pan ofynnir i etholwyr Cymru gymharu record llywodraethau Cymru a Phrydain, mae mwyafrif yn ffafrio’r gyntaf ar draul yr ail. Yr unig rai sy’n tueddu i anghytuno â’r dyfarniad yw’r bobl hynny sydd eisoes yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr (ac yn wir, yn ystod y pandemig roedd hyd yn oed y rheini’n simsanu). Felly, prin iawn fod unrhyw bleidleisiau newydd am ddod i’w rhan os mai lambastio llywodraeth Caerdydd fydd un o brif themâu ymgyrch y Torïaid.
Yr ymateb yn hytrach fydd uno’r bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru. Hyn oherwydd y modd y bydd ymosodiadau ar Lywodraeth Cymru a gwleidyddion Cymreig gan Geidwadwyr o wleidyddion a newyddiadurwyr yn cadarnhau’r hen gred honno a wreiddiodd mor ddwfn yn ein plith fod y Blaid Geidwadol yn blaid sydd yn ei hanfod yn un wrth-Gymreig.
Petai gan Andrew R.T. Davies a’i gynghorwyr y mymryn lleiaf o grebwyll strategol fe fyddent wedi sylweddoli fod penawdau fel yr un a welwyd ar dudalen flaen y Daily Mail yn broblem iddynt yn hytrach nag yn rhywbeth i’w ddathlu a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond wrth gwrs, dyna’n union a wnaethant.
Fel y Blaid Geidwadol yng ngweddill y wladwriaeth, mae’r Blaid Geidwadol Gymreig hithau’n bodloni ar ymatebion syml i bob problem. Yn wir, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn bodloni ar yr un ymateb syml i bob problem: mae angen i Gymru fod yn fwy tebyg i Loegr! Ymysg pethau eraill, fe fydd yr etholiad cyffredinol yn gyfle i etholwyr Cymru fynegi eu barn ar hynny.
Mae’n debyg o fod yn etholiad anodd iawn i’r Torïaid.