Gan gymryd eich bod yn byseddu copi papur o’r cylchgrawn wrth ddarllen hwn, cwta fis sydd yna bellach cyn cynnal y chweched etholiad ar gyfer ein deddfwrfa genedlaethol. Yr etholiad cyntaf ers i’r ddeddfwrfa honno ddechrau cael ei galw wrth ei henw cywir, sef Senedd Cymru.
Wrth reswm, fe fydd pob math o elfennau diddorol i ymgyrch yr wythnosau nesaf a’r canlyniad fydd yn deillio ohono. Dyma’r etholiad cyntaf ers i’r etholfraint gael ei hymestyn i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed. Hwn hefyd fydd yr etholiad cyntaf ers i bwerau trethu ystyrlon gael eu datganoli. Pa wahaniaeth – os o gwbl – a wnaiff y datblygiadau hyn i natur yr ymgyrch a phenderfyniadau pleidleisio’r etholwyr?
Bydd ffawd arweinwyr y gwahanol bleidiau’n ddiddorol odiaeth hefyd. Sut, er enghraifft, y bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dygymod â’r her o gyfuno ymgyrchu gyda’r busnes caled a llethol o flinedig o lywodraethu yng nghyfnod pla? A glywn fwy gan hen-arweinydd-newydd y Torïaid, Andrew R.T. Davies, na dwndwr yr hen ddyn blin, sef y cywair a fabwysiadwyd ganddo ers i’w ragflaenydd orfod ymddiswyddo mor ddisymwth? Wedyn dyna ichi Adam Price. Mae ei ddoniau’n hysbys. Go brin fod ’na unrhyw un o’i genhedlaeth yn cystadlu ag ef o ran ei allu fel siaradwr ac ymgyrchydd. Eto fyth, mae angen doniau eraill i arwain plaid wleidyddol: y gallu i ddyfarnu a chyfannu; parodrwydd i rannu cyfrifoldebau a dylanwad gydag eraill. Bydd gwell syniad o’r hanner gennym am hyd a lled Adam yr arweinydd erbyn canol mis Mai.
Ar ben hynny, mae yna etholaethau unigol sy’n mynnu sylw. Gwyddom eisoes fod yr ymgyrchu yn Llanelli, Bro Morgannwg ac yn arbennig y Rhondda yn debygol o fod yn ffyrnig dros ben. Mae etholaethau eraill, wedyn, lle y gall y ffaith fod tair plaid yn cystadlu â’i gilydd arwain at ganlyniadau annisgwyl. Aberconwy, er enghraifft, neu Wrecsam. Yn wir, mae’r frwydr yn yr hen Glwyd yn debygol o fod yn hynod arwyddocaol. Yma mae’r Ceidwadwyr yn benderfynol o ailadrodd llwyddiant 2019 gan lygadu etholaethau megis Dyffryn Clwyd, Delyn a De Clwyd yn awchus. Mae Llafurwyr, wrth gwrs, yr un mor benderfynol o gael troi’r llanw Glas yn ôl. Gyda’r ddwy blaid yn buddsoddi adnoddau sylweddol yn y frwydr, mae’n anodd dychmygu na fydd rhywun yn cael ei siomi.
Ac fel petai hyn oll ddim yn ddigon, mae cwestiynau sylfaenol ynglŷn â lefel diddordeb etholwyr mewn etholiad a gynhelir yng nghanol pandemig. Mae’r dystiolaeth o etholiadau ‘rhanbarthol’ diweddar mewn gwledydd eraill yn awgrymu’n gryf fod pobl yn gyndyn i fentro allan i fwrw eu pleidlais mewn amgylchiadau o’r fath. Roedd y ganran a fwriodd bleidlais yn etholiad rhanbarthol Catalwnia fis Chwefror eleni’r isaf erioed. A yw’n bosibl y byddwn yn difaru peidio â gohirio etholiad Cymru tan fis Medi, dyweder?
Digon i’w drafod, felly. A bwrw y bydd BBC Cymru yn ddigon caredig i estyn gwahoddiad, dyna’n union y bydd eich colofnydd yn ei wneud dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Hyn yn ogystal â pharatoi arolygon barn i gasglu data ar gyfer y gwahanol ysgrifau academaidd a fydd yn siŵr o ddilyn. Yn wir, fe fydd etholiad 2021 yn cadw’r tîm ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn brysur tan 2025. Neu dyna’r bwriad, o leiaf!
Ond er cymaint y diddordeb personol a phroffesiynol, mae’n rhaid i mi hyd yn oed gyfaddef na thâl hi ddim gorbwysleisio arwyddocâd yr etholiad.
Beth bynnag fydd y canlyniadau mewn brwydrau unigol, mae’n annhebygol iawn y bydd y canlyniad drwyddi draw yn amrywio rhyw lawer o batrwm sydd bellach yn hen gyfarwydd: Llafur fel y blaid fwyaf, gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cystadlu am yr ail safle, ac o fewn ychydig o seddau i’w gilydd y naill ffordd neu’r llall, siŵr o fod. Mae’r system bleidleisio rannol-gyfrannol a ddefnyddir ar gyfer yr etholiad fwy neu lai’n sicrhau na fydd newid mwy sylfaenol.
Ar ben hynny, tra pery’r argyfwng presennol, y gwir amdani yw na fydd y modd y llywodraethir Cymru’n amrywio rhyw lawer p’un ai Davies, Drakeford neu Price fydd yn dal yr awenau. Wrth gwrs fod gwahaniaethau ar yr ymylon ac nid wyf yn bychanu na diystyru’r rheini, ond o edrych ar y ffyrdd y mae gwledydd Ewrop wedi ceisio mynd i’r afael â’r pandemig, mae’r gwahaniaethau rhyngddynt lawer iawn yn llai amlwg na’r tir cyffredin. Yr un polisïau sy’n cael eu gweithredu yn wyneb yr un heriau. Mae opsiynau (derbyniol) eraill yn brin.
Yn hytrach, mae’n debygol y gwelwn wir arwyddocâd y canlyniad yn yr argyfwng sy’n rhwym o ddilyn unwaith y bydd yr un presennol wedi cilio. Dyma’r argyfwng sydd wedi cael ei ohirio gan Covid-19, ond sy’n parhau i gyniwair dan y wyneb. Sôn yr wyf, wrth gwrs, am y creisis cyfansoddiadol sy’n sicr o ganlyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus y buom i gyd yn byw yn ei grafangau ers mis Mawrth y llynedd.
Dichon fod argyfwng cyfansoddiadol yn anorfod unwaith i lywodraeth Theresa May ddewis diffinio Brexit mewn modd a oedd yn tanseilio buddiannau’r gwledydd datganoledig mor amlwg. Ond gyda dyrchafiad Boris Johnson fel olynydd iddi, a hynny yn sgil ymgyrch a oedd yn seiliedig ar ddatganiad amrwd a diamod o ‘sofraniaeth San Steffan’, fe sicrhawyd y bydd yr argyfwng sydd ar ddyfod yn ddim llai na brwydr am einioes y wladwriaeth Brydeinig a lle Cymru a’r Alban oddi mewn iddi.
Y gwir amdani yw nad oes modd cysoni rhethreg ‘take back control’ y Ceidwadwyr, nac yn wir y weithred a ddisgrifir gan y slogan, hefo bodolaeth seneddau a llywodraethau datganoledig. Ond mae hefyd yn amlwg na fydd mandad democrataidd yng Nghymru na’r Alban i leihau na ffrwyno eu grymoedd heb sôn am eu dileu. Yn y fan yna, yn y tensiwn rhwng dau safbwynt a dwy egwyddor nad oes modd pontio rhyngddynt, y mae craidd yr argyfwng-ar-ôl-yr-argyfwng. Gwir arwyddocâd etholiad 2021 yw y bydd yn penderfynu – neu’n hytrach, efallai, yn cadarnhau – pwy yn union fydd yn cynrychioli Cymru pan ddaw’r awr ar gyfer yr ornest honno.