Gair am Barn

Cylchgrawn materion cyfoes yn ystyr ehangaf y term yw Barn. Fe'i sefydlwyd yn 1962 ac fe'i cyhoeddwyd yn ddi-dor ers hynny. Ar hyn o bryd cyhoeddir wyth rhifyn misol bob blwyddyn a rhifynnau dwbwl deufisol yn Rhagfyr/Ionawr a Gorffennaf/Awst. Chwaraeodd y cylchgrawn ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Cymru dan arweiniad cyfres o olygyddion sy'n cynnwys Emlyn Evans, Alwyn D. Rees, Gwyn Erfyl, Simon Brooks a Dyfrig Jones. Fe'i golygir yn awr gan Menna Baines a Vaughan Hughes, gydag Ann Gruffydd Rhys yn is-olygu ac Andy Dark yn dylunio. Lleolir ein swyddfa weinyddol yn y Llwyfan, Caerfyrddin a darperir gwasanaethau gweinyddol i ni gan gwmni Sbectrwm. Mae Barn yn derbyn nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Rhif cofrestredig Cyhoeddiadau Barn Cyf yw 03323467.