“ Seren y Dwyrain” – papur bro Cairo a’r Dwyrain Canol

Ym Medi 1943 nid oedd diwedd y gyflafan eto ar y gorwel. Ond roedd y rhod yn troi. Roedd rhannau helaeth o’r Dwyrain Canol yn nwylo’r Cynghreiriaid, ac roedd rhai miloedd o Gymry yn gwasanaethu Lluoedd Arfog Prydain yn yr ardal eang honno ar y pryd. Fel sy’n digwydd mor aml ymhlith alltudion, chwiliai’r Cymry tramor am gydwladwyr hoff cytûn, a thyfodd nifer o gymdeithasau Cymraeg ym mhrif drefi’r ardal. Yn sgil hynny daeth awyrennwr ifanc o Landybïe yn argyhoeddedig bod angen rhyw fath o ddolen gyswllt rhyngddyn nhw i gyd.

Swyddog Hedfan gyda’r Llu Awyr Brenhinol yng Nghairo oedd T. Elwyn Griffiths pan feddyliodd gyntaf am greu papur newydd i’w ddosbarthu ymhlith Cymry’r Dwyrain Canol, er mwyn meithrin cysylltiadau, darparu deunydd darllen difyr yn eu mamiaith, a chadw fflam eu Cymreictod ynghyn. Er bod rhai’n amau ei ddoethineb, perswadiodd y F/O Griffiths ddigon o bobl fod ei gynllun yn un gwerth buddsoddi ynddo. Yn y dull Cymreig cydnabyddedig ffurfiwyd pwyllgor bach i wthio’r cwch i’r dwr. Ystyriwyd sawl enw digon gwerinol ar gyfer y cyhoeddiad newydd, fel Y Gadwyn a’r Bont. Ond awgrym athrylithgar Glyn Davies o Genarth, Seren y Dwyrain, aeth â hi – enw a adlewyrchai’r awydd i ‘oleuo oriau unig ac undonog llawer alltud o Gymro yng ngwlad yr Eifftiwr a’r Iddew’.

Daethpwyd o hyd i argraffwr lleol, dyn o Libanus o’r enw Anis Fadil, a oedd yn barod i ymgymryd â chysodi mewn iaith hollol ddieithr iddo. Fel y gellid dychmygu, nid proses gwbl ddidramgwydd fu honno. Un o’r anawsterau pennaf oedd y defnydd anghyffredin o drwm a wneir yn y Gymraeg o’r llythyren ‘y’. Doedd gan yr argraffdy ddim digon o wahanol ddarnau metal ‘y’ i ateb y galw. Rhaid, felly, cysodi’r papur fesul un dudalen ar y tro. 400 copi o’r rhifyn cyntaf a ddaeth o’r wasg ar 16 Medi 1943, ond wrth i boblogrwydd y papur dyfu, cynyddodd y cylchrediad i fwy na 1,500 o gopïau, gyda’r dosbarthiad yn ymestyn o Freetown yn Sierra Leone i Baghdad, ac i Rufain, hyd yn oed.

Wedi penderfynu na chodid tâl am y papur, bu’n rhaid dibynnu i raddau helaeth ar haelioni’r cymdeithasau Cymraeg i gynnal y Seren. Aethpwyd ati hefyd i ddenu hysbysebwyr masnachol, a llwyddwyd i gael rhai mor amrywiol â’r ‘English draper’ F.V. Purslow – teiliwr o Goedpoeth a chanddo siop ddillad yng Nghairo; a thafarn o’r enw ‘Busty’s Bar’ a froliai ei bod yn ‘gartre’r fyddin’. Yn nes ymlaen, deuai rhoddion ariannol o Gymru hefyd, yn amrywio o £50 gan Gymdeithas Les Sir Forgannwg i swllt a chwe cheiniog gan Miss Nano Thomas o Gwm-gors.

Ni chafwyd dim cymorth swyddogol gan awdurdodau’r Lluoedd Arfog. Ond wnaethon nhw ychwaith ddim gosod unrhyw rwystrau yn llwybr y papur. Gwneid cryn dipyn o waith y Seren yn swyddfa Elwyn Griffiths ym mhencadlys y Llu Awyr yn Heliopolis, gan roi i’r papur ei gyfeiriad post cofiadwy o gwta: ‘HQ, RAF, ME’. Ac roedd pennaeth Elwyn Griffiths, yr Arweinydd Sgwadron Paul Ainsworth, yn ddigon cymwynasgar i ddewis anwybyddu bod y Cymro’n hwyr i’w waith yn eithaf aml oherwydd ei ddyletswyddau newyddiadurol answyddogol! Yn fwyaf diddorol, efallai, nid yw Elwyn Griffiths yn cofio dim ymyrraeth o gwbl gan y sensor wrth iddo ef a’i gydweithwyr ddosbarthu mwy a mwy o gopïau o bapur newydd na fedrai eu huwch-swyddogion ddeall yr un gair ohono.

Newyddion gan ysgrifenyddion y cymdeithasau Cymraeg oedd rhan fawr o’r papur, gan gynnwys rhai gan y Capten Dillwyn Miles – o Drefdraeth yn wreiddiol, erbyn hynny yn Jerwsalem – y Brenhinwr brwd a fu’n Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd am dri degawd. Roedd adroddiadau’r cymdeithasau’n gyforiog o’r ‘Pethe’ traddodiadol Cymreig: cyrddau diwylliannol, cymanfaoedd canu ac oedfaon cyd-enwadol. A chofier nad anghofiwyd am un arall o ddifyrion traddodiadol y Cymry. Yn rhifyn Ebrill 1945 dan y bennawd bras ‘Y CONCWERWYR’ ymffrostiwyd y byddai ‘sôn am amser hir i ddod am y sgwrfa a roes Cymry’r Aifft i’r Saeson ar y maes rygbi yng Nghairo brynhawn Dydd Gwyl Ddewi’.

Er bod golygyddion y Seren yn anelu’n fwriadol at beidio â bod yn aruchel nac ysgolheigaidd, fe gyhoeddwyd ynddo ambell berl o werth llenyddol arhosol. Cafodd campwaith cynnil, ‘Y llais o lan yr afon’, ei anfon at y papur dan y ffugenw Dai’r Batman a’i gyhoeddi yn Chwefror 1944. Cronicl oedd hwnnw o hanes milwr Cymraeg a drengodd ym mrwydr erchyll El Alamein – dyn o’r enw Wil Humphreys, er mai ffugenw arall oedd hwnnw, fel yr esboniodd yr awdur: ‘Wil oedd ei enw ond nid Wil Humphreys. Maen nhw’n dweud wrtho i nad oes hawl ysgrifennu dim heb newid yr enwau’. Nid yw’n hysbys hyd heddiw pwy’n union oedd Dai na Wil. Dyna ddarn bach o waith ditectif hanesyddol i rywun rywbryd.

Rhoddai’r papur lwyfan i’r Cymry alltud fynegi eu barn ar y bröydd estron y trigent ynddynt a hefyd ar eu mamwlad. Ym Mai 1944 cyhoeddwyd rhai o’r ymatebion i’r gwahoddiad a roddodd y golygydd i’r darllenwyr draethu ar y pwnc ‘Pan ddychwel heddwch’. Datguddiai’r rhain yn glir y tyndra sy’n dal i fod rhwng elfennau ceidwadol a blaengar y Gymru Gymraeg. Bachodd cyfrannwr o’r ffugenw Eithinfab ar y cyfle i ladd ar ‘ferched ieuainc Caerdydd a Chaergybi’ am ‘ymgomio yn yr iaith fain’. A mynegodd y Signalwr Jones ei ddyhead sosialaidd anrhydeddus am ‘weld y wlad yn ymroi o ddifrif i wella safon bywyd ei thrigolion’.

I Elwyn Griffiths – sydd erbyn hyn yn ei nawdegau ac yn byw yng Nghaeathro – er mor bwysig oedd y papur, llawer pwysicach oedd yr hyn a ddeilliodd ohono. Yn 1947 esgorodd ysbryd y Seren ar fudiad newydd, Undeb y Cymry ar Wasgar (Undeb Cymru a’r Byd, yn ddiweddarach) a’i gylchgrawn Yr Enfys, sy’n dal i uno’r alltudion, a’u haduno unwaith y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond nid oes gwadu arwyddocâd anferthol y Seren ei hunan. Mae’r papur yn drysorfa ddihafal ac amhrisiadwy i unrhyw un sydd am ddeall hanes Cymru a’r Gymraeg yn yr 20fed ganrif. Yn anad dim, dangosodd Seren y Dwyrain fod modd gweld y byd drwy’r Gymraeg a mynd â’r Gymraeg i’r byd.

Yn ôl a glywais i, mae Michael Gove, Gweinidog Addysg Lloegr, yn awyddus iawn i blant Lloegr ddeall hanes Prydain a’i diwylliant yn eu crynswth. Efallai y dylid anfon ato rwymiad arbennig o holl rifynnau’r Seren, er mwyn dangos iddo nad oes yr un man yn rhy ddwyreiniol i’r Gymraeg, a’i annog i sicrhau nad yw’r genhedlaeth nesaf o’n cymdogion agosaf mor llwyr anwybodus yn ei chylch.

___________________________________________

Gellir darllen rhagor yn llyfr T. Elwyn Griffiths Seren y Dwyrain: Hanes dechreuad y cylchgrawn a’r bywyd Cymreig yn y Dwyrain Canol (Gwasg y Bala, 1955).

Mae’r papur ei hun ar gael i’w ddarllen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd Prifysgolion Bangor a Chaerdydd.

 

Andrew Misell
Medi 2013