Ydi Brexit yn bygwth datganoli? Mae’r ateb, fe dybiaf, yn dibynnu are eich dehongliad o arwyddocâd y bleidlais o blaid ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Yn sicr nid oes unrhyw gysylltiad o angenrheidrwydd rhwng drwgdybiaeth o’r UE a chefnogaeth i ddatganoli. Onid oedd Plaid Cymru yn ôl yn y 1970au – gyda Saunders Lewis a Dafydd Wigley yn eithriadau – yn gryf yn erbyn aelodaeth o’r hyn a elwid bryd hynny’n Farchnad Gyffredin?
Ers 23 Mehefin 2016 mae ’na lawer ar y chwith Brydeinig wedi ceisio dadlau mai dosbarth cymdeithasol sy’n egluro canlyniad y refferendwm. Dyma, meddan nhw, brotest y left behinds bondigrybwyll yn erbyn sgileffeithiau globaleiddio. O dderbyn hyn, nid oes unrhyw reswm i gredu fod Brexit felly yn unrhyw fath o fygythiad einioes i fodolaeth Senedd a Llywodraeth Cymru.
Hyd at yn gymharol ddiweddar roedd rhai o’r Brexitwyr eu hunain yn honni y byddai ymadael â’r UE yn arwain at drosglwyddo grymoedd o Frwsel i Gaerdydd. Sgersli bilîf...