Tipyn o dân siafins oedd y ‘Diwrnod Rhyddid’ bondigrybwyll i Boris Johnson, ac yntau’n gorfod hunanynysu. ‘Rhwydau weithiodd ef ei hun’, wedi’r cwbl (chwedl y Pêr Ganiedydd). Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd gwisgo mwgwd yn parhau’n hanfodol mewn rhai amgylchiadau yr ochr hon i Glawdd Offa, ond fydd fawr o reolau eraill ar ôl y 7fed o’r mis hwn.
Wrth weld nifer yr achosion o Covid yn codi’n sylweddol ar hyn o bryd, ymddengys yn eithaf rhesymol ein bod yn parhau gyda rhai mesurau i geisio rhwystro lledaeniad y firws ymhellach. Ond onid ydi hi’n rhesymol inni gofio bod y mwyafrif helaeth o’r rhai sy’n debygol o ddioddef salwch difrifol yn sgil Covid, neu farw ohono, bellach wedi derbyn dau frechlyn sy’n eu hamddiffyn yn gryf iawn, ac mai yn yr haf y mae hi gallaf inni godi cyfyngiadau? Faint o dystiolaeth sy’n bodoli mewn gwirionedd fod gwisgo gorchudd wyneb yn gwneud gwahaniaeth mawr erbyn hyn i’r straen ar y gwasanaeth iechyd sy’n deillio o Covid?