Chwefror 2010

…a dyma ragflas bach. Darllenwch sylwadau Prys Morgan am gyfnod ei frawd Rhodri y Brif Weinidog ac ysgrif Ioan Roberts am ddeffro Cymreig annisgwyl yn y gogledd-ddwyrain. Beca Brown sy’n gofyn beth yw ‘Cymry Go Iawn’ a chawn golofn deledu newydd gan Sioned Williams. Gofid yw gorfod coffáu rhai a gyfrannodd gymaint i’n diwylliant, gan gynnwys Hywel Teifi Edwards, Dafydd Whittall ac Angharad Jones. Am fersiwn lawn o’r deyrnged i Angharad sydd yn y cylchgrawn, ewch i’r ddewislen uchod, dewis ‘O’r Cylchgrawn Cyfredol’, a chlicio ‘Erthyglau’.

Colli Llenor a Symbylydd

Angharad Jones  (1962–2010)

Dyma deyrnged BETHAN EAMES i lenor a sgriptwraig a fu farw’n annhymig yn gynnar yn y flwyddyn newydd. 

Bethan Eames
Mwy

Degawd fy Mrawd wrth y Llyw

Prys Morgan

Peth peryglus yw dechrau ‘siarad am eich tylwyth’. Ystyr yr ymadrodd i ni ym Morgannwg yw gradd o feddwdod lle mae dyn yn gorymffrostio yn ei ddiod, ac ar fin troi’n flagardus a dangos ei ddyrnau. Ond yma siarad am dylwyth sydd yn rhaid, er ei bod yn rhaid cyfaddef ein bod ni fel teulu yn teimlo ers deng mlynedd nad oedd Rhodri yn perthyn i ni eithr yn rhyw fath o eiddo i’r genedl. Rwyf yn cofio am brynhawn Sul yn yr haf lle roeddem yn ceisio mwynhau tawelwch yn ei ardd ar ôl cinio, a dyma griw teledu yn cyrraedd ac yn erfyn arno i roi barn ar ryw bwnc llosg a oedd wedi codi y bore hwnnw. Ac yna, wedi i’r cyfweliad hir dynnu at ei derfyn, roedd rhaid i Rhodri newid a mynd draw i Eglwys Llandaf at ryw gwrdd coffa. Bûm yn aros gydag ef dros y Nadolig, a’r tro hwn, paradwys oedd cael amser tawel gyda’n gilydd, heb deleffon na chriw teledu, ac ymlacio trwy gerdded trwy’r wlad yn yr eira. Cyfaddefodd Rhodri mai dyma’r tro cyntaf iddo fwynhau noswaith fwyn o gwsg di-dor ers deng mlynedd.

 

Prys Morgan
Mwy

Cofio Hywel Teifi Edwards: Ysgolhaig y Bobl

Meirion Evans

Drannoeth clywed inni golli Hywel holodd un o gyfeillion y wasg a allwn gynnig un frawddeg fer neu ychydig eiriau a fyddai’n cyfleu orau beth oedd y bersonoliaeth fawr hon yn ei olygu i mi fel un o’i gyfeillion, ac i’r gynulleidfa ehangach yng Nghymru. Tasg amhosibl wrth gwrs. I ddechrau, nid yw ‘byr’ ac ‘ychydig’ ymhlith yr ansoddeiriau a ddaw gyntaf i’r cof wrth feddwl am Hywel Teifi Edwards. Ond heb feddwl ymhellach dyma gynnig ateb, ‘Ysgolhaig y Bobl’.

 

Meirion Evans
Mwy

Ferrari a Golf GTI

Dot Davies

Dair blynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi, mi fydd Michael Schumacher yn dychwelyd fel rhan o dîm Mercedes Grand Prix, ac yntau’n 41 erbyn i’r tymor gychwyn. Mae’r ffaith fod y newyddion yma wedi creu cymaint o gyffro yn dweud cyfrolau am gyflwr presennol Fformiwla Un a’r angen am ychydig o gyffro. Ynghanol yr holl ddathlu mae pawb wedi anghofio’r cyfnod pan oedd Schumacher yn ennill y bencampwriaeth bob blwyddyn. Ras. Ennill. Ras. Ennill. Pencampwriaeth arall. Saith i gyd. Diflas, diflas, diflas. Yn enwedig yn 2002 a 2004, pan enillodd Schumacher a Rubens Barrichello 30 o’r 35 ras dros dîm Ferrari. Mi fyddai wedi bod dipyn haws, ac yn well i’r amgylchedd, rhoi’r tlysau i Schumacher ar ddechrau’r tymor a pheidio trafferthu rasio. Ond dyna ni, dair blynedd yn ddiweddarach, ac yn bwysicach, un dirwasgiad bydeang yn ddiweddarach, yn sydyn reit Schumacher yw’r arwr. Oni bai amdano fe mi fyddai tymor 2010 yn un arall i’w anghofio. Toyota, BMW a Honda wedi mynd, diolch i’r economi a’r ffaith fod Fformiwla Un wedi gwrthod cwtogi ar y costau, ac mai mewn enw yn unig y bydd Renault yno. Mae ’na dîmau newydd yn cymryd eu lle ond go brin y byddan nhw’n dod yn agos at gystadlu gyda Ferrari, McLaren a Mercedes.

 

Dot Davies
Mwy

Cwrs y Byd - Eira

Vaughan Hughes

Pan fyddwn wedi cynhyrfu ac wedi mynd i banig llwyr, y peth cyntaf rydan ni’n ei golli ydi’r gallu i ymbwyllo a meddwl yn glir. A does dim byd tebyg i’r eira a ddisgynnodd yn ddiweddar i wneud inni ymddwyn yn afresymol. Fe wyddom i gyd fod ein cynghorau’n gorfod torri miliynau o bunnau oddi ar wasanaethau hanfodol. Ac eto roedden nhw’n cael eu beirniadu’n arw gennym am beidio darparu’n amgenach ar gyfer eira a rhew dechrau’r flwyddyn ’ma.

Vaughan Hughes
Mwy

Blwyddyn Dyngedfennol i Blaid Cymru

Richard Wyn Jones

Trwy hawlio mai hwn fydd yr Etholiad Cyffredinol mwyaf llwyddiannus o ddigon yn ei hanes, mae’r Blaid wedi ei rhoi ei hun mewn sefyllfa lle byddai ennill pum sedd yn ddim mwy na boddhaol. A beth am y refferendwm...? 

 

Richard Wyn Jones
Mwy