Cyfnod llwm o’r flwyddyn? Na ofidiwch – mae digon yn digwydd yn Barn i’ch cadw’n ddiddig drwy’r mis bach. Mae Richard Wyn Jones yn gondemniol o adolygiad mewnol Plaid Cymru, Alun Lenny’n pryderu am ddyfodol y mentrau iaith yn sgil toriadau, Andrew Misell yn llawenhau fod dyfodol cwrs rasio ceffylau Ffos Las yn ddiogel, a Dafydd Glyn Jones yn dychmygu beth fyddai barn Emrys ap Iwan am Gymru 2012 petai’n dod yn ôl heddiw. Tro Catrin Finch yw hi i gael ei holi yng Nghyfweliad Barn, mae John Emyr yn dweud pam y mae Oriel Bortreadau Genedlaethol yr Alban ar ei newydd wedd yn esiampl i Gymru, ac mewn cyfres newydd o’r enw ‘Fy Hoff Lun’ mae Luned Rowlands yn dweud sut y daeth Wil Cwac Cwac i fyw ar wal ei chegin. Arferion darllen plant sydd dan sylw gan Beca Brown, tra mae Bedwyr ab Iestyn yn dweud pam mae’n rhaid cael e-lyfrau Cymraeg. Mae priodas ar y gorwel i Chris Cope ac mae John Pierce Jones yn cofio’i gyfarfyddiad ‘bythgofiadwy’ gyda Brenhines ein Llên.
Dafydd ab Iago
Ers imi gychwyn ysgrifennu’r golofn hon yn 2008 rydw i wedi osgoi trafod materion personol. Ond maddeuwch i mi’r mis hwn am wyntyllu rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon, sef cyfenw ein hail blentyn sydd i fod i gyrraedd ym mis Mehefin.