Mae wedi bod yn dywydd swatio yn y ty yn ddiweddar a pha ffordd well i wneud hynny nag yng nghwmni awduron difyr Barn? Yn ychwanegol at yr erthyglau a welir yma, mae Bethan Kilfoil yn ysgrifennu am y terfysgoedd diweddar ar strydoedd Belffast, Andrew Misell yn trafod dyfodol rhai o’r caeau rasio ceffylau yn sgil tranc un Henffordd a Bethan Jones Parry yn adrodd hanes yr unig bapur Sul Cymraeg i gael ei gyhoeddi erioed. Cewch hefyd ddarllen darnau dadlennol o gofiant newydd i R. Williams Parry gan Alan Llwyd a hynny ar ffurf llythyrau sy’n dangos y tensiynau mawr fu rhwng y bardd a’i gyflogwr sef coleg Bangor Myfyrdodau wrth glirio’i seler sydd gan ein colofnydd gwin, Shôn Williams, ac mae maes rygbi Murrayfield yn atgoffa ein colofnydd chwaraeon, Derec Llwyd Morgan, o ddigwyddiad brawychus yn ystod ei blentyndod. Rhesymau da i fachu eich copi o’r rhifyn diweddaraf – ac mae rhagor yn eich aros rhwng y cloriau!
Elinor Bennett
Mater o dristwch mawr oedd clywed fod Cyngor Casnewydd am dorri canran uchel o’r arian a glustnodwyd ar gyfer gwersi cerdd offerynnol yn yr ysgolion. Mae angen athrawon a cherddorion i ddysgu offerynnau ac mae hyn yn costio arian. Ai dim ond plant i rieni cefnog fydd yn gallu canu telyn, ffidil neu ffliwt yn y dyfodol? Dyna fyddai canlyniad anorfod penderfyniad fel yr un a wnaed gan gynghorwyr Casnewydd.