Ydi, mae rhifyn Chwefror wedi cyrraedd ac yn llawn o'r amrywiaeth flasus arferol. Ym myd y cyfryngau, mae Dyfrig Jones a Gwilym Morus yn rhoi dwy ochr i stori brwydr chwerw Eos yn erbyn y BBC, Sioned Wiliam yn croesawu doniolwch ar S4C (gan gynnwys ebychiadau'r ddihafal Ffion Carlton-Lewis), Elin Llwyd Morgan yn dweud fod Y Gwyll yn well yn Saesneg, a Beca Brown yn amddiffyn rhaglen ddadleuol Channel Four, Benefits Street; heb anghofio atgofion am Wyn Roberts y darlledwr gan Euryn Ogwen Williams yn ein coffâd i'r Arglwydd Roberts o Gonwy. Y tywydd mawr yw pwnc Mike Parker, neu'n hytrach ein hymateb diweledigaeth i'w effeithiau, tra mae Dafydd Fôn Williams yn edrych ar safle isel Cymru yn nhablau PISA. Trafod bygythiad o du Ewrop i gig Cymru y mae Dafydd ab Iago, ac mae Will Patterson, yn ei golofn gyntaf 'O'r Alban' ym mlwyddyn y refferendwm ar annibyniaeth, yn gweld pethau'n dechrau poethi yno. Am hyn oll a mwy, mynnwch gopi.
Richard Wyn Jones
Anodd tynnu cast o hen geffyl, meddai’r ddihareb.
Hyd yn oed wrth sgwennu i Barn, parhau i osod cwestiynau arholiad mae’r Athro’n ei wneud. Ac fe gaiff cabinet newydd Leanne Wood ei sylw hefyd. Nhw, wedi’r cyfan, fydd yn gorfod dod o hyd i atebion tyngedfennol yn 2016.