Eleni, dathlwn drichanmlwyddiant geni’r emynydd mawr, William Williams, Pantycelyn. Ond pa faint o ddathlu a fydd mewn gwirionedd? Cymaint â’r flwyddyn o ddigwyddiadau di-ben-draw a fu’n gyfle gwych i ddathlu camp Dylan Thomas? Go brin fod gwaith yr un bardd wedi cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl yng Nghymru, Prydain ac yn fyd-eang â Phantycelyn.
Mae’n siŵr y cynhelir ambell gymanfa ganu o bwys mewn ambell gapel, ac efallai yn yr Eisteddfod, ond siawns nad yw eleni’n gyfle inni ddeall pwysigrwydd Pantycelyn o’r newydd, a gweld ynddo hefyd ffynhonnell o wersi addysgol difyr, heb sôn am hwb i dreftadaeth gymunedol a thwristiaeth ryngwladol.
Chwefror 2017 / Rhifyn 649

Wedi Dylan a Dahl, beth am Bantycelyn?

Gareth Olubumni Hughes – Cerddor y ddau fyd
Mae’n bosib y bydd enw Gareth Olubumni Hughes, ar raglen Gŵyl Gerdd Bangor 2017, yn canu cloch i nifer o Eisteddfodwyr. Dyma’r cyfansoddwr a enillodd Dlws y Cerddor ym Mhrifwyl Sir Fynwy 2016 ac yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012. Roedd y beirniaid yn y ddwy gystadleuaeth yn hael eu canmoliaeth i’w waith...
Mewn sgwrs â’r cerddor 37 oed o Gaerdydd, daw’n amlwg ei fod yn falch iawn o’r cyflawniadau hyn. Ond, er gwaethaf canmoliaeth y beirniaid i gyfoesedd ei waith, mae’n dweud bod y deunydd a gyfansoddodd ar gyfer cystadlaethau Tlws y Cerddor yn eithaf traddodiadol mewn cymhariaeth â’r rhan fwyaf o’r gwaith arall sydd wedi dod o’i law...

Ysgol newydd y Bala – Ysgol yr Esgob?
Parhau y mae’r dadleuon am statws yr Ysgol Gydol Oes newydd yn y Bala. Bellach, mae sicrwydd y bydd ysgol yma; mae hi wrthi’n cael ei hadeiladu. Bydd Ysgol y Berwyn (uwchradd) ac ysgolion Bro Tegid a Beuno Sant yn cau er mwyn ffurfio’r sefydliad newydd.
Yn dilyn tri ymgynghoriad yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi cau ysgol gynradd Parc, daeth Cyngor Gwynedd i’r penderfyniad y byddai’r ysgol newydd yn y Bala yn Ysgol Eglwys Wirfoddol Reoledig...
Pam fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu mai dyma’r ffurf orau i’r ysgol newydd er gwaethaf gwrthwynebiad amlwg?

Cwlt prysurdeb
Ar ôl ‘Da iawn, diolch’ – sydd yn aml ddim yn wir – mae’n siŵr mai ‘Digon prysur’ neu ‘Digon i ’neud’ ydi’r ymatebion mwyaf cyffredin i’r cyfarchiad ‘Sud wyt ti?’
Rydan ni’n gwisgo’n prysurdeb fel pluen yn ein capiau cydwybodol, fel petai bod yn brysur yn dystiolaeth ynddo’i hun o fywyd yn cael ei fyw, cyfraniad yn cael ei wneud a llwyddiant yn magu llwyddiant. Os nad ydan ni’n brysur yna mae rhywbeth yn bod, ac mae’n rhaid llenwi pob eiliad o amserlen sydd eisioes yn gwegian, er mwyn profi’n gwerth i’r byd.

Cydsyniad y Collwyr
Wrth sefydlu cyfundrefnau democrataidd yn nwyrain Ewrop yn sgil chwalu’r Ymerodraeth Sofietaidd, bu bri mawr ar rôl cymdeithas sifil hyfyw yn darparu’r tir, fel petai, ar gyfer gwreiddiau’r sefydliadau gwleidyddol newydd...
Ond i’n dibenion presennol, tybiaf fod ein profiadau diweddar yn y Deyrnas Gyfunol yn tanlinellu nad mewn sefydliadau neu brosesau penodol y gorwedd hanfod democratiaeth. Yn hytrach, yr allwedd i lwyddiant unrhyw drefn sy’n haeddu’r enw ‘democrataidd’ yw bodolaeth cydsyniad y collwyr.
‘Cydsyniad y collwyr’ yw’r enw a roddir gan ysgolheigion ar barodrwydd y rheini sy’n colli unrhyw bleidlais i dderbyn dilysrwydd canlyniad y bleidlais honno. Heb hyn mae parhad democratiaeth fel democratiaeth yn gwbl amhosibl...

Drama brotest yr alltudion o Dwrci
Ar bnawn Sadwrn glawog ym mis Ionawr mi gefais fy hun yn crwydro drwy strydoedd Caerdydd gyda thri artist o Dwrci yn chwilio am gaffi da. Mae Memet Ali Alabora, Meltem Arikan a Pinar Öğün yn adnabod caffis annibynnol gorau’r ddinas ac maent yn benderfynol o ddod o hyd i’r un gyda’r awyrgylch perffaith i mi gael eu cyfweld am eu drama newydd. Mae’r triawd o artistiaid yn bobol glên, ddifyr a sgwrslyd. Maen nhw hefyd yn bobol aruthrol o beryglus. (Neu dyna farn Recep Erdogan, Arlywydd Twrci.)
Yn 2013 roedd y tri yng nghanol berw protestiadau Gezi Park a ddaeth yn ganolbwynt gwrthdystiad cenedlaethol o blaid rhyddfrydiaeth a rhyddid yr unigolyn...

Coelcerth yn aros matsien
Ffrae ynglŷn â’r cynllun RHI, sef Renewable Heating Initiative, a arweiniodd at yr argyfwng diweddaraf yn y Gogledd.
Grant oedd hwn i helpu busnesau a chyrff cyhoeddus i dalu am dechnoleg ynni gwyrdd. Ond fe ddatgelwyd yr haf diwethaf fod gorwario enbyd wedi bod ar y cynllun. Doedd neb wedi gosod cap ar y grant, felly po fwyaf o’r pelenni y gallech eu llosgi, po fwyaf y swm y gallech ei hawlio.
Dyma gynllun proffidiol dros ben i’r defnyddwyr. Aeth hanesion ar led fod rhai cwmnïau a ffermwyr yn gwresogi siediau mawr gweigion, gyda’r drysau ar agor, er mwyn llosgi cymaint ag y gallent.

CIP AR Y RHIFYN CYFREDOL
Yn ogystal â’r erthyglau a welir yma, mae ALUN FFRED JONES yn beirniadu Cyngor Gwynedd am fethu cydgordio polisi cynllunio a threfniadaeth ysgolion ym Mangor, GWYN WILLIAMS yn gofyn beth fydd tynged amaeth yng Nghymru ôl-Brexit, a BETH THOMAS yn trafod y cynlluniau i ddatblygu Sain Ffagan. MEIC POVEY sy’n coffáu’r cynhyrchydd ffilm a theledu Richard Lewis, a GWYN LLEWELYN yn cynnig gwerthfawrogiad ac amddiffyniad o’r diweddar A.A. Gill. Mae DERI TOMOS yn disgrifio’r wefr o weld gogoniant Andromeda am y tro cyntaf â’i lygad ei hun, ELIN LLWYD MORGAN yn sôn am gyrraedd carreg filltir, a llawer mwy.