Chwefror 2019 / Rhifyn 673

Gwin ac ati

Adduned Byd Newydd

Beiwch Oz Clarke am danio fflam fy nghariad at y rawnwinen. Yn fy nyddiau gwin cynnar cefais fy arwain gan ei frwdfrydedd huawdl a’i ddiffyg parch chwareus at fuchod sanctaidd yr hen fyd ar fy mhen i’r Byd Newydd. Roedd rhesymau da am hynny – roedd y gwinoedd gymaint yn haws i’w deall, o’u labeli clir yn dweud beth yn union oedd y rawnwinen a’r blasau ffrwythog amlwg y gallech eu dwyn i’ch cof a rhoi enw pendant arnynt. Pinot Noir o Galiffornia, Malbec o’r Ariannin, Riesling o Awstralia, Chardonnay o Seland Newydd – roedd y rhain i gyd yn agoriad llygad gogoneddus i laslanc a oedd yn awyddus i ddeall, ond mwynhau yr un pryd.

Graddol bylu wnaeth fy mrwdfrydedd wrth i’r gwinoedd fynd yn rhy uchel eu halcohol a rhy amlwg eu ffrwyth, a diffyg cydbwysedd rhwng yr elfennau. Ond daeth tro ar fyd eto.

Shôn Williams
Mwy
Prif Erthygl

Mark Drakeford yn Brif Weinidog – llygedyn o obaith i Blaid Cymru?

Go brin y bydd unrhyw un ohonoch yn croesawu’r newyddion ond, coeliwch neu beidio, mae ’na sibrydion lu yn y byd gwleidyddol y bydd etholiad cyffredinol Prydeinig cyn bo hir iawn. Ar y naill law, mae’r peth yn gwbl ddisynnwyr. Nid yw’r arolygon barn yn awgrymu y byddai etholiad yn esgor ar unrhyw newid arwyddocaol yn y cydbwysedd rhwng y pleidiau yn San Steffan. Ar y llaw arall, er gwaetha’r ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn 2011 er mwyn ei gwneud hi’n anos cynnal etholiadau mympwyol, go brin y bydd Aelodau Seneddol yn gwrthod y cyfle i alw etholiad arall os caiff un ei gynnig iddynt. Nid oes yr un gwleidydd am gael ei weld yn cilio rhag ‘dyfarniad yr etholwyr’. Ar ben hynny, go brin y gall unrhyw un wadu nad yw gwleidyddiaeth Prydain bellach yn gwbl rwym. (Maddeuwch y ddelwedd.)

Richard Wyn Jones
Mwy
Celf

Llythyrau Jonah at Mona

Mae enghreifftiau o waith yr amryddawn Jonah Jones, y mae’n ganmlwyddiant ei eni eleni, i’w gweld ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Ei gerfluniau a’i gofebau cyhoeddus yw ei waith mwyaf cyfarwydd, ond fe’i cofir hefyd am ei waith llythrennu trawiadol a’i ffenestri lliw, ac roedd yn peintio’n ogystal.

Mae tua phedwar ugain o’i weithiau celf, neu ffotograffau ohonynt, i’w gweld mewn arddangosfa ganmlwyddiant yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Mae’r gweithiau’n rhychwantu hanner canrif o oes artist cynhyrchiol a gredai’n angerddol mewn celfyddyd gyhoeddus. Ac mae llyfr newydd yn taflu goleuni ar y modd y penderfynodd Jonah ddod yn artist yn y lle cyntaf, sef cyfrol o lythyrau a ysgrifennodd, fel gŵr ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd, at wraig o’r enw Mona Lovell. Yn annisgwyl y daeth y llythyrau dadlennol hyn, a gyhoeddir yn Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (Seren Books), i sylw mab Jonah, y newyddiadurwr Pedr Jones, sef golygydd y gyfrol.

Menna Baines
Mwy
Dei Fôn sy’n dweud

Cau ysgolion – chwalfa’r rhesymoli afresymol

Efallai fod y ddau neu dri ohonoch sy’n darllen hyn o golofn yn cofio beth yw fy safbwynt ar gau ysgolion. Nid ar sail sentimentaleiddiwch, na rhyw edrych yn ôl hiraethus, y mae trefnu addysg. Caeer yr ysgol bob tro y dengys yr amodau mai hynny sydd orau i’r plant. Os na ddangosir hynny, cadwer hi. Mae cau’n digwydd fwyfwy y dyddiau hyn. Y ddau ffactor sy’n gyrru’r agenda ‘ad-drefnu’ yw newidiadau demograffig a thoriadau ariannol, gyda phob awdurdod lleol yn stryffaglio efo problem llefydd gweigion mewn ysgolion.

Yn rhyfeddol, nid oes gan y blaid sydd gryfaf yn yr union ardaloedd lle mae’r broblem ar ei gwaethaf, Plaid Cymru, bolisi ar y mater hwn nac arweiniad i’w gynnig. Yn eu maniffesto diweddaraf mae naw polisi creiddiol, ond dim ond distawrwydd llethol ar fater ysgolion bychain. Mae’n amlwg mai gadael y daten boeth arbennig hon i’r cynghorwyr sy’n rheoli awdurdodau lleol yw craidd strategaeth y Blaid.

Dafydd Fôn Williams
Mwy
Darllen am ddim

Brexit caled – pryderon Gwyddelig

Mae’n wybyddus i bawb fod y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn elfen ganolog yn y trafodaethau diddiwedd sy’n peri’r fath gecru ac ymrannu yn San Steffan. Ond mae’r modd y gallai ymadawiad Prydain effeithio ar safonau byw’r Gwyddelod yn destun pryder yno hefyd.

Y bore ar ôl i Theresa May golli’r bleidlais ar ei chytundeb Brexit, daeth Gerry’r plymar i tŷ ni i drwsio peipen a oedd yn gollwng dŵr yn y llofft. ‘Wel,’ meddai, ‘wyt ti’n meddwl bydd Theresa May’n gofyn am estyniad i Erthygl 50? Neu ti’n meddwl bydd pwyse ar Leo (Varadkar, y Taoiseach) dros y backstop rŵan?’

Efallai fod Gerry fymryn yn fwy o anorac gwleidyddol na’r rhelyw ond mae’n syndod faint o bobl yn Iwerddon sy’n dilyn, ac yn deall, manylion esoterig Brexit. Ydyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yma (fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru mae’n siŵr) wedi cael llond bol ar Brexit. Llond bol ar y tin-droi gwleidyddol yn Llundain, a llond bol ar y difaterwch tuag at y niwed y bydd Brexit – yn enwedig Brexit heb gytundeb – yn ei wneud i Iwerddon. Ond mae pobl yma yn cymryd diddordeb yn y saga ddiddiwedd yn San Steffan. Yn rhannol mae hyn oherwydd yr holl ddrama, a rhai o’r cymeriadau fel petaent wedi camu allan o Downton Abbey: mae Boris a Jacob Rees-Mogg yn cael eu trafod yma fel ffigyrau hollol gyfarwydd. Ond mewn gwirionedd y prif reswm am y sylw y mae Gwyddelod yn ei roi i Brexit – er gwaetha’r diflastod – yw’r ffaith eu bod nhw’n gwybod ei fod yn fater o bwys mawr i’r wlad ac iddyn nhw’n bersonol.

Yn ôl yr ymchwil (Economic and Social Research Institute), fe all Brexit caled (gyda thollau newydd ar fewnforion) olygu cynnydd o hyd at £1,200 y flwyddyn mewn costau byw i deuluoedd yma. Mae chwarter y nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Iwerddon yn dod drwy Brydain – ac mae dros 60 y cant o’r bwyd ar silffoedd yr archfarchnadoedd yma yn dod drwy Brydain.

Bethan Kilfoil

Mwy na hollti blew

Y blew. Naci, ddim y band, ond yr hyn sy’n cadw’n ceseilia ni’n gynnes yn y gaeaf. Pwy feddyliai fod y nythod bach tyfftlyd sydd gynnon ni i gyd yn naturiol yn gallu esgor ar y fath nyth cacwn.

Roedd mis Ionawr yn fis yr ymgyrch ‘Januhairy’, a merched yn cael eu hannog i roi’r gorau i eillio o dan eu ceseilia er mwyn gwneud y pwynt mai arferiad eithaf od ydi o yn y bôn, ac un sydd wedi dod yn norm heb fawr o drafodaeth na chwestiynu. Mae’n cael ei dderbyn fel ffaith bellach fod rhaid i ferched fod yn ddi-flew os ydan ni am fod yn fenywaidd ac yn ddeniadol i ddynion.

Mae’n fater cynhennus, fel y gwnes i ddarganfod pan wnes i rannu erthygl am Januhairy ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd ddelwedd o glawr rhifyn diwethaf y cylchgrawn hwn, sef llun trawiadol o’r gantores Lleuwen Steffan gyda blew ei cheseiliau yn y golwg.

Beca Brown
Mwy