O wybod cyn lleied o ddiddordeb sydd gan y cyfryngau Prydeinig yng Nghymru ac mewn Cymreictod fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau gan y sylw a roddwyd i’r newydd fod Dafydd Iwan wedi cyrraedd Rhif Un yn siartiau iTunes. Yn y broses rhoddodd ‘Yma o Hyd’ chwip din i recordiau diweddaraf y rapiwr o Sais, Stormzy, a’r Sgotyn soniarus Lewis Capaldi, dau sydd wedi cyrraedd yr uchelfannau yn y ganrif hon.
Mewn canrif flaenorol, wrth reswm, y cydiodd ‘Yma o Hyd’ gyntaf. Cofiaf hyd heddiw fod mewn gig gan Dafydd ac Ar Log yn sgubor Tafarn y Rhos yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983. Newydd gael ei recordio oedd y gân. Mae’n bosib fy mod i wedi ei chlywed eisoes. Ond hwnnw oedd y tro cyntaf imi fod yn bresennol mewn perfformiad ohoni. Meddiannwyd y gynulleidfa – a minnau – gan rym ac angerdd Dafydd a’i gân.