Arwyddocâd dewisiadau’r Ceidwadwyr Cymreig
Er eu bod o ddiddordeb angerddol i aelodau’r gwahanol bleidiau eu hunain, y caswir amdani yw nad yw canlyniadau’r gornestau mewnol a geir er mwyn dewis ymgeiswyr penodol ar gyfer gwahanol etholaethau yn tueddu i wneud llawer o wahaniaeth yn y pen draw. Yn sicr, ddim o ran rhagolygon etholiadol y pleidiau hynny. Ar y naill law, pan mae’r llanw gwleidyddol yn llifo i’r cyfeiriad cywir mae’n codi hyd yn oed yr ymgeiswyr mwyaf annhebygol ac annigonol i’r lan. (Henffych well, Virginia Crosbie AS!) Ond ar y llaw arall, os yw’r llanw ar drai yna bydd hyd yn oed yr ymgeiswyr mwyaf abl yn cael eu sgubo gan y llif i ebargofiant. Gydag ychydig iawn, iawn o eithriadau, rhagolygon y blaid sy’n cyfrif yn hytrach na rhinweddau neu safbwyntiau unrhyw ymgeisydd unigol.
Os yw hynny’n gyffredinol wir yng nghyd-destun etholaethau unigol, yna mae’n wirionedd dieithriad yn achos ymgeiswyr ar gyfer y seddau rhestr yn Senedd Cymru.