Wrth i mi roi hyn o eiriau ar glawr (19 Ionawr), mae’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn dop o storïau a sibrydion sy’n dangos yn eglur fod Johnson bellach yn ymladd am ei einioes. Ond does wybod lle bydd y stori wedi cyrraedd erbyn i chi ddarllen hwn. Mae’r broses o geisio cael ’madael ar Brif Weinidog yn gallu bod yn un drofaus ac mae’n parhau’n bosibiliad real y gall Johnson oroesi’r argyfwng presennol. Fe gofiwch i Theresa May, a John Major o’i blaen, oroesi pleidleisiau hyder, ac roedden nhw ill dau mewn sefyllfaoedd gwannach na’r gŵr a lwyddodd i ennill mwyafrif braf i’w blaid yn etholiad cyffredinol 2019.
Wedi dweud hynny, hyd yn oed os yw Johnson yn llwyddo i lusgo ymlaen am ddeuddydd, deufis neu hyd yn oed ddwy flynedd arall, mae’n weddol eglur ein bod bellach yn cychwyn ar gyfnod newydd yng ngwleidyddiaeth y wladwriaeth hon. Hyd yn oed os llwydda Johnson i barhau i rygnu byw fel Prif Weinidog, mae oes ‘Boris’ – y gwleidydd adain dde boblyddol sydd wedi swyno cynifer ers cyhyd – ar ben.