Chwefror 2023 / Rhifyn 721

Dwy o gyfranwyr Gogglebox Cymru
Teledu

Ffraethineb y soffa-sylwebwyr

’Wy wedi bod yn gwylio Gogglebox Cymru, cyfres newydd a’r rhaglen fwyaf meta ar S4C ar hyn o bryd. Hynny yw, ’wy wedi bod yn gwylio pobl yn gwylio rhaglenni teledu, gyda llais Tudur Owen yn cyflwyno. Nawr, ddylse cyfres fel hon ddim gweithio ond fe wyddom ni fod Gogglebox yn llwyddiant ysgubol yn Saesneg a dyma roi siot arni yn Gymraeg. Ces fy nhynnu mewn i’w byd, ac wy’n hapus i fod yn ishte ar fy soffa’n gwylio rhesi o strabs yn gweud hi fel y mae am raglenni S4C, a sianelau eraill hefyd. A wir, maen nhw’n troi mas i fod yn feirniaid reit graff ar raglenni’r sianel o gysur eu scatter cushions a’u blancedi. ’Wy’n datgan fan hyn ’mod i’n dwlu ar Mark a Carwyn o Bolton a’u coctels anferthol; Catrin a Shaunagh sassy o Dregarth a’u gêm o ‘Snog, Marry, Avoid’; Stephen, Huw a Mike, y tri brawd hilariws o Frynaman; merched lysh y Rhondda; Cian, taid Cian, a thatŵ Cian o’i daid... wel ’wy’n dwlu ar bob un o’r criw cegog, cynnes a chwim eu hiwmor. Mae’n amlwg ’mod i’n lico gwylio pobl yn gwylio teli Cymraeg. Pwy feddyliai?

Elinor Wyn Reynolds
Mwy
Dominic Sandbrook a Tom Holland, cyflwynwyr podlediad ‘The Rest is History’.
Colofnydd

Hanes i’n hadlonni

Er ei bod hi’n fis Chwefror, mae’r golofn hon yn dechrau yn y cyfnod hwnnw rhwng y Nadolig a’r Calan. Dyw diwrnod yr addunedau mawr – rhai amhosib eu gwireddu gan mwyaf – ddim hyd yn oed wedi cyrraedd eto, ond rwyf wedi addo i mi fy hun y byddaf yn dechrau ar y ‘bywyd newydd’ yn gynnar eleni; yn manteisio ar gyfnod o’r gwaith ac anrhegion ’Dolig ‘meddylgar’, fel esgidiau rhedeg, i roi hwb i’m harferion cadw’n heini. Mae’n fore perffaith o aeaf ar ddiwedd blwyddyn – yn oer gyda haul gwanllyd ac awyr las. Eto i gyd rwy’n fy nghael fy hun yn gyndyn i godi o ’ngwely a chlymu careiau’r esgidiau newydd – a’r radio sydd ar fai.

Rwyf wedi cydnabod o’r blaen yn y golofn hon fy hoffter o’r cyfrwng, ac yn enwedig darllediadau newyddion, ond mae’r testun sy’n dwyn fy sylw y bore hwn yn un annisgwyl a dweud y lleiaf, sef trafodaeth am garthion dynol.

Catrin Evans
Mwy
Mari Lwyd yng Nghlwb y Bont, Pontypridd
Cwrs y byd

Mari’n codi calon

Yn wahanol i William Jones, arwr anarwrol nofel T. Rowland Hughes, nid blydi tships barodd i mi godi pac a symud i’r de i fyw. I’r gwrthwyneb yn llwyr. A dweud y gwir yn onest mi fydda i’n colli tships a physgod fy hen gynefin yn y Benllech. Mae fy nheulu ym Mhontypridd, fy nghymdogaeth newydd, yn gyfarwydd â sglodion y naill le a’r llall ac maen nhw’n gwbl bendant nad yw’r tships sydd i’w cael ar lannau Taf hanner cystal â’r rhai a gaiff eu gweini ger fy nghartref, gynt, ar lan y môr.

Diolch byth felly nad oedd tships – yn f’achos i, beth bynnag am William Jones – yn ystyriaeth o fath yn y byd yn fy mhenderfyniad i fudo o Fôn. Pwysicach lawer oedd y ffaith fy mod i erbyn hyn wedi bod ar yr hen ddaear ’ma ers tri chwarter canrif.

Vaughan Hughes
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Chwefror

Yr hyn gyflawnodd Bale – Eilir Llwyd
Sgandal Qatargate – Mared Gwyn
Prinder cefnogaeth yn y Gogledd i Iwerddon Unedig – Bethan Kilfoil
Y Cyfrifiad a’r Gymraeg – dim achos galarnadu – Hywel Merfyn Jones
Ellen Hughes: llais dros ferched ei hoes – Jane Aaron
AM – llyfrgell ryfeddol o wefan – Dylan Huw
Nofel ‘ddeallus’ am hunaniaeth Gymreig – Simon Brooks

Mwy
Andrew Tate
Colofnydd

Y tocsig Tate

Enw cymharol ddiarth i mi oedd Andrew Tate tan ryw fis neu ddau yn ôl. Enw a oedd yn cael ei grybwyll (yn foliannus) ar gyfrifon Facebook rhai o’r bobol sy’n gwrthwynebu’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, felly sgrolio heibio a rowlio’n llygaid o’n i. Mi gododd ei enw o eto wedyn mewn sgyrsiau pryderus am fechgyn ysgol yn ei ddyfynnu a’i ddynwared, ac yn fuan roedd ei enw ym mhobman ar ôl iddo gael ei arestio yn Rwmania ar amheuaeth o fasnachu pobl.

Mae Tate wedi gwneud ei farc mewn sawl maes, fel cic-focsiwr, seren teledu realaeth a dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol ymhlith pethau eraill. Mae’n fisogynydd ar ei gyfaddefiad ei hun ac yn pedlera ei syniadau hyll i filiynau o ddilynwyr am sut y dylai dynion a bechgyn ymddwyn. Ymhlith ei syniadau am ferched mae o’n dweud mai adra mae ein lle ni, na ddylen ni gael gyrru ac mai eiddo dynion ydan ni.

Beca Brown
Mwy
Poster hyrwyddo Pijin/Pigeon
Theatr

O’r llwyfan i’r ddalen – stori dau ffrind

Enillodd y nofel ryfeddol Pigeon lu o wobrau i’r awdur Alys Conran: Llyfr y Flwyddyn (Saesneg) 2017, gwobr Barn y Bobl a’r wobr Ffuglen. Ac yn awr, addasiad newydd sbon danlli ohoni – Pijin/Pigeon – gan Bethan Marlow fydd taith wanwyn Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo.

Stori am ddod i oed ydi’r nofel, ac am y cyfeillgarwch rhwng bachgen a elwir Pigeon a merch o’r enw Iola ac fel y mae digwyddiadau ysgytiol yn troi eu byd â’i ben i lawr. Y cyfnod yw’r 1990au cynnar a’r lleoliad yw hen bentref chwarelyddol yn y gogledd.

Hon oedd nofel gyntaf Alys, a gofynnais iddi a oedd wedi ystyried ei haddasu ar gyfer y llwyfan ei hun.

‘Na, dwi’n licio creu petha o’r dechra,’ meddai. ‘Y cyffro yna wrth ddarganfod stori a chymeriadau newydd. Does gen i ddim awydd ail-greu rhywbeth dwi wedi’i orffen yn barod mewn ffurf arall…’

Bethan Gwanas
Mwy
Caffi Yr Orsaf ar Heol y Dŵr, Penygroes, Dyffryn Nantlle
Cymuned

Adfer bro – profiad Dyffryn Nantlle

“Yn Haf 2020 cyhoeddodd Northwood Hygiene, y prif gyflogwr lleol, eu bod yn cau eu ffatri gan roi naw deg pedwar o weithwyr ar y clwt. Ym mhentref Penygroes ei hun, yn fras ers dechrau cyfnod datganoli yn 1997, caeodd pob meddygfa namyn un a chwtogwyd oriau’r llyfrgell... diflannodd y garej, y banc(iau), dau gigydd a nifer o fusnesau…”

Geiriau Grug Muse, wedi eu cyfieithu, ydi’r uchod mewn ysgrif ddifyr yn y gyfrol Welsh Plural lle mae nifer o bobl lled ifanc yn myfyrio ar ystyr Cymreictod iddyn nhw. Gallai’r geiriau hyn, wrth gwrs, gael eu cymhwyso i bob ardal ôl-ddiwydiannol yng Nghymru, bron, a’r mwyafrif o drefi bach y wlad. Dyna’r profiad; sefydliadau’n cau, gwasanaethau’n ymbellhau a’r stryd fawr yn nychu.

Alun Ffred Jones
Mwy
Un o ddarluniau Leslie Illingworth yn argraffiad gwreiddiol Gŵr Pen y Bryn
Llên

Nofel Tegla am Ryfel y Degwm yn 100 oed

Ystrydeb bellach yw honni ein bod yn byw yn ‘oes aur’ rhywbeth neu’i gilydd. Bid a fo am hynny, rydym yn sicr yn byw mewn cyfnod toreithiog yn hanes y nofel Gymraeg. Nid felly y bu hi.

I gryn nifer o’n cyndeidiau Anghydffurfiol, ‘ffugchwedl’ oedd y nofel – peth Seisnig neu, gwaeth fyth, Ffrengig. Yn lle afradloni oriau ar y fath storïau ffansïol, anogid y Cymry i droi at yr Ysgrythur Lân neu gofiannau hoelion wyth y pulpud Cymraeg. Eironi hyn oll, fel y nododd yr Athro John Rowlands, oedd mai’r nofel oedd ‘y ffurf a chwiliai am y gwir’. Ymdrech oedd hi i dorri’n rhydd o lyffetheiriau’r traddodiadau llenyddol a barddol, a chynnig llun o fywyd fel roedd e. Yr hyn a wnâi arloeswyr y nofel Gymraeg, fel Daniel Owen yn anad neb, oedd dal drych at eu cymdeithas. Ac yn Gŵr Pen y Bryn yn 1923, aeth Edward Tegla Davies – ‘Tegla’ i bawb – ati i geisio dangos bywyd ‘enaid cyffredin’ a oedd yn byw trwy un o gyfnodau mwyaf cythryblus hanes Cymru yn y cyfnod: Rhyfel Degwm y 1880au.

Andrew Misell
Mwy
Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd
Materion y mis

Llanast y gwasanaeth iechyd

Ers degawdau lawer, mae problem gynyddol wedi bod yn cyniwair yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Oherwydd sawl rheswm cadarnhaol, sy’n cynnwys cynnydd mewn addysg, cyflwr tai, maeth ac incwm yn gyffredinol, mae pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig yn byw’n hŷn. Newyddion da inni gyd, ie ddim? Wel, ie a nage. Dwi’n siŵr y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â Syr John Morris-Jones yn ei ymdriniaeth o’r ymadrodd ‘Henaint ni ddaw ei hunan’. I’r Ysgrifennydd Iechyd a sawl un arall, daw, ‘daw ag och gydag ef, a chwynfan’.

Yn feddyg ifanc yn 1997, rwy’n cofio ymgymryd ag astudiaeth dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ar y pryd, Dr David Prichard. Canfuwyd bod canran uchel o’r rhai oedd yn cael eu derbyn ar frys i adran feddygol Ysbyty Gwynedd yn gwneud hynny nid am resymau meddygol, ond am resymau cymdeithasol; hynny yw, anallu i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi heb rywun i ofalu amdanynt.

Catrin Elis Williams
Mwy
Yr haul yn machlud dros adeiladau San Steffan
Darllen am ddim

Amgloddiad cyfansoddiadol – term newydd, hen benbleth

Yn gyfreithiol nid yw datganoli wedi erydu sofraniaeth seneddol San Steffan. Yn ôl Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae cyfres o lywodraethau’r Deyrnas Unedig, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod wrthi’n lleihau grymoedd yr Alban a Chymru. Ymateb i hynny yw’r ymchwil i ffyrdd o ddiogelu datganoli.

O’r cychwyn cyntaf – ers y dyddiau hynny ddiwedd y 19g. pan oedd gwŷr fel Tom Ellis a Lloyd George yn breuddwydio am yr hyn a elwid bryd hynny’n ymreolaeth – bu tensiwn wrth wraidd yr ymdrech i sicrhau datganoli i gyrion Celtaidd y wladwriaeth Seisnig.

Ar y naill law, mae datganolwyr, erioed, wedi rhagweld sefydlu senedd-dai a llywodraethau i ni’r cenhedloedd bychain fel newid di-droi’n-ôl yn natur y drefn wleidyddol. Ar y llaw arall, mae amddiffynwyr y status quo wedi mynnu nad oes modd ildio egwyddor ganolog y traddodiad cyfansoddiadol Seisnig, sef ‘sofraniaeth seneddol’. Dyma egwyddor sy’n sicrhau, wrth gwrs, na all datganoli fyth gael ei ystyried yn barhaol gan y byddai mwyafrif syml yn Nhŷ’r Cyffredin (lle mae oddeutu 85% o’r aelodau’n cynrychioli etholaethau Seisnig) wastad yn ddigon i ddiddymu popeth a enillwyd, a hynny dros nos.

Yn y pen draw, pan enillodd y datganolwyr eu buddugoliaeth fawr ddiwedd yr 20g., fe wnaethpwyd hynny ar sail yr hyn y gellid ei ystyried yn amwysedd bwriadol.

Ar y gwastad cyfreithiol, fe sicrhawyd bod y ddeddfwriaeth a sefydlodd seneddau a llywodraethau Cymru a’r Alban yn cynnwys ffurf ar eiriau sy’n datgan yn blwmp ac yn blaen fod San Steffan yn parhau i fod â’r hawl i ddeddfu ynglŷn â’r holl faterion hynny a ddatganolwyd. Roedd y datganiadau hyn o barhad perthnasedd sofraniaeth seneddol yn tanlinellu grym y wireb honno a gysylltir ag Enoch Powell: power devolved is power retained.

Richard Wyn Jones