Chwefror 2024 / Rhifyn 733

Vaughan Hughes ar leoliad gyda chriw newyddion HTV
Ysgrif Goffa

Cofio Vaughan Hughes – y cyfathrebwr rhwydd

Pan ymunodd Vaughan â thîm Y Dydd yn 1970, daeth i eistedd wrth y ddesg drws nesa’ i mi, a sylwais ar unwaith ei fod yn hollol wahanol i’r gweddill ohonom o ran ei gefndir newyddiadurol. Roedd wedi bwrw’i brentisiaeth ar bapurau lleol yn y gogledd – Y Clorianydd ac yna papurau grŵp Yr Herald – lle magodd drwyn am stori dda. Roedd ganddo hefyd brofiadau bywyd a’i gosodai ar wahân ac roedd yn dipyn o fardd! Roedd e’n dwlu ar eiriau, a’i arddull ysgrifennu mor gywrain.

Roedd Vaughan hefyd yn gyfathrebwr heb ei ail. Siaradai yr un mor gyfforddus gyda ffermwyr ym mart Dolgellau ag a wnâi gyda gweithwyr ffatri Ferodo neu lowyr Cynheidre yng Nghwm Gwendraeth. Dyna’r rhinweddau a’i galluogodd i gael gyrfa deledu lwyddiannus.

Cenwyn Edwards
Mwy
Vaughan Gething a Jeremy Miles
Materion y mis

Gething a Miles

Wel, mae Gething a Miles wedi cychwyn gosod eu stondinau, ac yn ôl y disgwyl does dim gwahaniaethau barn sylfaenol rhyngddyn nhw. Mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith fod y ddau rywfaint i’r dde o’r canol o ran sbectrwm de a chwith y Blaid Lafur, a does dim ymgeisydd adain chwith yn y ras i gorddi’r dyfroedd. Ond mae’n adlewyrchiad hefyd o’r consensws sy’n bodoli nid yn unig o fewn Plaid Lafur Cymru, ond hefyd rhwng y blaid honno a Phlaid Cymru. O ganlyniad, mae’n gwleidyddiaeth a’n llywodraethiant ni gymaint yn fwy gwaraidd ac aeddfed na’r hyn a geir yn San Steffan. Welwn ni ddim, felly, y math o ffraeo a gafwyd yn y ras arweinyddol rhwng Sunak a Truss.

Tweli Griffiths
Mwy
Angèle
O Ewrop

Ieuenctid Ewrop – gwrthglawdd rhag y dde eithafol?

Tybed sawl un ohonoch sydd wedi clywed am Rosalía, Måneskin, Angèle neu Stromae? I wneud pethau’n haws, meddyliwch amdanyn nhw fel Tara Bandito, Candelas, Elin Fflur a Sage Todz tir mawr Ewrop. Dyma’r enwogion fydd yn derbyn llythyr gan y Comisiwn Ewropeaidd (yn ôl y sôn) yn gofyn iddyn nhw alw ar bobl ifanc i bleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mehefin.

Gallai’r etholiad fod yn foment dyngedfennol i Ewrop wrth i’r arolygon barn ddarogan ymchwydd sylweddol yn y gefnogaeth i’r asgell dde eithafol. Y gobaith ydi y bydd y to ifanc yn heidio i’r blychau pleidleisio ac yn ffrwyno’r don honno ar alwad yr enwogion. Ond mae hwn yn dalcen caled, ac wrth annog yr ifanc anfoddog i bleidleisio mae perygl y gallai’r adain dde ymelwa.

Mwy
Gladys Thomas, Mary Ellis, Annie Hughes Griffiths ac Elined Prys ar risiau’r Tŷ Gwyn, Washington DC, 21 Chwefror 1924, lle cyflwynwyd yr Apêl i’r Arlywydd Calvin Coolidge
Ymgyrchu

Y neges heddwch a groesodd yr Iwerydd

Buwyd yn trefnu ac yn casglu enwau ar y ddeiseb – 390,296 o enwau menywod o bob cwr o Gymru – trwy gydol 1923, gyda phedair gwraid yn hwylio i America ddechrau 1924. Ac 19 Chwefror eleni, beth bynnag fydda’i yn ei wneud, fe fydda’i yn sicr o ddwyn i gof mai ar y diwrnod hwnnw, union ganrif yn ôl, y cynhaliwyd cinio mawreddog yng ngwesty’r Biltmore yn Efrog Newydd, lle cyflwynwyd ac yr agorwyd y gist, y dangoswyd y ddeiseb, ac yr anerchwyd y dorf a gynrychiolai gannoedd o fudiadau menywod, gan arweinydd y ddirprwyaeth o Gymru, Annie Hughes Griffiths. Cofio, yn sicr. Teimlo’n emosiynol hefyd, o bosib. Am mai Annie Hughes Griffiths oedd fy mam-gu.

Meg Elis
Mwy
Angharad Pearce Jones
Celf

Ehangu gorwelion wrth ddal i siapio’r dur

Serch ei llwyddiannau, a hithau’n ystyried ei bod wedi cyrraedd cyfnod canol ei gyrfa, mae Angharad Pearce Jones yn awyddus i ehangu ei gorwelion. ‘Dwi wedi arddangos ym mhob oriel yng Nghymru bron ac mae’n rhaid i mi gael fy enw allan o Gymru a chael fy ngwaith mewn orielau mawr yn Lloegr a thu hwnt,’ meddai. ‘Dyna fydd rhaid i mi ei wneud os ydw i isio parhau i greu, talu’r morgais a gwneud bywoliaeth.’

‘Does dim marchnad gelf yng Nghymru – dyna sy’n anodd. Does dim rhwydwaith masnachol a dim asiantaethau. Ond allwch chi byth ddisgwyl i bethau ddod i chi. Sut yden ni’n gallu torri allan?’

Robyn Tomos
Mwy
Lleuwen yn chwarae'i gitâr ar lwyfan
Cerdd

Holi Lleuwen am yr ‘Emynau Coll’

Mae’r gantores-gyfansoddwraig Lleuwen Steffan ar fin mynd ar daith o gwmpas nifer o gapeli Cymru i gyflwyno prosiect sy’n cynnwys emynau llafar gwlad, recordiadau o weinidogion yn mynd i hwyl ac atgofion llafar o ddiwygiad 1904–05.

Os bydd yr arddull yn annisgwyl, yna mae pwnc y gwaith newydd yn gyfarwydd, yn enwedig i’r sawl sydd wedi bod yn gwrando’n astud ar Lleuwen ers blynyddoedd. Roedd emynau, ffydd a materion ysbrydol yn amlwg ar ei halbwm diwethaf Gwn Glân Beibl Budr (2018), a chasgliad o emynau oedd yn boblogaidd yn ystod diwygiad 1904–05 a drefnwyd ganddi ar y cyd â’r pianydd jazz Huw Warren oedd Duw a Ŵyr (2005), ei halbwm cyntaf dan ei henw ei hun. Wrth sgwrsio am brosiect a thaith ‘Emynau Coll y Werin’ o’i chartref yn Llydaw dros fideo ar nos Fawrth oer yng nghanol Ionawr, mae hi’n cadarnhau bod emynau yn bresennol i raddau ym mhob un o’i chasgliadau wedi hynny.

Nici Beech
Mwy
Rhun ap Iorwerth
Darllen am ddim

Rhoi’r gwas newydd yn y glorian

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ddyrchafu’n arweinydd Plaid Cymru mewn amgylchiadau annisgwyl. Craffu ar y modd y mae wedi ymgodymu â’r her honno a wna ein colofnydd y mis hwn.

Mae’n parhau’n ddirgelwch i mi beth yn union yr oedd y grŵp (bychan, yn ôl a ddeallaf) o Aelodau Seneddol Plaid Cymru a benderfynodd ddiorseddu Adam Price yn ceisio ei gyflawni? Heb os, yr oedd amseru’r coup d’état, mis Mai y llynedd, yn od ar y naw.

Yr oedd yr olynydd mwyaf credadwy – efallai’r unig olynydd credadwy oedd ar gael – sef Rhun ap Iorwerth, wedi hen gyhoeddi ei fod yn bwriadu ceisio diorseddu Aelod Seneddol San Steffan Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ac wedi troi ei olygon a’i egnïon at y dasg honno. Yn ogystal, bryd hynny, dim ond ar ei hanner yr oedd cyfnod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Am gryn amser, felly, go brin y byddai sgôp i unrhyw arweinydd newydd osod ei stamp ei hun ar y blaid. Serch hynny, mynd fu hanes Adam Price a Phlaid Cymru’n gorfod chwilio am arweinydd newydd er gwaetha’r amgylchiadau.

Yn ffodus iawn o ran hygrededd y rhai a oedd am ddiorseddu Price – ac er mawr ryddhad i Crosbie, bid siŵr – fe gytunodd Rhun ap Iorwerth i wneud tro pedol. Fe fyddai’n aros yng Nghaerdydd wedi’r cyfan, ac erbyn canol mis Mehefin roedd wedi ei ddyrchafu’n arweinydd gan ymuno â llinach sy’n estyn yn ôl at Lewis Valentine.

Richard Wyn Jones

Cip ar weddill rhifyn Chwefror

Sgandal Swyddfa’r Post — yr oblygiadau cyfreithiolEmyr Lewis
Bwlio a’r byd gwaith — mater difrifol ond amwysFflur Jones
Blwyddyn o bleidleisio yn IwerddonBethan Kilfoil
COP28 — argraffiadau darlledwrRussell Isaac
Gwasanaeth rheithgorCatrin Evans
Albwm teuluol trwy lygaid mwnciDeri Tomos
Ffrindiau carcharBeca Brown

Mwy