Darllenwch i gael barn John Rowlands a Beca Brown am ‘y busnes beirniadu’, i weld pam y mae Guto Bebb yn cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o ‘wleidyddiaeth undeb y myfyrwyr’ a pham y mae John Pierce Jones yn rhyfeddu at draha mewnfudwr ym Môn. Darllenwch i gael gwybod am oriel ar-lein newydd curadur o Gaerdydd, am straeon ysbrydion sy’n plesio Elin Llwyd Morgan ac am straeon doniol o’r 1930au sy’n dal i oglais Gareth Miles. Bachwch gopi a mwynhewch ysgrifennu gorau’r wasg Gymraeg.
Vaughan Hughes
Fe dreuliais i’r rhan helaethaf o saithdegau’r ganrif ddiwethaf yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n ifanc. Ac fe wnes i fwynhau’r ddinas.
Sylwer mai’r ddinas ddywedais i. Nid y brifddinas. Doedd Caerdydd y cyfnod ddim yn ymarweddu fel prifddinas. Yn ei hunangofiant, Baglu ’Mlaen, mae Paul Flynn yn dyfynnu’r hyn a ddywedodd ei fam dreiddgar wrtho ar yr aelwyd yn Grangetown yn y pedwardegau. Bodolai tair gradd o Gymreictod, meddai’r fam. Roedd y Flynniaid, ‘mwngreliaid Gwyddelig/Sbaenaidd/Eidalaidd Caerdydd’ yn Welsh. Pobol y Cymoedd oedd y Real Welsh. Ac wedyn, meddai Mrs Flynn, roedd y Proper Welsh, sef y Cymry Cymraeg: ‘Protestaniaid pybyr oedd nid yn unig yn estroniaid ond yn byw hefyd ar ryw blaned arall’.