Gwion Owain yn gweld arwyddion o obaith o’r diwedd i S4C… Argyfwng Japan trwy lygaid daearyddwr ac un o drigolion y wlad… Dafydd ab Iago yn trafod pryderon niwclear yn sgil Fukushima… Adroddiad Bethan Kilfoil ar wythnosau cyntaf llywodraeth newydd Gweriniaeth Iwerddon… Tipyn o Shakespeare – ymateb Gareth Miles i gyfrol newydd am ei gysylltiadau Cymreig ac argraffiadau Emyr Edwards o’i theatr goffa yn Stratford ar ei newydd wedd… Cyfweliad gyda Menna Elfyn…Hoff gaffi’r awdur Llwyd Owen… Cofio Hafina Clwyd, Selwyn Roderick ac Yvonne Francis… A llawer mwy.
Vaughan Hughes
Mae rhai problemau’n haws i’w datrys nag eraill. Yng Ngorffennaf 2006 fe ofynnodd BBC 1 i wylwyr ynysoedd Prydain ddod o hyd i gantores i chwarae rhan Maria von Trapp yng nghynhyrchiad newydd Andrew Lloyd Webber o The Sound of Music ar lwyfan Palladium Llundain. Erbyn mis Medi 2006 cafwyd ateb cwbl foddhaol i’r cwestiwn How Do You Solve a Problem Like Maria? Dewisiwyd Connie Fisher, Cymraes Gymraeg o Sir Benfro.