Prif ddigwyddiad gwleidyddol Cymreig y mis diwethaf fu ethol arweinydd newydd Plaid Cymru ac yn y rhifyn hwn cewch ddarllen ymateb rhai o’n colofnwyr i fuddugoliaeth Leanne Wood. ‘Cam beiddgar’ fu ei hethol, meddai Richard Wyn Jones ond yn ôl Chris Cope mae’r Blaid, drwy ddewis y ferch o Gwm Rhondda, wedi ‘dewis y llwybr i ddinodedd’. Mae Angharad Tomos yn ateb sylwadau Richard Wyn Jones am Gymdeithas yr Iaith yn y rhifyn diwethaf a Bethan Kilfoil yn cymharu sefyllfa’r iaith Wyddeleg â chyflwr y Gymraeg. Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, sydd ar y soffa ar gyfer Cyfweliad Barn y mis hwn, yn trafod sut mae mynd â llenyddiaeth i’r priffyrdd a’r caeau – ar gyllideb sydd wedi’i rhewi. Ceir ysgrifau coffa i Emlyn Hooson a Mervyn Davies, erthygl yn ailgloriannu’r bardd a’r newyddiadurwr John Eilian, golwg ar wasg yr Alban, adolygiad o 'Gair ar Gnawd', oratorio newydd Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn, a llawer iawn mwy.
Beca Brown
Feddyliais i erioed y byddai gofyn imi fynd i brifddinas Ffrainc ac i sefydliad Americanaidd er mwyn gweld Cymreictod yn cael sbloets a sioe. A feddyliais i chwaith y byddai parc gwyliau sy’n moli diddordeb y mwyafrif ac yn pedlera adloniant poblogaidd yn rhoi’r fath fri i ddiwylliant lleiafrifol, gan roi llwyfan ar yr un pryd i gongol lai fyth o’r lleiafrif hwnnw, sef aelodau’r Urdd.