Efallai fod amser bwyta wyau Pasg drosodd ond mae yna lawer ichi gael eich dannedd ynddo rhwng cloriau’r rhifyn diweddaraf. Darllenwch farn y meddyg teulu Catrin Elis Williams am ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Will Patterson yn trafod fel y mae’r Unoliaethwyr wedi bod yn codi bwganod am Alban annibynnol. Rhannu ei brofiad fel rhiant i blentyn dyslecsig y mae John Pierce Jones y tro hwn. Mae Esyllt Nest Roberts de Lewis, sy’n byw yn y Wladfa, yn trafod rhamant a realiti mewn delweddau o’r Batagonia Gymreig. Ym myd llên mae Tudur Hallam yn rhoi ei farn am gystadlaethau a pholau piniwn llenyddol tra mae Elin Llwyd Morgan yn galw am fwy o onestrwydd mewn adolygiadau o lyfrau Cymraeg. Trafod ein arferion siopa rhagrithiol ni fel Cymry y mae Chris Cope. Ac yn ei golofn wyddoniaeth mae Deri Tomos yn sôn am y profiad ysgytwol pan gredodd ei fod wedi gweld y dyfodol. Dim ond rhai o’r rhesymau i brynu Barn Ebrill.
Derec Llwyd Morgan
Heblaw’r gêm rygbi dyngedfennol rhwng Cymru a Lloegr, y mae’n drist cofnodi mai un o brif bynciau trafod byd y bêl – gron a hirgron – y mis diwethaf oedd penderfyniadau dyfarnwyr. Datganodd Syr Alex Ferguson – nage, Sur Alex Ferguson – fod Manceinion Unedig – nage, Manic-gwynion Unedig – wedi colli yn erbyn Real Madrid y 5ed o Fawrth am fod yr asgellwr Nani wedi cael ei anfon o’r maes. O leiaf, buasai wedi datgan hynny pe na buasai, druan, yn rhy drallodus i siarad yng nghynhadledd y wasg yn union ar ôl y gêm. Bu’n rhaid i’w ddirprwy, Michael Phelan, siarad drosto. Yn rhyfedd iawn, doedd Mr Phelan ddim yn rhy drallodus i siarad â’r wasg. (Ni ellir gwadu bod Fergie yn un o’r rheolwyr gorau yn hanes pêl-droed, ond ni ellir gwadu chwaith ei fod yn o’r cwynfanwyr mwyaf sarrug a fu erioed o flaen – neu ddim o flaen – meicroffon, ac yn llyncwr digon o fulod i esbonio pam nad oes yr un ar ôl ar bromenâd y Rhyl.)