Ebrill 2015 / Rhifyn 627

Materion y mis

Y wasg yn Sir Gâr – pennod newydd

Ers blynyddoedd bellach, gan y Carmarthen Journal y bu’r monopoli ar gyhoeddi hynt a helynt pobl a phethau Caerfyrddin. Ond lai na dwy flynedd ers i ŵr busnes o Sir Benfro lansio’r Pembrokeshire Herald – a ddaeth yn ddraenen sylweddol yn ystlys Cyngor Sir Benfro – mae’r un cwmni (MegaGroup) newydd gyhoeddi’r Carmarthenshire Herald a’r Llanelli Herald. Yma yn Sir Gâr, blogwyr fu’r prif gyfryngau i anfodlonrwydd cyhoeddus gyda’r sefyllfa yn Neuadd y Sir, ond gwelodd yr Herald fod yna fwlch yn y farchnad a mentrodd lansio dau fersiwn o chwaer-bapur yn y sir hon hefyd.

Alun Lenny
Mwy

Glywsoch chi’r un am y Cymro hyderus?

Mae cyfres sgetsus comedi Dim Byd yn cael ei darlledu ar hyn o bryd, a chyfres Caryl a’r Lleill newydd ddod i ben. Dyma ddwy gyfres bur wahanol, ond mae’r ddwy nid yn unig yn gwneud imi rowlio chwerthin, ond maen nhw hefyd yn gwneud imi deimlo wedi fy ngrymuso rhywsut, fel person ac fel Cymraes. Mae gallu adnabod eich hun a phobol eich gwlad eich hun ar y sgrin deledu, a hynny’n gwneud i chi deimlo’r fath lawenydd, yn rhywbeth go arbennig, ac yn rhywbeth sy’n anodd iawn i’w roi mewn geiriau. Ar ddiwedd pob darllediad o’r rhaglenni yma dwi’n teimlo y gallwn i fynd allan a newid y byd. Dwi’n teimlo’n rhan o rywbeth…

Beca Brown
Mwy
Celf

Merched yn y Ffrâm

Bu’r hanesydd celf yn holi’r artist SEREN MORGAN JONES ar drothwy ei harddangosfa ddiweddaraf, sy’n deyrnged i ferched dewr ac anghofiedig o Gymru’r gorffennol ond yn ddyledus hefyd i fyd heddiw.
Ein man cyfarfod oedd San Steffan, i lawr y ffordd o’r National Gallery, ac esboniodd Seren beth a ysbrydolodd ei chyfres ddiweddaraf o ddarluniau. ‘Mae pobl wedi clywed am Emmeline Pankhurst; ond mae’r rhan fwyaf o’r menywod enwog yn Saeson. O’n i’n meddwl, dwi heb glywed lot am be wnaeth y suffragettes yng Nghymru, pobl fel Lady Rhondda, Alice Abadan, Rachel Barrett ac eraill.’
Mae hanes merched yn thema ganolog yng ngwaith Seren, ac yn y gyfres ddiweddaraf hanes y suffragettes Cymreig sy’n dod dan sylw.

Mari Griffith
Mwy
Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth: Dirgelion DNA – yn syml

Ddydd Gŵyl Dewi darlledwyd y rhaglen DNA Cymru ar S4C am ddarllen DNA a’i ddehongliadau. Cafodd gryn gyhoeddusrwydd a bydd cyfres yn yr hydref yn datblygu ar ei chynnwys.
Droeon yn y golofn hon soniwyd am ddylanwad darganfyddiadau am DNA ar ein dealltwriaeth wyddonol o’r byd byw. Saith mis oed oeddwn i ar 23 Ebrill 1953 pan ddatgelwyd yr helics dwbl i’r byd, ac mae wedi fy nilyn byth ers hynny!

Deri Tomos
Mwy
Llên

Pontio Dwy Wlad

Mae Mared Lewis newydd gyhoeddi ei phedwaredd nofel i oedolion, am Eidalwyr sy’n cadw caffi yn un o drefi glan môr gogledd Cymru a’r Gymraes a ddaw i’w bywydau.
Rydym yn siarad yng nghartref Mared a’i theulu yn Llanddaniel Fab ychydig ddyddiau wedi lansiad nofel ddiweddaraf yr awdures o Fôn, Rhwng Dau Fyd (cyh. Y Lolfa). Roedd y digwyddiad hwnnw wedi’i gynnal mewn bwyty Eidalaidd ym Mhorthaethwy, ac mae rheswm da am hynny. Eidalwyr yn byw yng Nghymru yw dau o brif gymeriadau’r nofel, sef Tony neu Antonio sy’n cadw caffi yn Llandudno a’i fam Rosa, gwraig yn ei hwythdegau y mae rhyw ddirgelwch ynglŷn â hi.

Menna Baines
Mwy

Cytundeb Gwyl Dewi Diwerth

Bydd ein pedwerydd cyfansoddiad datganoledig yn profi’n fethiant yn union fel yr ymdrechion blaenorol, meddai ein colofnydd rhwystredig.
Ddiwrnod cyn y diwrnod mawr ei hun teithiodd David Cameron a Nick Clegg i Gaerdydd i gyhoeddi ‘Datganiad Gŵyl Dewi’, sef dogfen yn amlinellu’r tir cyffredin sy’n bodoli rhwng ein pedair plaid fawr o ran newid pellach i gyfansoddiad datganoledig Cymru. Beth bynnag fydd canlyniad etholiad cyffredinol mis Mai, gwyddom i sicrwydd bellach ein bod ar drothwy newid sylfaenol arall i’n trefn lywodraethol. Yn ôl fy nghyfrif i, y gyfundrefn arfaethedig hon fydd y bedwaredd i ni roi tro arni ers agor drysau’r Cynulliad Cenedlaethol ar 26 Mai 1999.

Richard Wyn Jones
Mwy