Ym mis y Grand National, ras arall sy’n mynd â bryd yr awdur sef honno am bencampwriaeth Bae Caerdydd
... Heb os, etholiad mis Mai yw’r etholiad anoddaf i’w broffwydo ers gwawrddydd datganoli. ...Y tro hwn mae ansicrwydd gwirioneddol nid yn unig ynglŷn â chanlyniad yr etholiad, ond hefyd natur y Cynulliad a fydd yn cael ei ethol yn ei sgil, a ffurf y Llywodraeth nesaf a ffurfir ohoni.
Ebrill 2016 / Rhifyn 639

Yr Ansicrwydd

Cefnogwn Ewrop – brwydr anodd y mae’n rhaid uno i’w hennill
Mae awdur yr erthygl hon, AS Ceidwadol Aberconwy, yn ymhelaethu ar ei gefnogaeth i’r UE.
... Mae’r ddadl dros Ewrop yn un hawdd. Gwledydd yr UE sy’n derbyn 45% o’n hallforion, mae 95% o’n hallforion amaethyddol yn mynd i’r UE ac wrth gwrs mae’r Ddinas yn tra-arglwyddiaethu dros ganolfannau ariannol eraill yr UE. Pa sicrwydd sydd y byddai hyn yn parhau?

Bwrw dy bleidlais ar wyneb y dyfroedd…
Mae difaterwch yn tanseilio democratiaeth a gall fod yn beryglus. Pryderon felly sydd gan ein colofnydd wrth inni wynebu sawl cyfle i bleidleisio dros y misoedd nesaf.
... Mae pleidlais yn debyg iawn i Ddameg y Talentau – nid pawb sy’n gallu gwneud y gorau ohoni. Yn wir, y duedd ddiweddar yw i nifer cynyddol o berchnogion pleidlais wneud dim o gwbl gyda hi.

Y lluniau a achubwyd: Gwaith John Cyrlas Williams
Mewn arddangosfa ym Mhlas Glyn-y-weddw dangosir gwaith artist Cymreig a aeth bron yn angof. Bu Barn yn holi PETER LORD, curadur yr arddangosfa, sydd hefyd yn rhoi sylw i’r arlunydd yn ei lyfr diweddaraf.
... ‘Dim ond cael a chael wnaethom ni i gael gafael arnyn nhw. Roedd yr arwerthwr ar fin rhoi matsien yn y cwbl pan newidiodd ei feddwl.’
Dyna sut yr achubwyd y casgliad rhyfeddol hwn o waith John Cyrlas Williams.

Figaro, FIGARO!
Tair opera ac un cymeriad hynod yn eu clymu. GERAINT LEWIS fu’n gweld cynyrchiadau diweddaraf y WNO: The Barber of Seville, The Marriage of Figaro a Figaro Gets a Divorce
Anodd fu symud trwy strydoedd Caerdydd ers y Nadolig heb sylwi ar bosteri anferth o farbwr deniadol gyda’i siswrn yn barod i dorri mwstash mawr melyn paentiedig. Do, daeth Figaro i’r dre!