Adolygiad Yfory gan Siôn Eirian, Theatr Bara Caws
Mae pob cenedl yn creu delweddau ohoni ei hun sy’n cynnal y syniad annelwig o beth a phwy ydi hi. I Gymru bu’r syniad ein bod yn genedl radical, ddiddosbarth yn gysur i bleidiau gwleidyddol ac yn ehangach trwy’r 20g. Yn anffodus cafodd y myth ei chwalu yn llwyr yn y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd a does neb yn siŵr beth i’w wneud o’r canlyniad a’i ganlyniadau. Daeth gwleidyddion a phob math o fudiadau parchus wyneb yn wyneb â realiti cymdeithasau diobaith a bregus heb sôn am ragfarnau digon annymunol.
Ac o’r chwalfa yma mae Siôn Eirian wedi ysgrifennu’r ddrama ddigymrodedd hon sy’n rhyw fath o sialens i’r drefn wleidyddol. ‘Llef un yn llefain yn y diffeithwch’ ydi hi.