Ebrill 2018 / Rhifyn 663

Cip ar weddill rhifyn Ebrill

Y gwenwyno yng NghaersallogJohn Stevenson
Iwerddon a’r ddiod feddwol – diwedd cyfnodBethan Kilfoil
Holi Hefin Robinson, awdur 'Estron'Gruffudd Owen
Negeseuon cymysg ‘Mis Menywod’ y SianelSioned Williams
Tatŵs a thabŵsDeri Tomos
Safiad egwyddorol Pep GuardiolaDerec Llwyd Morgan
Teyrngedau i Glenys Mair Lloyd, Harold Carter, Trefor Selway a D. Byron Evans

…a llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.

Mwy
Materion y mis

Trump a Kim Jong-un – ‘cyfarfod arfaethedig syfrdanol’

Consensws sawl darogan diweddar o ran oblygiadau cynnal ‘Ail Ryfel Corea’ yw buddugoliaeth lwyr i Unol Daleithiau America a De Corea a’u cynghreiriaid, a dinistrio prif luoedd arfog y Gogledd o fewn cyfnod o ddyddiau’n unig neu fis ar y mwyaf. Ond − ac mae hwn yn ond mawr − byddai’r gost yn ddychrynllyd o uchel i bob ochr. Gan osod y defnydd tebygol o arfau niwclear o’r neilltu, gellid disgwyl marwolaeth miliwn o sifiliaid yn Seoul, prifddinas De Corea, o ganlyniad i’r miloedd o fagnelau a thaflegrau confensiynol y gallai’r Gogledd eu tanio atynt o fewn eiliadau. Ond − a dichon taw dyma’r ond pwysicaf oll − dyna fyddai diwedd Gogledd Corea a diwedd gafael teulu Kim Jong-un ar rym.

Brieg Powel
Mwy

Merch o Port: Holi Carys Lake

Mae’n byw ym Mhorthmadog, mewn tŷ llawn o gelf, heb fod ymhell o’i chartref genedigol yn Nhremadog. Mae ei gwallt byr yn glaerwyn, er fy mod yn sylwi bod cudyn o liw pinc ynddo y diwrnod mae hi’n cael tynnu ei llun ar gyfer BARN, a hwnnw’n matsio ei thiwnig llachar a’i sgarff. Mae’n hoffi garddio a chogino, ac yn fam i bedwar o blant sydd bellach yn oedolion. Mae’n byrlymu siarad, ac yn defnyddio’r ymadrodd ‘twt a baw’ yn aml, yn enwedig wrth sôn am bethau nad oes ganddi amynedd gyda nhw. Yn sicr, mae hi’n credu mewn siarad yn blaen ac mae’n gas ganddi jargon. Dyma Carys Lake, arweinydd Canolfan Iaith Uwchradd Gwynedd. I’r ganolfan hon ym Mhorthmadog y daw newydd-ddyfodiaid i’r sir sydd yn eu harddegau, a hynny er mwyn dilyn cwrs dwys yn y Gymraeg.

Menna Baines
Mwy
Adolygiadau

Dogfennwr a Dyngarwr

Philip Jones Griffiths: Ei fywyd a’i luniau

Mae Philip Jones Griffiths yn cael gafael arnoch cyn i chi hyd yn oed agor y llyfr yma am ei fywyd a’i luniau. Mae’r llun ohono sydd ar y clawr yn gwneud i chi deimlo eich bod ym mhresenoldeb dyn arbennig iawn. Yn ôl Ioan Roberts roedd ‘treiddgarwch ei lygaid pan edrychai arnoch yn gwneud rhywun yn ymwybodol ei fod yn cofnodi pob manylyn’. Ydi, mae o’n edrych fel petai o’n paratoi i dynnu llun ohonoch chi, ond nid llygaid oer, dideimlad ydyn nhw. Maen nhw’n llawn chwilfrydedd a chynhesrwydd naturiol, heb sôn am hiwmor tawel.

Emyr Gruffudd
Mwy
Ysgrif Goffa

Cofio John Griffiths

Cafodd John Griffiths ei fagu yn Oakwood, Pontrhydyfen, yn Nyffryn Afan. Mynychodd Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen lle derbyniodd ei addysg gynnar dan brifathrawiaeth y diweddar Alwyn Samuel, gŵr a hyrwyddai’r diwylliant cerddorol Cymraeg yn ei ysgol a’i gymuned. Bu dylanwad Alwyn yn fawr ar John a’i gyfoedion a daeth nifer ohonynt yn enwau cyfarwydd ym myd adloniant, yn eu plith ei gefnder Geraint Griffiths, Hefin Elis, Wil Davies a’r actores Siân Owen. Deuai John o deulu cerddorol. Roedd ei dad, fel nifer o’i gymdogion, yn aelod o gôr cerdd dant y pentref, Parti Pontrhydyfen. Roedd ei chwaer fawr Dorothy yn unawdydd llwyddiannus, yn un o sêr cerdd dant y cyfnod, a’i chwaer fach Nest hefyd yn gantores fedrus.

Cleif Harpwood
Mwy
Darllen am ddim

Diddymwch Gomisiynydd y Gymraeg – er lles y Gymraeg

Ar hyn o bryd dwi’n ysgrifennu llyfr am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Dilyn Clwb Pêl-droed Porthmadog am dymor ydi’r strwythur naratif ond hyn a hyn o amser sy’n cael ei dreulio efo arwyr pêl-droed. Annhegwch yn y gymdeithas ehangach ydi’r pwnc. Ond yn anffodus, wrth aildrefnu’r deunydd, rwyf wedi gorfod gollwng brawddeg sy’n haeddu trafodaeth bellach. A dyma hi: ‘Cymdeithas yr Iaith ydi’r mudiad mwyaf neo-ryddfrydol yng Nghymru.’

Simon Brooks