Ebrill 2019 / Rhifyn 675

Cerdd

‘Gwyn Hughes Jones ar binacl ei yrfa’

Adolygiad: UN BALLO IN MASCHERA (Verdi)
Opera Cenedlaethol Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, 23 Chwefror

Y tro diwethaf i mi weld Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio opera Giuseppe Verdi Un ballo in maschera (Y ddawns mewn mygydau) oedd ym Medi 1982 pan ganwyd rhan y Brenin Gustavus yn gofiadwy gan Dennis O’Neill. Y tro hwn dychwela’r gwaith i repertoire y cwmni gydag un o denoriaid arwrol ein cyfnod, Gwyn Hughes Jones, yn canu rhan y Brenin anffodus. Mae’r cynhyrchiad gan David Pountney yn un o dri ganddo sy’n cyflwyno inni drioleg o operâu llai adnabyddus ‘cyfnod canol’ Verdi – cafwyd La Forza del Destino y llynedd a daw Les vêpres siciliennes y flwyddyn nesaf. Mae Pountney wedi bod yn ffodus i allu denu Gwyn i berfformio yn y gyfres, a’n lwc ninnau yw cael clywed y tenor ar binacl ei yrfa. Mae’n meddiannu’r llwyfan ac yn ein cyfareddu fel canwr ac actor yn rhan – Riccardo!

Geraint Lewis
Mwy
Materion y mis

Rygbi Cymru – beth nesaf?

Melys iawn oedd Camp Lawn 2019. Melysach fyth, mae’n siŵr, i Warren Gatland a’i gefnogwyr, a bydd yn hwyluso ei gytundeb nesaf, ble bynnag y bydd hynny. 

Roedd yn derfyn melys i’r tymor hefyd, o ystyried bod Cymru, yn y gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc, 16 pwynt i ddim ar ei hôl hi ar yr egwyl. O’r ‘fesen’ honno tyfodd derwen go gref, yn go gyflym.

Y cwestiwn bellach, ym mlwyddyn Cwpan Byd, yw a oes dyfnder yn y gwreiddiau, a beth am ansawdd y gwrtaith i fwydo’r canghennau? Nid cwestiynu gallu’r tîm i efelychu proffesiynoldeb pêl-droedwyr yr Almaen, Brasil, neu Ffrainc fel tîm twrnament yr ydw i, ond gofyn pa siâp fydd ar y trafod a’r cynllunio oddi ar y cae.

Llwyddodd Gatland i greu naws clòs clwb yn ei garfan genedlaethol, gan annog chwaraewyr cyffredin i chwarae fel pencampwyr. Ond beth nesaf?

A fyddai uno taleithiau yn y de a chreu carfan newydd yng ngogledd Cymru yn arwain at fwy o ddadlau oddi ar y maes chwarae?

Iolo ap Dafydd
Mwy
Darllen am ddim

Brexit yn fy atal rhag gyrru lori

Y mis hwn ymatebais i gyhoeddiad yng nghylchlythyr fy nghyngor lleol yn dweud ei bod yn ofynnol i mi a ’nhebyg, deiliaid trwyddedau gyrru Prydeinig, eu cyfnewid am drwyddedau Gwlad Belg. Pethau bychain cymharol ddibwys o’r fath sy’n ein hatgoffa o’r hyn y bydd Brexit heb gytundeb yn ei olygu o ddifrif. Yn sydyn fydd fy hen drwydded yn ddim ond dogfen ddiwerth, annilys. Yn groes i’r gred sydd gan yr Ymadaelyddion, dyw Brwsel i gyd ddim yn gaeth i fiwrocratiaeth ymgordeddog. Mae’r broses o ildio un drwydded yrru a derbyn un arall yn hynod o gyflym a didrafferth. Chymerodd y cyfan ddim mwy nag ugain munud i’w gwblhau. Ar derfyn y broses, dywedodd y swyddog, gan hanner gwenu: ‘Sori syr, ond fydd hi ddim yn bosib cadw’r categorïau ar eich hen drwydded Brydeinig oedd yn eich galluogi i yrru lorïau, bysys a thractorau.’

Onid yw Brexit yn beth melltigedig! Fy amddifadu o’r hawl i yrru lori, bws a thractor! A bod o ddifrif, y ffaith amdani yw nad oes ots gen i o gwbl am hynny. A dweud y gwir nid wyf wedi gyrru cerbyd o fath yn y byd ers imi basio fy mhrawf gyrru dros 30 mlynedd yn ôl. A does gen i ddim bwriad dechrau nawr. Ond pwy a ŵyr am y dyfodol? Ar hyn o bryd rwy’n beicio i bobman, yn aml ar feic sy’n defnyddio injan fach drydan i ysgafnhau’r gwaith pedalu. (Cofiwch, rhag imi ymddangos yn hunangyfiawn, mae gyda ni gar. Ond fy ngwraig sy’n ei yrru.)

Mae dogn go lew o ansicrwydd ynghlwm â bod yn newyddiadurwr llawrydd fel myfi. A fydd Brexit yn ychwanegu at yr ansicrwydd? Mae’n anodd dweud. Rhoddodd helyntion trofaus Brexit fywoliaeth dda i lawer ohonom ym Mrwsel, yn newyddiadurwyr, cyfreithwyr, lobïwyr, a phawb sy’n ymhél mewn sawl dull a modd â gwleidyddiaeth. Ond a fydd fy nghwsmer gorau – o safbwynt ffioedd, nid BARN, yn anffodus! – yn wynebu cyfnod anodd pan ddaw’r holl drafod a checru i ben? Fyddan nhw fy angen i o hyd? Os hynny, och fi, ni allaf bellach arallgyfeirio i yrru lori, bws neu dractor.

Dafydd Ab Iago

Fydda’i byth yn nain

A minnau yn yr oed pan fo rhai o’m ffrindiau hŷn yn neiniau erbyn hyn, dyma wynebu’r tebygolrwydd llethol na fydda’i byth yn nain. Ond er bod ’na rywbeth trist o derfynol ynglŷn â diwedd y llinach a minnau’n unig blentyn, does dim diben poeni am rywbeth na fedra’i wneud dim yn ei gylch. Hyd yn oed pe na bai Joel yn awtistig (er bod ’na bobol sydd ag awtistiaeth uwch-weithredol sy’n paru a phlanta), pwy sydd i ddweud y byddai’n siŵr o gael plant beth bynnag?

Tydw i’n sicr ddim y math o fam a fyddai’n rhoi pwysau ar fy epil i’m ‘gwneud i yn nain’, ond mae ’na rai sy’n euog o wneud hynny, a’u hysfa i gael wyrion yn mynd yn drech na’u parch at ddewis personol eu plant i gael plant eu hunain neu beidio.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Celf

Môn Victor Cirefice

A’r Cymoedd yn bennaf y byddwn yn cysylltu’r Eidalwyr hynny a ymsefydlodd yng Nghymru a mynd ati i agor caffis a pharlyrau hufen ia. Ond ym mhegwn arall Cymru, yng Nghaergybi, yr agorodd rhieni’r artist Victor Cirefice eu caffi nhw, ar derfyn y 1940au.

Mae ’na reswm da pam mai i Gaergybi yn hytrach na Chaerffili, dyweder, y cafodd y Cirefice-iaid eu denu. Roedden nhw eisoes wedi ymfudo i Ddulyn o’u cynefin yn Cassattio, rhwng Rhufain a Napoli. Ond os mai eu bwriad oedd symud yn y man i wledydd Prydain, rhwystrwyd hynny gan yr Ail Ryfel Byd. Yn wahanol i Weriniaeth Iwerddon niwtral, roedd Prydain ar y pryd yn carcharu Eidalwyr am na ellid, ym marn yr awdurdodau, ymddiried yn eu teyrngarwch.

Pan ddaeth yr heddwch, y cyfan oedd angen i’w rieni ei wneud oedd dal llong a chroesi’r 57 milltir o Dun Laoghaire i Gaergybi. Ac yno yn 1949 y ganed Vittorio, neu Victor. A’i ynys enedigol sydd wedi ysbrydoli’r cyfan o’r lluniau mewn arddangosfa fawr o’i waith sydd yn Oriel Môn ar hyn o bryd.

Vaughan Hughes
Mwy
Prif Erthygl

Isetholiad Gorllewin Casnewydd – cefndir a chyd-destun

Nid oes dwywaith amdani, y Blaid Lafur Gymreig yw’r peiriant etholiadol mwyaf llwyddiannus yn hanes democrataidd yr ynysoedd hyn.

Mae dros ganrif ers i Lafur ddringo i’r brig o ran nifer y pleidleisiau mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru, a gydag un eithriad yn unig (sef etholiad Ewropeaidd 2009), maent wedi parhau yn y safle hwnnw ym mhob un etholiad ‘cenedlaethol’ ers hynny. Do, fe wnaeth sawl plaid arall ymdrech lew i herio ei record. Cafodd Fianna Fáil sawl degawd hynod, hynod lwyddiannus yng Ngweriniaeth Iwerddon. Bu Plaid Unoliaethol Ulster yn rhedeg y sioe yno am hanner canrif bodolaeth senedd Stormont. Rhaid cofio hefyd am lwyddiant y Rhyddfrydwyr Cymreig yn dominyddu gwleidyddiaeth etholiadol am ddwy genhedlaeth cyn y Rhyfel Mawr. Ond y gwir amdani yw nad oes yr un ohonynt yn gallu cymharu â record Llafur Cymru o lwyddiant cyson.

Richard Wyn Jones
Mwy