Agorwyd ysgol uwchradd newydd sbon yn Llangefni yn 1953. Roedd yn amlwg mai bwriad yr awdurdodau oedd llenwi’r sefydliad hwnnw â gwaed newydd – pobl o’r tu allan i Ynys Môn. E. D. Davies a benodwyd yn brifathro, Ernest Zobole yn athro Celf, Bobi Jones i ddysgu’r Gymraeg, a Gwilym Prichard yn athro Crefft. Roedd Gwilym, a hanai o Lanystumdwy, wedi cymhwyso fel athro celf yn y Coleg Normal cyn mynd ymlaen i arbenigo mewn crochenwaith a gwehyddu yng Ngholeg Celf Birmingham. Yn ystod ei arhosiad yn Birmingham y priododd â’r artist Claudia Williams, ac y ganwyd mab iddyn nhw. Ceri oedd y mab hwnnw. Daeth y teulu i fyw i Langefni a rhentu fflat bychan uwchben Siop Bapur Guest ar y Stryd Fawr cyn symud i dŷ cyngor newydd ar stad Pencraig oddi ar lôn Penmynydd.
‘Dwi’n cofio Pencraig yn iawn,’ meddai Ceri, ‘a dwi’n cofio siâp Melin y Graig, Llangefni, yn glir. Mae gen i gof eithriadol am siapiau. Dwi wedi defnyddio’r siâp hwnnw mewn nifer o beintiadau.’