Gan gymryd eich bod yn byseddu copi papur o’r cylchgrawn wrth ddarllen hwn, cwta fis sydd yna bellach cyn cynnal y chweched etholiad ar gyfer ein deddfwrfa genedlaethol. Yr etholiad cyntaf ers i’r ddeddfwrfa honno ddechrau cael ei galw wrth ei henw cywir, sef Senedd Cymru.
Wrth reswm, fe fydd pob math o elfennau diddorol i ymgyrch yr wythnosau nesaf a’r canlyniad fydd yn deillio ohono. Dyma’r etholiad cyntaf ers i’r etholfraint gael ei hymestyn i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed. Hwn hefyd fydd yr etholiad cyntaf ers i bwerau trethu ystyrlon gael eu datganoli. Pa wahaniaeth – os o gwbl – a wnaiff y datblygiadau hyn i natur yr ymgyrch a phenderfyniadau pleidleisio’r etholwyr?
Bydd ffawd arweinwyr y gwahanol bleidiau’n ddiddorol odiaeth hefyd. Sut, er enghraifft, y bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dygymod â’r her o gyfuno ymgyrchu gyda’r busnes caled a llethol o flinedig o lywodraethu yng nghyfnod pla? A glywn fwy gan hen-arweinydd-newydd y Torïaid, Andrew R.T. Davies, na dwndwr yr hen ddyn blin, sef y cywair a fabwysiadwyd ganddo ers i’w ragflaenydd orfod ymddiswyddo mor ddisymwth? Wedyn dyna ichi Adam Price. Mae ei ddoniau’n hysbys. Go brin fod ’na unrhyw un o’i genhedlaeth yn cystadlu ag ef o ran ei allu fel siaradwr ac ymgyrchydd. Eto fyth, mae angen doniau eraill i arwain plaid wleidyddol: y gallu i ddyfarnu a chyfannu; parodrwydd i rannu cyfrifoldebau a dylanwad gydag eraill. Bydd gwell syniad o’r hanner gennym am hyd a lled Adam yr arweinydd erbyn canol mis Mai.