Ym mis Ionawr eleni pan oedd milwyr Rwsia yn ymgasglu yn fygythiol ar ffin Wcráin, a phan oedd Pŵtin yn gwadu bod ganddo unrhyw fwriad o ymosod, cafwyd gwrthdrawiad bach diplomyddol rhwng Rwsia ac Iwerddon. Roedd llongau arfog Rwsia ar eu ffordd i’r dyfroedd sydd i’r de-orllewin o arfordir Iwerddon er mwyn cynnal ymarferiadau milwrol.
Roedd yna ddau reswm dros bryderu am yr ymarferiadau. Yn gyntaf, o safbwynt NATO a’r Gorllewin, mae’r rhan yma o Fôr Iwerydd yn arwyddocaol oherwydd bod yna geblau neu wifrau strategol bwysig o dan y môr sy’n cario data rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ôl sylwebyddion arbenigol, pwrpas cudd ymarferiadau Rwsia oedd ysbïo neu hyd yn oed amharu ar y gwifrau hynny.
Yr ail destun pryder oedd bod yr ardal benodol hon o’r Iwerydd yn rhan o ddyfroedd pysgota Iwerddon. Wrth gwrs, gwylltiodd hynny’r pysgotwyr. Nid yn unig fe fydden nhw’n cael eu rhwystro rhag pysgota yn ystod yr ymarferiadau, ond byddai tanio arfau yn tarfu ar y pysgod ac o bosib yn gwneud niwed ecolegol tymor hir.