Meic Birtwistle
Mae sawl ffin yn rhedeg trwy fywyd a gwaith Raymond Williams. A dyma destun llyfr newydd Dai Smith – dehongliad o’r ffactorau a ffurfiodd y llenor, y beirniad a’r hanesydd Cymreig.
Meic Birtwistle
Mae sawl ffin yn rhedeg trwy fywyd a gwaith Raymond Williams. A dyma destun llyfr newydd Dai Smith – dehongliad o’r ffactorau a ffurfiodd y llenor, y beirniad a’r hanesydd Cymreig.
D. Ben Rees
Dyma’r gyfrol gyntaf mewn cyfres, a fydd yn hynod o ddefnyddiol fel crynodeb hylaw o’r diddordeb cynyddol mewn astudiaethau gwerin. Dywed y golygyddion mai ffrwyth nifer o ddatblygiadau a gymerodd le yn niwedd yr ugeinfed ganrif yw’r gyfrol hon, yn arbennig sefydlu yn 1992 cwrs MA mewn Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Gymreig o dan nawdd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. O ganlyniad i hyn, ym 1994 sefydlwyd Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin yng Nghaerdydd, o dan nawdd Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Cofiaf sefydlu’r adran hon yn dda, oherwydd brwdfrydedd ambell i unigolyn yng nghyfarfodydd blynyddol Urdd y Graddedigion. Peidiodd Urdd y Graddedigion a chyfarfod bellach, a gobeithio nad oes perygl difodiant i’r Adran. Ni chawn awgrym o hynny yn Astudio Gwerin Gwlad. Yn wir, yr argraff a geir yw fod digon o ddeunydd ar gael i gynnal y maes ymchwil arbennig hwn. Yn y gyfrol gyntaf hon – yn ogystal â’r nesaf, sydd i’w chyhoeddi yn haf 2009 – rhoddir sylw arbennig i rai o gasglwyr pwysicaf llên ac arferion gwerin, o ddyddiau Edward Llwyd o Rydychen yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd at weithgarwch cynnar Amgueddfa Werin Cymru, a gweledigaeth fawr y Dr Iorwerth Cyfeiliog Peate yng nghanol yr ugeinfed ganrif.
Dyfrig Jones
Mewn rhai meysydd arbenigol, gellid rhannu cyhoeddiadau yn ddwy garfan. Ar y naill law, mae gennych lyfrau pwysig ond anniddorol. Y rhain yw’r cyfrolau sy’n cyfrannu at gyfanswm ein gwybodaeth, ond sydd yn eistedd ar y silff yn aros nes y bydd yr arbenigwr nesaf sydd â diddordeb yn yr un sgwaryn bach arbennig o’r profiad dynol yn ei dynnu i lawr, i’w ddyfynnu a’i ddefnyddio.
Will Patterson
Mae nifer o etholiadau anodd yn wynebu Plaid Lafur yr Alban yn y dyfodol agos. Etholiad mewnol yw’r cyntaf. Daeth y ffrae ynglyn â rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth Wendy Alexander i ben fis diwethaf, pan bleidleisiodd Pwyllgor Safonau Senedd yr Alban o bump i ddau bod Alexander wedi torri rheolau Seneddol, drwy beidio â datgan ei bod wedi derbyn y rhoddion ar Gofrestr Buddianau’r Aelodau. Er tegwch i Alexander, mae hi’n mynnu ei bod wedi trafod y mater gyda Clerciaid y Senedd, a’u bod nhw wedi cynghori nad oedd angen datgan y rhoddion – er iddi wneud hyn wedi’r dyddiad cau ar gyfer gwneud datganiad. Pasiodd y Pwyllgor Safonau y dylid ei gwahardd o siambr y Senedd am ddiwrnod, cosb a oedd yn ddigon i’w darbwyllo hi i ymddiswyddo fel arweinydd Llafur yn yr Alban, gan basio’r awenau – dros dro o leiaf – i’w dirprwy, Cathy Jamieson.
Hefin Wyn
Mae 30 mlynedd ers i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld a Chaerdydd. Bryd hynny, roedd canu pop Cymraeg yn cofleidio'r diwylliant dinesig. Dyma Eisteddfod Jarman, a chylchgrawn Curiad.
Malan Vaughan Wilkinson
Yn draddodiadol, mae eisteddfodau bychain, lleol, wedi cynnal y diwylliant Cymraeg a magu cenhedlaeth o berfformwyr dawnus. Ond a hwythau yn gyndyn o newid gyda'r amser, ai dyfodol digon du sydd o'u blaenau?
Helen Kalliope Smith
Yn aml iawn, mae plant mewnfudwyr yn colli gafael ar ei mamiaith wrth ymgartrefu mewn gwlad ddiethr. Ond gall dal gafael ar iaith eich rhieni fod yn fodd o adeialu pontydd rhwng y gwahanol genhedlaethau.
Catrin Redknapp
Mae dogfen Cymru'n Un yn ymrwymo'r llywodraeth i greu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer addysg Gymraeg. Ond mae maes addysg yn un anferth a chymleth. Ai hon fydd her fwyaf y llywodraeth newydd?
Beca Brown
Mae’r tymor a elwir yn haf yma o’r diwedd,ac er ein bod ni’n treulio o leia’ hanner blwyddyn yn edrych ymlaen ato, mae’n dod â lot fawr iawn o waith a siom efo fo os ’dach chi’n gofyn i mi. Rhwng poeni am y tywydd, am bris gwyliau, am ofal plant, am wisgo bicini (as iff), ac am arwyddocâd dipresing y wisg ysgol newydd sy’n hongian yn fygythiol yn wardrob y cyw melyn olaf, mae hi’n gyfnod digon straenllyd ar sawl aelwyd.
Ann Gruffydd Rhys
Mae clawr gwreiddiol Cysgod y Cryman yn gyfarwydd i sawl cenhedlaeth o ddarllenwyr Cymraeg. Ond nid y ddelwedd gyfarwydd yw'r un a gomisiynnwyd yn wreiddiol - a nid Cysgod y Cryman fo teitl gwreiddiol y gyfrol, chwaith.
Andrew Misell
Bron yn ddyddiol, mae economegwyr yn ymddangos ar y newyddion yn darogan gwae. Chwyddiant yw'r bwgan diweddaraf i godi ei ben, sydd yn dwyn i gof drafferthion llywodraeth Llafur rhwng 1974 a 1979. A oes perygl y bydd llywodraeth heddiw yn troi at y 70au am ateb i'r broblem?
Richard Wyn Jones
Yn ddiweddar cafodd darllenwyr Golwg ddarllen llythyr grymus gan Aelod Cynulliad Arfon, a Dirprwy Arweinydd grwp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, Alun Ffred Jones. Rhybudd i’r cenedlaetholwyr Cymreig yn eu plith oedd byrdwn y llythyr. Cyfeiriodd at sylw dychanol Brendan Behan ynglyn â thuedd hanesyddol mudiadau gweriniaethol Gwyddelig tuag at raniadau a checru mewnol. Wedi derbyn y Cofnodion a’r Ymddiheuriadau, y drydedd eitem ar agenda unrhyw gyfarfod gweriniaethol, meddai Behan, oedd ‘The Split’. Gochelwch rhag y demtasiwn o syrthio i fagl meddylfryd o’r fath, oedd neges Alun Ffred Jones i’w ddarllenwyr. Mae’n gyfnod allweddol yn hanes Plaid Cymru a Chymru fel ei gilydd. Rhaid wrth amynedd, dealltwriaeth a disgyblaeth os yw’r Blaid am fanteisio ar y cyfleon mawr all ddod i’w rhan.
Geraint Owen
Wedi hir ymaros, mae Gemau Olympaidd Beijing ar fin dechrau. Gwyr llywodraeth Tsieina y bydd y byd yn ei beirniadu yn ol safon y gemau hyn.
Vaughan Hughes
Bro a Bywyd Kyffin Williams, Gol. David Meredith, Barddas
Dwi’n credu y byddai hi’n werth mentro decpunt o leiaf y bydd y gyfrol ddwyieithog hardd a hyfryd hon ymhlith gwerthwyr gorau 2008/09. Mae’r ffaith y bydd hi ar werth ym Mhrifwyl Caerdydd o gymorth i warantu hynny. Fel y canodd Grahame Davies, mae muriau cartrefi cynifer o Gymry Newydd ein dosbarth llywodraethol dinesig yn gwegian dan bwysau lluniau Kyffin. A’r rheiny’n lluniau ‘sy’n costio kyffin lot’. Cofiwch nad oes wiw anghofio ychwaith yr holl brynu a chlodfori sydd ar ei waith o boptu i lannau Menai, yn y bröydd rydw i’n hoffi cyfeirio atyn nhw fel Môn a’r Kyffiniau.
Dot Davies
Ac eithrio un digwyddiad digon cywilyddus pan fues i mor ewn â cheisio dechrau sgwrs gyda’r cyn-bencampwr Boris Becker, roedd Wimbledon eleni yn fythgofiadwy. Na, dwi ddim am roi’r manylion am ‘Becker-gate’ ond digon yw dweud na fydd yr hen Boris yn cael cerdyn Nadolig wrtha i eleni. Steffan Edberg oedd fy ffefryn i ta beth! Heblaw am yr Almaenwr sych, bydd Wimbledon 2008 yn cael ei gofio am ddau beth. Y cyntaf fydd y marathon o ffeinal rhwng Roger Federer a Rafael Nadal. Dyn dewr fyddai’n dadlau gyda John MacEnroe pan ddywedodd mai dyna’r ffeinal orau erioed. Boed yn ffan o Federer neu’n ddwl am Nadal, roedd yn enghraifft berffaith o ddau oedd ar eu gorau. Mae’n ystrydeb, ond er i Federer golli, tenis oedd yr enillydd yn y pen draw, a gobeithio’n wir y bydd y cyrtiau a fu’n orlawn ar hyd a lled y wlad am bythefnos y bencampwriaeth yn parhau felly.