Mae’r haf yma. Ac mae’r rhifyn dwbl yma, yn eich gwahodd ar daith. I ardal Wrecsam yn ein hatodiad Eisteddfodol lliwgar, yng nghwmni Gareth Miles, Aled Lewis Evans, Elin Llwyd Morgan ac eraill. I’r Alban gyda Richard Wyn Jones a Will Patterson, i Iwerddon gyda Bethan Kilfoil ac i Fenis i ganlyn Iwan Bala. Neu, yn nes adref, i fyd Jarman a’i ganeuon, ar drywydd Slutwalk gyda Beca Brown, neu i bori mewn llyfrau gyda Gerwyn Wiliams sy’n craffu ar gystadleuaeth ‘Cyfaddawd y Flwyddyn’. Dros gan tudalen o’r ysgrifennu gorau – bachwch gopi.
Dyma ugain cwestiwn i brofi a lwyddoch chi i ddarllen y rhifyn hwn o Barn o glawr i glawr. Ydyn, mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r cylchgrawn, dim ond i chi chwilio amdanyn nhw. Anfonwch eich atebion ar e-bost i swyddfa@cylchgrawnbarn.com neu yn y post i Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ, gan roi CWIS naill ai ym mocs testun yr e-bost neu ar frig y cyfeiriad post.
Dyddiad cau: dydd Llun 12 Medi.
Y wobr fydd gwerth £75 o nwyddau o Adra, siop nwyddau Cymreig bendigedig ar-lein: www.adrahome.com